YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 34

34
Y Psalm. XXXIV. Cywydd Deuair Hirion.
1Diolchaf, molaf drwy’m hoes,
Da i finnau, Duw f’einioes;
I fawl fyth, o ’r afael fau,
Yn gynnar sy ’n y genau.
2A’m henaid sydh, munud sant,
I ganu ei ogoniant;
O ryfyg fe glyw ’r ufydh,
A llyna fab llawen fydh.
3A molwch Arglwydh miloedh
Gyda mi, a gwawd im’ oedh;
A chyd‐fawrygwn a cherdh
I enw iawngamp, mewn angerdh.
4Ceisiais yr Arglwydh cyson,
Coeliodh Duw, — clywodh y dôn;
O’m holl ofn, ammhwyllaw hawdh,
Gwir ydyw, fe’m gwaredawdh.
5Edrychant o drachwant draw,
Iawn ytoedh, rhedan’ attaw;
Cywilydh ni bydh heb au,
Hoen obaith, yw hwynebau.
6Crïodh tylawd ond croywiaith,
Duw oll a wrandawa’i iaith;
Ac achubodh Duw rhodhwych
Ef o’i drallod, gorfod gwych.
7-8Ag angel Duw (nag yngan)
Adeilai luestai ’n lan
O’i gylch, fab, a’i amgylch fo,
Fwyn afiaeth, a’i hofn efo.
9I saint gwych sy hwnt i gyd,
Ofnwch ef yn wych hefyd:
Ni bydh eisiau, bodh eisoes,
Ar a’i hofno efo yw oes.
10Bydh pe glew ar y llew llyn,
Yn ieuangc, eisiau a newyn;
Ond y sawl, yn dewis swydh
Eurglod, a gais yr Arglwydh,
Ni wydhai eisiau nodhed,
Na dim da, er koffa cêd.
11O dowch, blant, rhag d’od iwch’ bla,
Iach ammod, gwrandewch yma:
Dysga’ wych oll dasg i chwi,
Dyfnwaith ein Duw, a’i ofni.
12Pa ŵr a chwennych? pa waith
Purffydh a bywyd perffaith?
A daioni adwaenir?
A byd da? a bywyd hir?
13Cadw, a rhag drwg y cedwi,
I’th geudawd dy dafawd di,
A’th enau glan a’th wyneb
A wnai, rhag ofn twyllo neb.
14Gochel y drwg, a chlod Ri,
Gwên dhawnus, gwna dhaioni;
Cais hedhwch, nid trwch nôd trin,
Ydolwg it’, gwna’i dilin.
15Golwg Duw, digilwg dôn,
A rannwyd ar yr union;
Gwrendy’u cri, dewrgri, yn deg
A’i glustiau, mewn gloyw osteg.
16Duw a’i wyneb dewinaw
Yn erbyn dig oerboen, daw
I dorri kof draw a’i car,
A’u diwedh, ar ein daear.
17Cofus fe grïa ’r cyfion,
A Duw Sant a wrendy’u son;
A gweryd, gwỳnfyd nid gau,
Trwy welliad, o’u trallodau.
18Y mae ’r Arglwydh, rhwydh yw ’r hynt,
A’i swydh, yn agos idhynt,
Sydh a chalon, bron ir brig,
Ddidwyll a chystudhiedig;
Ag a achub o gychwyn
Y claf ysbryd, dhybryd dhwyn.
19Mawr yw trallod, gormod gwaith,
Y cyfion, ni’s cai afiaeth;
Duw a’i gweryd, gloywbryd glan,
O hyn oll heno allan.
20Ceidw ei esgyrn, (on’d cêdair?)
Ni thorrir un eithr ar air.
21Malais a ladh, melus lon,
Anaele, ’r annuwiolion:
A fo atgas, dhyras dhydh,
Durfing, ir kyfiawn, derfydh.
22E bryn eneidiau, brau oedh,
Iôr, ei weision, drwy oesoedh;
Ni dherfydh un, Cûn a’u caid
Oedh orau yndho ’n ymdhiriaid.

Currently Selected:

Psalmau 34: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in