Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Yr Actau 18

18
1Ac ar ol y pethau hyn, wedi ymadael ag Athen, daeth efe i Corinth; 2ac wedi cael rhyw Iwddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, ac newydd ddyfod o’r Ital, a Priscila ei wraig ef (am orchymyn o Claudias ymadael o’r holl Iwddewon o Rufain), yr aeth attynt; 3a chan mai o’r un gelfyddyd yr oedd, arhoes gyda hwynt, a gweithient, canys yr oeddynt yn wneuthurwyr pebyll wrth eu celfyddyd. 4Ac ymresymmodd yn y sunagog bob Sabbath, a pherswadiai Iwddewon a Groegiaid hefyd.
5A phan ddaeth Silas a Timotheus hefyd o Macedonia, yn y Gair y cadwyd Paul, gan dystiolaethu i’r Iwddewon mai Iesu oedd y Crist. 6Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, gan ysgwyd ei ddillad, dywedodd wrthynt, Eich gwaed, ar eich pennau eich hunain y mae: glân wyf fi: o hyn allan at y cenhedloedd yr af. 7Ac wedi myned oddi yno, aeth i dŷ rhyw un a’i enw Titus Iwstus, dyn yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r sunagog. 8A Crispus yr arch-sunagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyda’i holl dŷ; a llawer o’r Corinthiaid, wrth glywed, a gredent ac a fedyddid. 9A dywedodd yr Arglwydd, liw nos, trwy weledigaeth, wrth Paul, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw; 10canys Myfi wyf gyda thi, ac nid ymesyd neb arnat i’th ddrygu; canys pobl lawer sydd Genyf yn y ddinas hon. 11Ac arhosodd efe flwyddyn a chwe mis, yn dysgu yn eu plith Air Duw.
12A Galio yn rhaglaw yn Achaia, yn unfryd y cyfododd yr Iwddewon yn erbyn Paul, a dygasant ef ger bron y frawd-faingc, 13gan ddywedyd, Yn erbyn y Gyfraith y mae hwn yn perswadio dynion i addoli Duw. 14A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iwddewon, Pe bai rhyw anghyfiawnder neu anfadrwydd drwg, O Iwddewon, wrth reswm y cyd-ddygaswn â chwi; 15ond os cwestiynnau y sydd am air ac enwau a’r Gyfraith sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain, canys barnwr y pethau hyn nid ewyllysiaf fi fod: 16a gyrrodd hwynt ymaith oddi wrth y frawd-faingc. 17A phawb o honynt wedi cymmeryd gafael ar Sosthenes yr arch-sunagogydd, a’i curent ef o flaen y frawd-faingc; ac am ddim o’r pethau hyn nid oedd waeth gan Galio.
18A Paul wedi aros etto ddyddiau lawer, ar ol canu’n iach i’r brodyr, a fordwyodd ymaith i Suria, ac ynghydag ef Priscila ac Acwila, wedi cneifio o hono ei ben yn Cenchrea, canys yr oedd arno adduned. 19A daethant i Ephesus, a hwynt-hwy a adawodd efe yno; ond efe ei hun, wedi myned i mewn i’r sunagog, 20a ymresymmodd â’r Iwddewon: ac wrth ofyn o honynt iddo aros fwy o amser, ni chydsyniodd, 21eithr wedi canu’n iach iddynt a dywedyd, Dychwelaf trachefn attoch, os myn Duw, hwyliodd ymaith o Ephesus. 22Ac wedi dyfod i wared i Cesarea, a myned i fynu a chyfarch yr eglwys, aeth i wared i Antiochia. 23Ac wedi treulio talm o amser, yr aeth ymaith, gan dramwy mewn trefn, trwy wlad Galatia a Phrugia, gan gadarnhau yr holl ddisgyblion.
24A rhyw Iwddew a’i enw Apolos, Alecsandriad o genedl, gŵr dysgedig, a ddaeth i Ephesus, ac yntau yn alluog yn yr Ysgrythyrau. 25Hwn oedd wedi ei ddysgu yng nghrefydd yr Arglwydd; ac yn wresog yn yr yspryd, llefarai a dysgai yn fanwl y pethau ynghylch yr Iesu, heb wybod ond bedydd Ioan. 26A hwn a ddechreuodd lefaru yn hyderus yn y sunagog; ac wedi ei glywed, Priscila ac Acwila a’i cymmerasant attynt, ac esponiasant yn fanylach iddo grefydd Dduw. 27Ac efe yn ewyllysio tramwy i Achaia, y brodyr, gan ei annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef, ac efe, wedi ei ddyfod, a gynnorthwyodd lawer y rhai a gredasant trwy ras; 28canys yn egniol y gor-ddadleuai yr Iwddewon, gan ddangos trwy’r Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist.

Actualmente seleccionado:

Yr Actau 18: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión