YouVersion Logo
Search Icon

Marc 3

3
PEN. III.
Crist yn iachau y dyn diffrwyth ei law, 13 yn galw ei apostolion, 22 yn atteb cabledd yr Iddewon, 33 ac yn dangos pwy yw ei fam a’i frodyr ef.
1Ac efe #Math.12.9; Luc 6.6.aeth i mewn drachefn i’r Synagog, ac yr oedd yno ddŷn a’i law wedi diffrwytho.
2A hwy a’i gwiliasant ef, a iachae efe ar y dydd Sabboth, fel y gallent ei gyhuddo ef.
3Yna y ddywedodd efe wrth y dŷn yr hwn oedd a’r llaw diffrwyth ganddo, cyfot i’r canol.
4Ac efe a ddywedodd wrthynt, ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabboth, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes ai lladd? a hwy a dawsant.
5Yna’r edrychodd efe arnynt o amgylch yn ddigllon, gan ymofidio o ran caledrwydd eu calonnau hwynt, ac efe a ddywedodd wrth y dŷn: estyn dy law, ac efe a’i hestynnodd hi, a’i law ef a roddwyd trachefn yn iach fel y llall.
6Yna’r Pharisæaid gan fyned gyd â’r Herodiaid yn ebrwydd a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y defethent ef.
7A’r Iesu gyd â’i ddiscyblion a giliodd tu â’r môr, a lliaws mawr a’i dilynodd ef o Galilæa ac Iudæa,
8Ac o Ierusalem, ac o Idumæa, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, a’r rhai a bresswylient yng-hylch Tyrus a Sidon yn lliaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethe efe, a ddaethant atto.
9Ac efe a archodd iw ddiscyblion fod llong yn barod iddo, o blegit y dyrfa, rhag iddynt ei wascu ef.
10Canys efe a iachase lawer, fel yr oeddynt yn pwyso arno, er mwyn cyffwrdd ag ef cynnifer ag oedd â phlauau arnynt.
11A’r ysprydion aflân pan welsant ef a syrthiâsant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant gan ddywedyd, ti ydwyt Fâb Duw.
12Yntef a orchymynnodd iddynt yn gaeth na chyhoeddent ef.
13 # Marc.6.7. Math.10.1. Luc 9.1. Yna yr escynnodd efe i’r mynydd, ac efe a alwodd atto y rhai a fynnodd efe, ac hwynt hwy a ddaethant atto.
14Ac efe a ordeiniodd ddeuddec i fôd gŷd ag ef, ac iw danfon i bregethu:
15A bod iddynt feddiant i iachau clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.
16Ac i Simon, y rhoddes efe enw Petr.
17Ac Iaco [fâb] Zebedeus, ac Ioan brawd Iaco, (ac efe a roddes iddynt yn henwau Boanerges, yr hyn yw, meibion y daran)
18Ac Andreas, a Philip, a Bartholomew, a Mathew, a Thomas, ac Iaco [fâb] Alpheus, a Thadeus, a Simon y Canaanæad,
19Ac Iudas Iscariot yr hwn a’i bradychodd ef, a hwy a ddaethant i dŷ.
20A’r dyrfa a ymgynhullodd trachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bwyd.
21A phan glybu yr eiddo ef, hwynt a aethant iw ddal ef, canys dywedasant ei fôd allan o’i bwyll.
22A’r scrifennyddion y rhai a ddaethent i o Ierusalem a ddywedasant fôd #Math.9.34. Luc 11.14 Belzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.
23Ac wedi iddo eu galw hwynt atto, efe a ddywedodd wrthynt ar ddameg, pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno barhau.
25Ac os ymranna tŷ yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.
26Felly os cyfyd Satan ac ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all efe barhau, eithr y mae iddo ddiwedd.
27Ni ddichon nêb fyned i mewn i dŷ gŵr cadarn, a dwyn ei ddodrefn, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna anrheithio ei dŷ ef.
28Yn wîr y meddaf i chwi, #Math 12.31.|MAT 12:31. Luc 12.10.|LUK 12:10. Ioan 5.16. maddeuir pôb rhyw bechodau i blant dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:
29Eithr pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd glân ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:
30Am iddynt ddywedyd, y mae yspryd aflan ganddo.
31Yna ei #Math.12.46. Luc 8.19. frodyr a’i fam a ddaethant, a chan sefyll allan hwy a anfonâsant atto iw alw ef.
32A’r bobl a eisteddent o’i amgylch ef a dywedasant wrtho, wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio.
33Ac efe a’u hattebodd hwynt gan ddywedyd, pwy yw fy mam a’m brodyr?
34Ac wedi iddo edrych o’i amgylch ar y rhai oeddynt yn eistedd o’i ogylch, efe a ddywedodd, wele fy mam a’m brodyr.
35Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd, a’m chwaer, a’m mam.

Currently Selected:

Marc 3: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in