YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 32

32
Y Psalm. XXXII. Ofer‐fesur, a elwir ‘Englyn Pendrwm.’
1Pen gwỳnfyd ir byd wybodau — modh yw
Madheuant pechodau;
A ’r sawl y cudhiwyd, (gras yn,)
Baich adyn, ei bechodau.
2A gwỳnfyd, ennyd o union — ryfyg,
Ni rifo Duw tirion
I anwiredh, trawsedh trwch,
Gwelwch, heb dwyll yw galon.
3Pan dewais, fy ais a fydh — yn darfod
Mewn dirfawr loes beunydh;
Pan dh’wedais, poen oedh dhideg,
O Duw deg, ar hyd y dydh.
4Trwm yw draw dy law, diwael Iôn, — naws dig,
Nos a dydh i’m dwyfron;
Tro’ist f’ireidhrwydh, purlwydh, pêr,
I grinder haf, gywreindon.
5Cyffesais, d’wedais, wir dudwedh, — ochain,
Fy mhechod a’m camwedh;
Ni chudhiais, Ri, wych dhwys raith,
O fewn araith, f’anwiredh.
Fy mhechod dhefod adhefais — trwy gan,
Drygioni ni cheraist;
Cerydh pechod, fawrglod fael,
Im’ oedh dhiwael, madheuaist.
6Fy ngwedhi, mawrgri, a mwy, — dha awen,
Bid yn dhuwiol fwy‐fwy,
O fewn amser, mwynder maeth,
Mawr odiaeth, cymmeradwy.
Mewn ffrydoedh dyfroedh mae yn dostedh sicr,
Dydh swcr ef nid aros;
Ni chant dhyfod, gyfnod gan,
Ddyn egwan, idho ’n agos.
7Wyd fy nirgel ffel, heb ffi, — trwy allu
Mewn trallod i’m cedwi;
A llawenydh, rydh rodhiad,
Camp wiw sad, o’m cwmpas i.
8Lle ’r elych, dasgwych dysgaf, — etto ffwrdh
It’ y ffordh danghosaf;
Ag a’m llygad, dhifrad dhawn,
Iaith rylawn, mi’th reolaf.
9Fal mul neu geffyl mewn gwall, — anfodhus,
Na fydhwch yn anghall;
Yn y rhai ’n, pan fönt yn rhydh,
Dost awydh, nid oes deall.
Ffrwynau yw genau a ga’d, — a genfa,
Gydag anfodh glymiad;
Rhag eu dyfod, drygnod dro,
Etto yn agos attad.
10Daw hefyd tristyd trosto — ir enwir,
Duw rinwedh ni choelio;
A gras o’i gwmpas a gair,
O radair, a’i ’mdhiriedo.
11Hawdhfyd, llawenfyd yn llon, — a bodhus,
Bydhwch yn Nuw tirion,
Pawb a ’r y sydh, a’i rydh raith,
A glain goelwaith, glan galon.

Currently Selected:

Psalmau 32: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in