Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Rhufeiniaid 1

1
1Paul gwas i Iesu Grist, apostol galwedig, wedi ei neillduo i Efengyl Dduw, 2yr hon a rag-addawodd Efe trwy Ei brophwydi yn yr Ysgrythyrau sanctaidd, 3am Ei Fab, yr Hwn a aned o had Dafydd yn ol y cnawd, 4a hyspyswyd yn Fab Duw gyda gallu, yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd, 5trwy’r Hwn y derbyniasom ras ac Apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn Ei enw Ef: 6ym mysg y rhai yr ydych chwi hefyd, galwedig gan Iesu Grist; 7at bawb sydd yn Rhufain, anwyl gan Dduw, galwedigion i fod yn saint; Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
8Yn gyntaf, diolch yr wyf i’m Duw trwy Iesu Grist oblegid yr oll o honoch, fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd; 9canys fy nhyst yw Duw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu yn fy yspryd yn Efengyl Ei Fab, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch, bob amser yn fy ngweddïau, 10yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwyddhynt trwy ewyllys Duw i ddyfod attoch: 11canys hiraethu yr wyf am eich gweled, fel y cyfrannwyf i chwi ryw ddawn ysprydol fel y’ch cadarnhaer, 12a hyny yw fel y’m cyd-gysurer ynoch, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. 13Ac nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, mai llawer gwaith yr arfaethais ddyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn,) fel y byddai rhyw ffrwyth i mi ynoch chwi hefyd, fel yn y cenhedloedd eraill. 14I Roegwyr a barbariaid hefyd, i ddoethion ac i’r rhai anneallus hefyd yr wyf ddyledwr; 15felly o’m rhan i y mae parodrwydd i efengylu i chwi hefyd y rhai ydych yn Rhufain, 16canys nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, canys gallu Duw yw, er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu, 17i Iwddew yn gyntaf ac i Roegwr hefyd; canys cyfiawnder Duw, ynddi hi y’i datguddir o ffydd i ffydd, fel yr ysgrifenwyd, “Ond y cyfiawn trwy ffydd a fydd fyw.”
18Canys datguddir digofaint Duw, o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion y sy’n attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, 19canys yr hyn a wybyddir am Dduw, eglur yw ynddynt, canys Duw a’i heglurodd iddynt. 20Canys Ei anweledig bethau Ef er’s creadigaeth y byd, yn cael eu canfod yn y pethau a wnaed, a welir yn eglur, yn gystal Ei dragywyddol allu Ef a’i Dduwdod, 21fel y byddont hwy yn ddiesgus; canys, a hwy yn adnabod Duw, ni ogoneddasant Ef megis Duw na rhoddi diolch, eithr ofer yr aethant yn eu hymresymmiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus. 22Gan broffesu eu bod yn ddoethion, 23yn ynfydion yr aethant, a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig ac ehediaid ac anifeiliaid pedwar-carnol ac ymlusgiaid.
24O herwydd hyny traddododd Duw hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid fel yr ammherchid eu cyrph yn eu plith eu hunain; 25y rhai a newidiasant wirionedd Duw am gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur tu hwnt i’r Creawdwr, yr Hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen.
26O achos hyn, traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus, canys eu banywiaid a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian; 27ac yn y cyffelyb fodd y gwrrywiaid hefyd a adawsant yr arfer anianol o’r fanyw, ac a losgasant yn eu chwennychiad i’w gilydd, gwrrywiaid gyda gwrrywiaid yn gweithredu bryntni; ac y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd rhaid, ynddynt eu hunain a dderbyniant.
28Ac fel ni chymmeradwyasant fod a Duw ganddynt mewn gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl anghymmeradwy, i wneuthur y pethau nad y’nt weddaidd, 29wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, anfadrwydd, cybydd-dod, a drygioni; yn orlawn o gynfigen, llofruddiaeth, 30cynnen, twyll a dryganiaeth; yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn saraus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychymygwyr pethau drwg, yn anufudd i rieni, 31yn anneallus, yn dorrwyr ammod, heb serch naturiol, yn annhrugarogion; 32y rhai a deddf Dduw yn adnabyddus ganddynt fod y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn eu gwneuthur hwynt, eithr cyd-foddlonir hwynt hefyd â’r rhai a’u gwnant.

Actualmente seleccionado:

Rhufeiniaid 1: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión