YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 18

18
Y Psalm. XVIII. Gwawdodyn Byr.
1Duw hoff i’m calon tirion tyred,
Dy ofyn adhas, Duw fy nodhed:
Duw fy nghastell a’m cell, ni’m colled, — a’m tŵr,
Duw fy Ngwaredwr, cyflwr, a’m cêd.
2Duw fy nghraig gadarn im’ a farned,
Difai im’ orig, Duw fy ’mwared;
Duw ’nharian, cyfan, kofied, — a’m corn pres,
Duw yw fy lloches, fynwes fwyned.
3Duw molaf, galwaf, mwynaf myned,
Nuw Nêr, rhag trablin gwerin gwared;
Doluriau angau, dynged — i’m glasu,
Ddaeth i’m cwmpasu, celu caled.
4Duw, dy elynion tynion taned,
Duw, a’m ofnasant gwydhant godhed;
5Duw, rhaffau, bedhau, gwybydhed — yn hawdh,
Doe a’m amgylchawdh, doe i’m golched.
Daeth angau maglau yno im’ mwygled,
6Duw, mewn ing gelwais, damwain guled;
Duw, gwaedhais, llefais ar lled — yn oerach,
Duw, llef arw afiach, dull afrifed.
Diau yw lysoedh i’m gwrandawed,
Dagrau a llefain dû egr llifed
I’w glustiau, ’ngeiriau ’n agored — union,
A dhaeth ger ei fron, cyfion kofied.
7Daear gerwinwaith draw a grynawdh,
Isel yw, os caid, ei sail a ysgydwawdh;
A’i symyd hefyd yn hawdh — yr awran
Yn y dydh egwan, — Duw a dhigiawdh.
8Mwg o’i ffroen drwy boen ef derbyniawdh,
A than o’i enau ’n boeth ennynawdh;
Ger ei fron union enwawdh — y melltan,
Yno, gain huan, a gynheuawdh.
9A gloyw iawn firagl nef a ŵyrawdh
Yn dhwys, yn gynnwys, e dhisgynawdh;
Ac ar bwl gwmmwl o gawdh — ei gweled;
Hynaws o weithred, hwn a sathrawdh.
10Cherub asgellawg, enwawg unawdh,
O gofion degwch, yw gefn dygawdh;
Ac yno hudo lle hedawdh — yn gynt
Ar yr asgellwynt, gorwynt gyrrawdh.
11Ac o liw cafod y gosodawdh
Y ’nghylch ei bebyll dywyll duawdh;
Cymylan borau a barawdh — gyflwr
Yn awyr a dŵr, yn awr a dawdh.
12Yn wych ei lewych ef a oleuawdh,
Y trwch dywyllwch ef a dyllawdh;
Y cenllysg i ’n mysg cymysgawdh — y nos
Yn y mawrwydos, ni mawr wadawdh.
13Duw nef, ar ol tan, a daranawdh,
Duw Nêr goruchaf, gwelaf, galwawdh:
A chenllysg, terfysg tarfawdh, — a godhaith,
A ’n cwyno hirfaith, fe a ’n cynhyrfawdh.
14I saethau gorau ef a’u gyrrawdh,
I gas y gwerin fe a’u gwasgarawdh;
Ag amled lluched ni’s llechawdh — ar sigl,
A llawn o berigl, allan bwriawdh.
15Eigion y dyfnfor ymegorawdh,
A godhyn y byd dadymgudhiawdh;
Yn ofni Celi ni’s celawdh — ei lid,
I dhig a’i ofid, Dduw a gofiawdh.
16I law o uchelfron a dhanfonawdh,
Accw ’n hoyw eilwaith fe’m cynhaliawdh
O dhyfndwr y dŵr dyrrawdh — fi i fynu,
Fy mywyd hynny — ef a’m tynnawdh:
17Odhiwrth elynion tynnion tynni,
A’m cas wyr diras, ni phryderi;
Celed y rhanned y rhei ’ni — yw hynt,
I’m herbyn ydynt, mawrboen wedi.
18Buont yn eirwon yn ymbonni
Yn fy nghul adwyth, yn fy ngh’ledi;
Yr Arglwydh culwydh, Celi — uchelfawr,
Yw y Bugail mawr a bagl i mi.
19Ehangawdh, tynnawdh, pan fynnawdh fi,
O’i nawdh achubawdh, medrawdh, ymi;
I gariad a’i rad, heb hir oedi, — o’i fodh,
Hyn im’ a weithiodh, yn rhodh, fy Rhi.
20Wrth fy nghyfiawnder y’m hadferi;
Ac ’nol y puredh, haeledh hwyli,
A weithiais, heb drais drosi, — a’m dwylaw,
Im’ o hir adhaw yma rhodhi.
21Cedwais heb falais, hwyliais heli,
Lwybrau gwir Arglwydh yr arglwydhi;
Heb wrthod, hynod henwi, — Duw nefoedh;
Ac yno i filoedh, gwn, ei foli.
22Dy farn yn gyfion o’th haelioni
A gadwaf finnau, gwawd a fynni;
Y status, wedhus wedhi — yr Arglwydh,
A gaed o wiw swydh, a gedwais i.
23Bûm union gyfion (pawb a gofi)
Yn dy ŵydh, Arglwydh, rhwydh yr haedhi;
Rhag gwedh anwiredh oeri — anghysbell,
Im’ gwedi sy well, ymgedwais i.
24Wrth fy nghyfiawnder y’m hadferi;
Ac ’nol y puredh, haeledh hwyli,
A weithiais, heb drais drosi, — a’m dwylaw,
Hynod oedh gwiliaw yn d’ŵydh, Geli.
25Wrth y caredig dig ni’s dygi,
Arglwydh caredig, tebig wyt ti;
Wrth bwyll a didwyll dywedi — ’n wirion,
Didywyll fodhion, didwyll fydhi.
26Wrth y glan galon y tirioni,
Syberwach, glanach, wyt o ymg’lonni;
A thrwy dhichell pell pwylli — bob dichell,
Hynod yw wellwell, hwn a dwylli.
27Y bobloedh gadoedh, Duw, a gedwi;
Ydwyt, lôr enwog, dad trueni;
Llygaid llon beilchion, bylchi — yn fuan;
Yno os daw yngan, a ostyngi.
28Fy Angel anwyl, fy ngoleuni
Yn dirion union a ennyni;
Duw Dad, i eirchiad llewyrchi — ’n dhi-drwch
Imi dywyllwch oll a’m delli.
29Ar gais y rhedais heb hir oedi,
Duw ydwyt fy mhorth a’m cymhorthi;
Duw ’nghyflwr, drwy ’r tŵr drwyot ti — ’n gelfydh
Neidiais dros welydh ceurydh cawri.
30Cyfion dy lwybrau golau, Geli,
A pherffaith olau dy eiriau di;
Pawb a’u hymdhiriaid, rhaid hir oedi — weithian,
Ynot, a’u hamcan, tarian wyt ti.
31Pa Dduw yw Gwiwdhuw, gorau gweidhi,
Ond y gwir Arglwydh sy ’n rhwydh yn rhodhi?
Pwy yw Duw, Gwiwdhuw, heb godhi — ’n brydferth,
Ai unduw ai nerth, ond ein Duw ni?
32Duw nef sydh nerthawl, hawl i holi,
Cu Angel o dhawn, a’m cenglodh i;
Gwastadodh, gwiliodh Duw Geli — f’enaid,
Y lle y bu raid, fy llwybrau i.
33Fy nhraed fal ewig bell o ’r gelli,
A mwy Llawenydh yma y lluni;
Ac yn ŵr ir tŵr, cyn torri — ’r cariad,
A gwiw osodiad, i’m gosodi.
34Fy nwylo yn rhyfel ffel ni ffaeliyt,
Ydwyt dha ysgol, dydi a dhysgyt;
O nerth draw ’nwylaw ynylyt — a braw,
Bwa byr styriaw, b’ai bres, torryt.
35A mawr o hoywdhawn im’ y rhodhyt,
Diwair Iôn ucho, darian iechyd;
A’th law, deheulaw, y deliyt — fi i’m gwedh,
Accw o iawn haeledh i’m cynheliyt.
36Y lle da odiaeth yma lledyt,
I rodio heb au ar hyd‐y‐byd;
Fy nendroed i goed ni’s gedyd — yno
I lithro, gwirio, hynny a geryt.
37Dilyn gelynion ym a honnyt,
O beth na chofiant, byth ni chyfyt;
Heb gilio yno ennyd — o ’r anrhaith,
Naws llwydhe y gwaith, nes’ lladh i gyd.
38T ’rewais a churais, ceisiwch weryt,
O beth na chofiant, byth ni chyfyt;
Cwympasant, syrthiant, traws hyd, — yleni,
Danaf i boeni, dyna benyd.
39Gwisgaist ac erfaist fi o gywirfyd
Erbyn y rhyfel, oerboen rhifyt;
Plygaist a chrymaist a chrŷd — ysgymun
Pawb sydh i’m herbyn, gelyn a gŵyd.
40A rhodhi gydhfau, i minnau mynnyt,
Fy holl elynion geirwon gyrryt;
Fy ngalon a’u tôn taenyt, — anniwair,
Nid ydyw cellwair, dydi a’u collyt.
41Llefant ar Dduw mau, boenau benyd,
Ni wrendy yntau, gorau gwryd;
O chwant y galwant i gyd — yr awrhon
Heb gael attebion, union ennyd.
42Ac fal lludw ag ulw gwelyt
O flaen gwynt, gorwynt, ti a’u gyrryt;
Sethrais hwy, methrais fy myd — yn aelaw,
Fal y brif‐ffordh draw, teimlaw tomlyd.
43Tynnaist fi o’m trafferth, ydwyt union,
A rhodhaist, gyrraist i’m pen goron;
A rho’ist, Naf, danaf y dynion — flyrnig,
Yma yn ysig, im’ yn weision.
44Pan dh’wetwyf, gyrrwyf, eiriau gwirion,
Hwy a fydhant oll yn ufydhion;
Yn berffaith doethraith dïeithron — d’wedant
Arnaf y gwiliant, difethiant dôn.
45Dïeithred ffolied anhoff alon,
Yn ffaeliaw ciliaw yn eu calon;
Ymrodhant, methant meithion, — yw cestyll,
A’u gyrru i dywyll y gwyr duon.
46Bendith Dduw i Dduw yr Iudhewon
A geidw wiw curwalch, fy nghraig dirion;
Derchafer ein Nêr, ein Iôn, — a ’n hiechyd,
A cheidwad hefyd, bywyd lle bôn’.
47Duw rhydh im’ ryfedh dhïaledhion
Danaf, i gael anaf i’m geiynion;
Achubaist, cedwaist hoccedion, — geirffraeth,
Y dyrfa waeth‐waeth darfu weithion.
48Achubaist, tynnaist, rhag tewynion,
Gwrthnebwyr, herwyr, rhai dihirion;
Cipiaist fi, mynnaist, mwynion — dy gampau,
O gri cwerylau y gwyr creulon.
49Molaf Dduw, canaf deg accenion
Y’mysg cenhedloedh, bobloedh Bab’lon;
Moliannaf, d’wedaf ar dôn — gyfarwydh,
I’th enw, O Arglwydh, rhwydh dy rodhion.
50Mawredh i Ddafydh fydh dy fodhion;
Mawredh drugaredh yw ’tifedhion.
Brenhinwedh, lawnedh linon — fydh berffaith,
Trwy y Gwiwdhuw eilwaith, tragwydholion.

Currently Selected:

Psalmau 18: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in