YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 20

20
Y Psalm. XX. Cyhydedd Naw Ban.
1I’th flinder Gwirdhuw, Duw, gwrandawed,
A’i dha hoff enw i’th ymdhiffynned:
2O ’r nefoedh dirion help danfoned,
O Seion, eglwys brydferth, nerthed:
3Dy offrwm a’i dhal, deffry medhylied,
Dy aberth llesg werth, dy borth llosged:
4A fynnych, rhwydhwych it’ y rhodhed,
Dy amcan yn lan ef cyflawned.
5Gallom yn llawen fod heb golled
O’th iechydwriaeth, ffraeth y ffrwythed;
Yn deg, ag enw Unduw gogoned,
Gosod ei stondardh yn hardh lle ’r hêd;
Caf fwy lawenydh d’eirch cyflawned:
6Gwn ’nawr ir Arglwydh wiwrwydh wared
I frenhin, Dewin ef gwrandawed
O’i seintwar garu, nadhu nodhed.
Drwy nerth draw ei dheheulaw hwylied;
7Rhai mewn ceir dhewreir a ymdhiried,
Rhai mewn meirch brasgeirch, rhag eu brwysged:
Coffawn ni enw Duw, Gwiwdhuw, o gêd:
8Plygant a syrthiant rhai o’u serthed;
Codwn, cydsafwn, Duw a ’n cadwed:
9A archwy ’n hylaw, Duw, gwrandawed
Yn deg hael awydh, Unduw clywed.

Currently Selected:

Psalmau 20: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in