Yr Actau 20
20
1Ac ar ol peidio o’r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y disgyblion, ac eu cynghori a’u cofleidio, a aeth allan i fyned i Macedonia; 2ac wedi tramwy trwy’r parthau hyny, a’u cynghori hwynt ag ymadrodd lawer, daeth i dir Groeg. 3Ac wedi treulio tri mis yno, cynllwyn wedi ei wneuthur gan yr Iwddewon iddo pan ar fedr morio i Suria, pender-fynodd ddychwelyd trwy Macedonia: 4a chyd-ymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, mab Purrhus, ac o’r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Dderbe, a Timothëus; 5ac o’r Asiaid, Tuchicus a Trophimus. A’r rhai hyn, wedi myned o’r blaen, a arhosasant am danom yn Troas, 6a ninnau a fordwyasom ymaith, ar ol dyddiau y bara croyw, o Philippi, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum niwrnod; ac yno yr arhosasom saith niwrnod.
7Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a nyni wedi dyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth, ac estynodd yr ymadrodd hyd hanner nos. 8Ac yr oedd llusernau lawer yn y llofft lle yr oeddym wedi dyfod ynghyd. 9A chan eistedd o ryw ŵr ieuangc a’i enw Eutuchus, yn y ffenestr, wedi syrthio i drymgwsg wrth ymresymmu o Paul yn helaethach, wedi ei ddwyn i wared gan ei gwsg, cwympodd i lawr o’r drydedd lofft, a chymmerwyd ef i fynu yn farw. 10Ac wedi myned i lawr, Paul a syrthiodd arno, a chan ei gofleidio, dywedodd, na chyffroed arnoch, canys y mae ei fywyd ynddo. 11Ac wedi myned i fynu, a thorri’r bara, a bwytta, ac ymddiddan am amser hir, hyd dorriad y dydd, yr aeth efe yn ebrwydd ymaith. 12A daethant â’r bachgen yn fyw, a chysurwyd hwynt yn ddirfawr.
13A nyni wedi myned o’r blaen at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr oddiyno gymmeryd i fynu Paul, canys felly yr appwyntiasai pan ar fedr myned ei hun ar ei draed. 14A phan gyfarfu efe â ni yn Assos, wedi ei gymmeryd ef i fynu, daethom i Mitulene. 15Ac wedi hwylio oddi yno, trannoeth y daethom cyferbyn â Chios; a thradwy troisom i mewn i Samos, ac ar y dydd canlynol daethom i Miletus; 16canys penderfynasai Paul hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia, canys brysiai, os byddai bosibl iddo, fod ar ddydd y Pentecost yn Ierwshalem.
17Ac o Miletus y danfonodd i Ephesus, a galwodd atto henuriaid yr eglwys; a phan ddaethant atto, dywedodd wrthynt,
18Chwi a wyddoch er y dydd cyntaf y rhoddais fy nhraed yn Asia, 19pa fodd y bu’m gyda chwi yr holl amser, gan wasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau y rhai a ddigwyddasant i mi trwy gynllwynion yr Iwddewon, 20y modd nad atteliais ddim o’r pethau buddiol, fel na fynegwn hwynt i chwi a’ch dysgu ar gyhoedd ac o dŷ i dŷ; 21gan dystiolaethu i Iwddewon a Groegiaid hefyd edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 22Ac yn awr, wele myfi yn rhwym yn yr yspryd wyf yn myned i Ierwshalem, heb wybod y pethau a ddigwyddant i mi ynddi, 23oddieithr fod yr Yspryd Glân, ymhob dinas, yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. 24Eithr dim cyfrif yn y byd yr wyf yn ei wneud o’m heinioes, fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y cyflawnwyf fy rhedfa a’r weinidogaeth yr hon a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, ac y tystiolaethwyf efengyl gras Duw. 25Ac yn awr, wele, myfi a wn na welwch chwi oll mo’m gwyneb mwyach, ymhlith y rhai y tramwyais yn pregethu’r deyrnas; 26canys tystiolaethu yr wyf i chwi y dydd heddyw mai glân wyf oddi wrth waed pawb; 27canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gynghor Duw. 28Cymmerwch ofal am danoch eich hunain, ac am yr holl braidd yn yr hwn yr Yspryd Glân a’ch gosododd chwi yn esgobion, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a ennillodd Efe trwy Ei waed Ef Ei hun. 29Myfi a wn y daw i mewn i’ch plith ar ol fy ymadawiad fleiddiau gorthrymmus, nad arbedant y praidd. 30Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd dynion yn llefaru pethau gwyr-draws er mwyn tynnu ymaith y disgyblion ar eu hol. 31Gan hyny, gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais â chynghori, gyda dagrau, bob un o honoch. 32Ac yn awr eich gorchymyn yr wyf i Dduw ac i air Ei ras Ef, yr hwn sydd abl i’ch adeiladu ac i roddi yr etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 33Arian neu aur neu wisg neb, ni chwenychais. 34Chwi eich hunain a wyddoch mai i’m cyfreidiau, ac i’r rhai oedd gyda mi, y gwasanaethodd y dwylaw hyn. 35Ymhob peth y rhoddais i chwi siampl, mai wrth lafurio felly y mae rhaid cynnorthwyo’r gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, iddo Ef Ei hun ddywedyd, “Dedwydd yw rhoddi rhagor derbyn.”
36Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a dodi ei liniau i lawr, ynghyda hwynt oll y gweddïodd; 37a mawr oedd gwylofain pawb; 38ac wedi syrthio ar wddf Paul, cusanent ef, gan ymofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai nad ydynt mwyach ar fedr gweled ei wyneb ef; ac hebryngasant ef i’r llong.
Actualmente seleccionado:
Yr Actau 20: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.