YouVersion Logo
Search Icon

Josua 22

22
Josua yn Anfon Adref Lwythau Reuben a Gad a Hanner Llwyth Manasse
1Yna galwodd Josua y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, 2a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi cadw'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, a buoch yn ufudd i bob gorchymyn a roddais innau ichwi. 3Ers cyfnod maith hyd y dydd hwn nid ydych wedi cefnu ar eich perthnasau, a buoch yn ofalus i gadw gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw. 4Bellach y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel yr addawodd iddynt; felly, yn awr, trowch yn ôl ac ewch adref i'r tir a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi i'w feddiannu y tu hwnt i'r Iorddonen. 5Yn unig byddwch yn ofalus iawn i gadw'r gorchymyn a'r gyfraith a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, i garu'r ARGLWYDD eich Duw, a cherdded yn ei holl lwybrau, i gadw ei orchmynion, a glynu wrtho a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.” 6Yna bendithiodd Josua hwy a'u gollwng ymaith, ac aethant adref.
7I hanner llwyth Manasse yr oedd Moses wedi rhoi tir yn Basan; i'r hanner arall rhoddodd Josua dir gyda'u perthnasau i'r gorllewin o'r Iorddonen. Wrth eu hanfon adref a'u bendithio, 8dywedodd Josua wrthynt, “Dychwelwch adref â chyfoeth mawr a llawer iawn o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a llawer iawn o ddillad; rhannwch â'ch perthnasau ysbail eich gelynion.”
Yr Allor ger yr Iorddonen
9Dychwelodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse o Seilo yng ngwlad Canaan, a gadael yr Israeliaid i fynd i wlad Gilead, y diriogaeth a feddiannwyd ganddynt yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Moses. 10Pan ddaethant i Geliloth ger yr Iorddonen, cododd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse allor yno yng ngwlad Canaan ger yr Iorddonen; yr oedd yn allor nodedig o fawr. 11Clywodd yr Israeliaid fod y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse wedi adeiladu allor ar derfyn gwlad Canaan, yn Geliloth ger yr Iorddonen, ar ochr yr Israeliaid; 12ac wedi iddynt glywed, ymgynullodd holl gynulleidfa'r Israeliaid i Seilo, er mwyn mynd i ryfel yn eu herbyn. 13Anfonodd yr Israeliaid Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, i Gilead at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse 14gyda deg pennaeth, un#22:14 Felly Syrieg. Hebraeg, un ar gyfer teulu. ar gyfer pob un o lwythau Israel, pob un yn benteulu ymysg tylwythau Israel. 15Daethant at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead a dweud wrthynt, 16“Y mae holl gynulleidfa'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Beth yw'r brad hwn yr ydych wedi ei wneud yn erbyn Duw Israel trwy gefnu ar yr ARGLWYDD, ac adeiladu allor heddiw mewn gwrthryfel yn ei erbyn? 17Onid oedd trosedd Peor yn ddigon inni? Nid ydym hyd heddiw yn lân oddi wrtho, a bu'n achos pla ar gynulleidfa'r ARGLWYDD. 18Dyma chwi'n awr yn cefnu ar yr ARGLWYDD; ac os gwrthryfelwch yn ei erbyn ef heddiw, yna bydd ei ddicter yntau yn erbyn holl gynulleidfa Israel yfory. 19Os yw'r wlad a feddiannwyd gennych yn aflan, dewch drosodd i wlad sydd ym meddiant yr ARGLWYDD, lle saif tabernacl yr ARGLWYDD, a derbyniwch ran yn ein plith ni. Peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, na ninnau, drwy adeiladu ichwi unrhyw allor ar wahân i allor yr ARGLWYDD ein Duw. 20Pan droseddodd Achan fab Sera ynglŷn â'r diofryd, oni ddaeth dicter ar holl gynulleidfa Israel? Ac er mai un oedd ef, nid un yn unig a drengodd am ei drosedd.’ ”
21Atebodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse a dweud wrth benaethiaid tylwythau Israel, 22“Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Fe ŵyr ef y gwir; bydded i Israel hefyd ei wybod. Os mewn gwrthryfel neu frad yn erbyn yr ARGLWYDD y gwnaed hyn, peidiwch â'n harbed ni heddiw. 23Os bu inni adeiladu allor i droi oddi wrth yr ARGLWYDD, ac i offrymu arni boethoffrymau a bwydoffrymau, neu i ddarparu heddoffrymau, bydded i'r ARGLWYDD ei hun ein dwyn i gyfrif. 24Yn hytrach gwnaethom hyn rhag ofn i'ch plant chwi yn y dyfodol ddweud wrth ein plant ni, ‘Beth sydd a wneloch chwi ag ARGLWYDD Dduw Israel? 25Y mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Iorddonen yn ffin rhyngom ni a chwi, llwythau Reuben a Gad; nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD.’ Yna gallai eich plant chwi rwystro'n plant ni rhag addoli'r ARGLWYDD. 26Am hynny dywedasom, ‘Awn ati i adeiladu allor, nid ar gyfer poethoffrwm nac aberth, 27ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein hôl, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD â'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, “Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD”.’ 28Yr oeddem yn meddwl, ‘Petaent yn dweud hyn wrthym ac wrth ein plant yn y dyfodol, byddem ninnau'n dweud, “Edrychwch ar y copi o allor yr ARGLWYDD a wnaeth ein hynafiaid, nid ar gyfer poethoffrymau nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi”.’ 29Pell y bo oddi wrthym ein bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a chefnu arno trwy godi unrhyw allor ar gyfer poethoffrwm neu fwydoffrwm neu aberth heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw sydd o flaen ei dabernacl.”
30Pan glywodd yr offeiriad Phinees, a phenaethiaid y gynulleidfa a phennau tylwythau Israel oedd gydag ef, yr hyn a ddywedodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, yr oeddent yn falch iawn. 31Ac meddai Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, wrth y Reubeniaid, y Gadiaid a'r Manasseaid, “Yn awr fe wyddom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd nid ydych wedi gwneud y brad hwn yn erbyn yr ARGLWYDD, ond wedi gwaredu'r Israeliaid o'i law.” 32Yna dychwelodd Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, a'r penaethiaid oddi wrth y Reubeniaid a'r Gadiaid, a mynd yn ôl i wlad Gilead at yr Israeliaid yng ngwlad Canaan, a rhoi adroddiad iddynt. 33Derbyniodd yr Israeliaid yr adroddiad yn llawen, a bendithio Duw. Ni bu rhagor o sôn am fynd i ryfel a difetha'r wlad lle'r oedd y Reubeniaid a'r Gadiaid yn byw. 34Rhoddodd y Reubeniaid a'r Gadiaid yr enw Tyst#22:34 Felly rhai llawysgrifau. TM heb Tyst. i'r allor. “Am ei bod,” meddent, “yn dyst rhyngom mai'r ARGLWYDD sydd Dduw.”

Currently Selected:

Josua 22: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy