YouVersion Logo
Search Icon

Marc 15

15
PEN. XV.
Y Pharisæaid yn rhoddi crist i Pilat. 11 Ac yn annog y bobl i ddewis Barabbas, ac i wrthod Crist. 15 Pilat yn peri ffrewyllu Crist ai roddi i’r milwyr y rhai ai croes-hoeliasant ef gan ei gystuddio cynt a chwedi, 43 Ioseph yn ei gladdu ef.
1 # 15.1-47 ☞ Yr Efengyl ddydd mawrth nesaf o flaen y Pasc. Ac #Math.27.1. Luc.22.66yn y fan y boreu yr ymgynghorodd yr arch-offeiriaid gyd â’r henuriaid a’r scrifennyddion a’r holl gyngor, ac a ddugasant yr Iesu yn rhwym, ac a’i rhoddasant i Pilatus.
2A gofynnodd Pilatus iddo, a’i ti wyt Frenin yr Iddewon? ac efe a attebodd gan ddywedyd wrtho, yr wyt ti yn dywedyd.
3A’r arch-offeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau.
4 # Math.27.12. Luc.23.3. Ioh.18.35 Pilatus eilwaith a ofynnodd iddo gan ddywedyd, ond attebi di ddim? wele gymmaint ag y maent yn eu testiolaethu yn dy erbyn.
5A’r Iesu er hynny nid attebodd ddim, megis y rhyfeddodd Pilatus.
6Ac ar yr ŵyl [honno] y gollynge efe yn rhydd iddynt vn carcharor yr hwn a fynnent.
7Ac yr oedd vn a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd â therfysc-wŷr eraill, y rhai mewn terfysc a wnaethent lofruddiaeth.
8A’r dyrfa gan lefain a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethe bob amser iddynt.
9Yna Pilatus a attebodd iddynt gan ddywedyd: a fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
10(Canys efe a wydde mai o genfigen y traddodase yr arch-offeiriaid ef,
11A’r arch-offeiriaid a annogasent y bobl, [i geisio] yn hytrach ollwng Barabbas iddynt.
12Yna Pilatus gan atteb a ddywedodd eilwaith wrthynt: beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthyd i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?
13A hwythau a lefasant trachefn: croes-hoelia ef.
14Yna Pilatus a ddywedodd wrthynt: pa ddrwg a wnaeth efe? hwythau a lefasant fwy-fwy croes-hoelia ef.
15Felly Pilatus yn chwennych bodloni’r bobl a ollyngodd iddynt Barabbas, ac a roddes yr Iesu wedi iddo ei fflangellu iw groes-hoelio.
16 # Ioh.19.2 Yna’r milwŷr a’i dugasant ef i’r llŷs, yr hwn yw’r dadleudŷ, ac hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin.
17Ac a’i gwiscasant ef â phorphor a chan blethu coron o ddrain, hwynt hwy a’i dodasant arno,
18Ac a ddechreuasant gyfarch iddo: Hanphych well Brenin yr Iddewon.
19A hwynt a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan blygu eu gliniau a’i haddolasant ef.
20Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am dano, ac a’i gwiscasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dugasant allan fel y croes-hoelient ef.
21Ac hefyd hwynt #Math.27.32. Luc.23.26.hwy a gymmellasant vn a oedd yn myned heibio, [a’i enw] Simon o Cyren (yr hwn a ddaethe o’r wlad, ac oedd dad Alexander a Rufus) i ddwyn ei groes ef.
22A hwynt #Math.27.33. Luc.23.33. Ioh.19.23. a’i harweiniasant ef i le [a elwid] Golgotha: yr hwn o’i gyfieithu y Benglogfa.
23Ac a roessant iddo iw yfed win myrhllyd, eithr efe ni’s cymmerth.
24Ac #Math.27.35. Luc.23.35. Ioh.19.23.wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coel-brennau am danynt, beth a ddoe i bob vn.
25A’r drydedd awr oedd hi pan groes-hoeliasant ef.
26Ac yr oedd scrifen ei achos ef wedi ei argraphu, BRENIN YR IDDEWON.
27A hwynt hwy a grogasant ddau leidr gyd ag ef, vn ar y llaw ddeheu, a’r llall ar yr asswy.
28A’r scrythyr lan a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, #Esa. 53.12ac efe a gyfrifid gyd â rhai anwir.
29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablent ef gan escwyd eu penneu a dywedyd: #Ioh.2.19 o’ch tydi yr hwn a ddinistrit y Deml, a’i adeiladu mewn tridiau,
30Gwaret di dy hun, a descyn oddi ar y groes.
31Yr vn ffunyd yr arch-offeiriaid a watworasant gan ddywedyd y naill wrth y llall, ac wrth yr scrifennyddion: ereill a achubodd efe, ac ni ddichon ei achub ei hun.
32Descynned Crist, Brenin yr Israel, yr awran oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom: y rhai a grogasid gyd ag ef a ddanodasant iddo hefyd.
33A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr.
34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd: #Psal.22.2. Math.27.46.Eloi, Eloi, lamma Sabachthani? yr hyn yw o’i gyfieithu, fy-Nuw, fy-Nuw, pa ham i’m gwrthodaist?
35A rhai o’r sefyll-wŷr, pan glywsant, a ddywedasant: wele, y mae efe yn galw ar Elias.
36Ac vn a redodd, #Psal.69.22. Math.27.48. Ioh.19.29 ac a lanwodd yspwrn o finegr, ac ai dodes ar gorsen iddo i yfed: gan ddywedyd, gedwch iddo, edrychwn a ddaw Elias iw dynnu ef i lawr.
37A’r Iesu a lefodd â llef vchel, ac a ymadawodd â’r yspryd.
38A llenn y Deml a rwygodd yn ddwy, o’r pen vchaf hyd yr isaf.
39A phan welodd y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gyferbyn ag ef ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r yspryd, efe a ddywedodd: yn wir Mab Duw oedd y gŵr hwn.
40Yr oedd yno wragedd yn edrych o hirbell, ym mhlith y rhai hyn yr oedd Mair Magdalen, a Mair (mam Iaco leiaf ac Iose) a Salome.
41Y rhai hefyd pan oedd efe #Luc.8.2.yn Galilæa, a’i dilynasant ef, ac a weinasant iddo, a llawer eraill, y rhai a ddaethent ar vn waith gyd ag ef i fynu i Ierusalem.
42 # Math.27.57. Luc.23.50. Io.19.38. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr am ei bod hi yn ddarparŵyl, sef y dydd cyn y Sabbath,
43Y daeth Ioseph o Arimathæa cynghorwr pendefigaidd, (yr hwn oedd hefyd yn edrych am deyrnas Dduw) ac a aeth yn hyf i mewn at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu.
44A rhyfedd oedd gan Pilatus, o buase efe farw cyn gynted, ac wedi iddo alw y canwriad gofynnodd iddo, a oedd efe wedi marw eusys?
45A phan ŵybu [y gwirionedd] gan y canwriad, rhoddes y corph i Ioseph.
46Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i amdôdd yn y lliain main, ac a’i rhoddes ef mewn bedd a naddasid o’r graig, ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
47A Mair Magdalen, a Mair [mam] Iose, a edrychasant pa le y rhoddid ef.

Currently Selected:

Marc 15: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in