YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 15

15
Y Psalm. XV. Cyhydedd Wyth Ban.
1Duw, pwy i’th blas, o’th ras, ryswr,
A bras olud, fydh breswyliwr?
Dewin isod, a Dinaswr,
Yn dy dhedwydh fynydh, Fwynwr?
2Sawl a rodio yno yn iawnwr,
A fynno fod yn gyfiawnwr;
Nôd coel adhysg, nid celwydhwr
Yn ei galon, enwog wiliwr.
3Sawl a’i barabl nid yw gablwr,
Annoeth reswm gwael, na threisiwr;
I’w gymmydog, nid halogwr
O enw absenw, nac absennwr.
4Ond yr adyn, y direidwr,
I’w olwg ef y sydh waelwr;
A garo Dduw yn gywirwr,
Rad adhysg, mae ’n anrhydedhwr.
A ry ei lwf ar hawl i ŵr,
Ag oll wedi, pe yn golledwr,
Ni newidiai yno, yn oedwr,
Un diccra, gwn, nad occrwr.
5Nag yn frebwl, nac yn freibiwr,
Am un gwirion y mae ’n garwr:
Hwnnw a wnel hynny, anwaelwr,
O deg weiniaith, fydh digynnwr’.

Currently Selected:

Psalmau 15: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in