Yr Actau 7
7
1A dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? 2Ac efe a ddywedodd, Brodyr a thadau, gwrandewch. Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham pan ym Mesopotamia, cyn trigo o hono yn Charran, 3a dywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad ac oddiwrth dy dylwyth, a thyred i’r wlad a ddangoswyf i ti. 4Yna, wedi myned allan o wlad y Caldeaid, trigodd yn Charran; ac oddiyno, wedi marw ei dad, y symmudodd Efe ef i’r wlad hon yn yr hon yr ydych chwi yr awr hon yn trigo: 5ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, nid hyd yn oed led troed; ac addawodd ei rhoddi iddo yn berchenogaeth, ac i’w had ar ei ol, pryd nad oedd iddo blentyn. 6A llefarodd Duw wrtho fel hyn, Bydd dy had yn ymdeithydd mewn gwlad ddieithr; a chaethiwant ef, a’i ddrygu bedwar can mlynedd: 7a’r genedl i’r hon y byddant yn gaethion, a farnaf Fi, medd Duw; ac wedi y pethau hyn, 8deuant allan, a gwasanaethant Fi yn y lle hwn. A rhoddes Efe iddo gyfammod amdorriad; ac felly y cenhedlodd efe Itsaac, ac amdorrodd ef yr wythfed dydd; ac Itsaac a genhedlodd Iacob, ac Iacob y deuddeg patriarch. 9A’r patrieirch gan genfigennu, wrth Ioseph, a’i gwerthasant i’r Aipht: 10ac yr oedd Duw gydag ef, ac a ddug ef allan o’i holl orthrymderau, a rhoddes iddo ffafr a doethineb yngolwg Pharaoh brenhin yr Aipht, a gosododd efe ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dŷ. 11A daeth newyn ar yr holl Aipht a Canaan, a gorthrymder mawr; 12ac ni chaffai ein tadau luniaeth. Ac wedi clywed o Iacob fod yd yn yr Aipht, danfonodd allan ein tadau yn gyntaf: 13a’r ail waith y gwnaed Ioseph yn hyspys i’w frodyr, ac amlygwyd cenedl Ioseph i Pharaoh. 14A chan ddanfon, Ioseph a alwodd atto Iacob ei dad a’i holl dylwyth, 15bymtheg enaid a thrugain: ac aeth Iacob i wared i’r Aipht; 16a bu farw, efe a’n tadau; a dygpwyd hwynt trosodd i Shicem a’u dodi yn y bedd a brynasai 17Abraham er gwerth arian gan feibion Chamor yn Shicem. A phan nesaodd amser yr addewid yr hwn a ganiattaodd Duw i Abraham, cynnyddodd y bobl ac amlhaodd yn yr Aipht, 18hyd oni chyfododd brenhin arall dros yr Aipht, yr hwn nid adnabu Ioseph. 19Hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar â’n cenedl, a ddrygodd ein tadau, i fwrw allan eu babanod fel na chaent fyw; 20ar yr hwn amser y ganwyd Mosheh, a thra-thlws oedd efe; ac efe a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. 21Ac wedi ei fwrw ef allan, ei gymmeryd i fynu a wnaeth merch Pharaoh, ac ei fagu yn fab iddi ei hun. 22Ac addysgwyd Mosheh yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a’i weithredoedd. 23A phan yr oedd efe yn llawn ddeugain mlwydd oed, daeth i’w galon ymweled â’i frodyr, meibion Israel. 24A chan weled rhyw un yn cael cam, amddiffynodd ef, a gwnaeth ddial i’r hwn a orthrymmid, gan daro’r Aiphtiwr. 25A meddyliodd fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi ymwared iddynt; ond hwy ni ddeallent. 26A’r dydd nesaf yr ymddangosodd iddynt pan yn ymrafaelio, a chymmodlonai hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 27A’r hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymmydog, a’i cil-gwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom? 28Ai fy lladd i yr wyt ti yn ewyllysio, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe? 29A ffodd Mosheh ar y gair hwn, ac aeth yn ymdeithydd yn nhir Madian, lle y cenhedlodd ddau fab. 30Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth. 31A Mosheh yn gweled hyn a ryfeddodd wrth y golwg. Ac efe yn nesau i edrych, daeth llais yr Arglwydd, gan ddywedyd, 32Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob. Ac wedi myned yn ddychrynedig, Mosheh ni feiddiai edrych. 33Ac wrtho y dywedodd Iehofah, Dattod yr esgidiau oddi am dy draed, canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo, tir sanctaidd yw. 34Gan weled y gwelais ddrygfyd Fy mhobl y sydd yn yr Aipht, ac eu gruddfan a glywais; a disgynais i’w gwaredu hwynt. Ac yn awr tyred, danfonaf di i’r Aipht. 35Y Mosheh hwn, yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn, Duw a’i danfonodd yn llywodraethwr ac yn waredwr gyda llaw yr angel a ymddangosodd iddo yn y berth. 36Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, ar ol gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht ac yn y Môr Coch ac yn yr anialwch ddeugain mlynedd. 37Hwn yw’r Mosheh a ddywedodd wrth feibion Israel, Prophwyd a gyfyd Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi. 38Hwn yw’r Hwn a fu yn yr eglwys yn yr anialwch gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Sinai, a chyda’n tadau; 39ac a dderbyniodd oraclau byw i’w rhoddi i ni; i’r hwn nid ewyllysiai ein tadau fod yn ufudd, eithr cilgwth iasant ef, 40a throisant yn eu calonnau i’r Aipht, gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau a ant o’n blaen; canys y Mosheh hwn yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aipht, nis gwyddom pa beth a ddaeth o hono. 41A gwnaethant lo yn y dyddiau hyny, a daethant ag aberth i’r eulun, a llawenychasant yngweithredoedd eu dwylaw. 42A throdd Duw, a thraddododd hwynt i wasanaethu llu y nef; fel yr ysgrifenwyd yn llyfr y prophwydi,
“Ai lladdedigion ac aberthau a offrymmasoch i Mi
Ddeugain mlynedd yn yr anialwch, O dŷ Israel?
43A chymmerasoch i fynu dabernacl Moloc,
A seren eich duw Remphan,
Y lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli hwynt;
A symmudaf chwi tu hwnt i Babilon.”
44Tabernacl y dystiolaeth oedd gan ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchymynodd yr Hwn a lefarodd wrth Mosheh i’w wneuthur yn ol y portreiad a welsai; 45yr hwn y bu i’n tadau, bob un yn ei dro, ei ddwyn i mewn ynghyda Iehoshua ym mherchenogaeth y cenhedloedd, y rhai a wthiodd Duw allan o flaen gwyneb ein tadau, hyd ddyddiau Dafydd, 46yr hwn a gafodd ffafr ac a ofynodd gael trigfa i Dduw Iacob: 47ond Shalomon a adeiladodd Iddo dŷ. 48Eithr nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith dwylaw, fel y mae’r prophwyd yn dywedyd,
49“Y nef sydd i Mi yn orsedd-faingc,
A’r ddaear yw troed-faingc Fy nhraed.
Pa fath o dŷ a adeiledwch i Mi, medd Iehofah,
Neu pa le fydd lle Fy ngorphwysfa?
50Onid Fy llaw I a wnaeth y pethau hyn oll?”
51Gwar-galedion a diamdorredig o galon a chlustiau, chwychwi yn wastad a wrthwynebwch yr Yspryd Glân; fel eich tadau, felly chwithau. 52Pa un o’r prophwydi nad erlidiodd eich tadau ef? A lladdasant y rhai yn rhagfynegi am ddyfodiad y Cyfiawn, i’r Hwn chwychwi fuoch fradwyr a llofruddion, 53y rhai a gawsoch y Gyfraith yn ol trefniad angylion, ac nis cadwasoch.
54Ac wrth glywed y pethau hyn, torrwyd hwynt i’r byw yn eu calonnau, ac ysgyrnygasant ddannedd arno. 55Ac yn llawn o’r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i’r nef, gwelodd efe ogoniant Duw a’r Iesu yn sefyll ar ddeheu-law Duw, 56a dywedodd, Wele, gwelaf y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheu-law Duw. 57A chan waeddi â llef uchel cauasant eu clustiau, a rhuthrasant yn unfryd arno, 58ac wedi ei fwrw ef allan o’r ddinas, llabyddiasant ef; a’r tystion a ddodasant i lawr eu cochlau wrth draed dyn ieuangc a elwid Shawl; 59a llabyddiasant Stephan yn galw ar yr Arglwydd, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd. 60Ac wedi dodi i lawr ei liniau, gwaeddodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, hunodd;
Actualmente seleccionado:
Yr Actau 7: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.