YouVersion Logo
Search Icon

Marc 12

12
PEN. XII.
Crist wrth ddammeg y win-llan yn dangos gwrthodiad y cenhedloedd. 14 Yn atteb yn rhagorol am y deyrn-ged. 18 Am yr adgyfodiad. 29 Ac am y gorchymyn cyntaf. 35 Yn gofyn pa ham y gelwid Crist yn fab i Ddafydd, ac yn erchi gochelyd rhagrith yr scrifennyddion. 43 Ac yn canmol offrwm y weddw dlawd.
1Ac efe #Math.21.33. Luc 20.9.|LUK 20:9. Esa.5.1. Ierem.2.21a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion: gŵr a blannodd winllan, ac a roes gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd lynn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i llogodd hi i lafur-wŷr, ac a aeth ym mhell o’i wlad,
2Ac a anfonodd ei wâs mewn amser at y llafur-wŷr fel y derbynie gan y llafur-wŷr o ffrwyth y win-llan.
3A hwynt a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i troesant ymmaith yn wag-law.
4A thrachefn yr anfonodd efe attynt wâs arall, a hwnnw wedi iddynt ei labyddio, a rhoi briw pen iddo, a anfonasāt mewn ammarch.
5A thrachefn yr anfonodd efe vn arall, a hwnnw a laddasant, a llawer eraill: gan faeddu rhai, a lladd y lleill.
6Ym mhellach, pā oedd iddo etto vn mab anwyl, efe a ddāfonodd hwnnw attynt, yn ddiwedaf, gan ddywedyd, hwynt hwy a barchant fy mab i.
7Ond y llafur-wŷr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunein: hwn yw’r etifedd, deuwch lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni.
8Yna y cymmerasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r win-llan.
9Beth gan hynny a wna arglwydd y win-llan? efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafur-wŷr, ac a rydd y win-llan i eraill.
10Oni ddarllenasoch yr Scrythur hon? #Psal.118.22. Esa.28.16. Math.21.42. Act.4.11.|ACT 4:11. Rom.9.33.|ROM 9:33. 1.Pet.2.8.y maen yr hwn a wrthododd yr adeilad-wŷr, a wnaethpwyd yn ben y gongl?
11Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
12A hwynt a gaisiasant ei ddala ef, ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys gŵyddent mai yn eu herbyn hwynt y dywedase efe y ddammeg honno: ac hwynt hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymmaith.
13A #Math.22.15. Luc.20.20hwynt a anfonasant atto rai o’r Pharisæaid, ac o’r Herodiaid, fel y rhwydent ef yn [ei] ymadrodd.
14Y rhai pan ddaethant a ddywedasant wrtho: yr Athro, ni a ŵyddom dy fod yn air-wir, ac nad gaeth gennit ti am nêb, ac nad wyt yn edrych yn wyneb dynion, a’th fod yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd: ai iawn rhoi teyrn-ged i Cæsar ai nid yw? a roddwn ai ni roddwn [hi?]
15Ond efe gan ŵybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, pa ham y temtiwch fi? dygwch i mi geniog, fel y gwelwyf [hi.]
16A hwynt a ddygasant, ac efe a ddywedodd wrthynt, pwy pieu’r ddelw hon a’r orgraph? a hwynt hwy a ddywedasant, Cæsar.
17A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt #Rhuf.13.7.rhoddwch yr eiddo Cæsar i Caesar, a’r eiddo Duw i Dduw: a rhyfeddu a wnaethant o’i blegit.
18 # Math.22.23. Luc.20.27 Daeth y Saducæaid hefyd atto (y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad) a gofynnasant iddo gan ddywedyd:
19Athro, #Deut.25.5. Moses a scrifennodd i ni: o bydd marw brawd neb, a gadu [ei] wraig, ac heb adu plant: cymmered ei frawd ei wraig ef, a choded had iw frawd.
20Yr oedd saith o frodyr, y cyntaf a gymmerth wraig, a phan fu farw ni adawodd hâd.
21A’r ail a’i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntef hâd: a’r trydydd yr vn modd.
22Ac hwy a’i cymmerasant hi eill saith, ac ni adawsant hâd, yn ddiweddaf oll y bu farw’r wraig.
23Yn yr adgyfodiad gan hynny, pan adgyfodant, gwraig i bwy o honynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.
24Yna’r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthynt, ond am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gŵybod yr scrythurau, na gallu Duw.
25Canys wedi iddynt adgyfodit o feirw, ni wreighânt ac ni ŵrhânt, eithr y maent fel yr angelion y rhai ydynt yn y nefoedd.
26Am y meirw, [sef] yr adgyfodir hwynt trachefn: oni ddarllenasoch chwi yn llyfr #Exod.3.6. Math.22.32. Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth gan ddywedyd, myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob?
27Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny eich mawr twyllir chwi.
28 # Math.22.35. Yna y daeth vn o’r scrifennyddion, yr hwn a’i clywse hwynt yn ymmddadleu, [ac] a ŵyddiad atteb o honaw iddynt yn gymmwys, ac a ofynnodd iddo beth oedd y gorchymyn cyntaf o’r cwbl?
29Yr Iesu a attebodd iddo, mai’r gorchymyn cyntaf [yw,] Clyw Israel, #Deut.6.4 yr Arglwydd ein Duw vn Arglwydd yw.
30Tithe a geri’r Arglwydd dy Dduw, â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth, hwn yw’r gorchymmyn cyntaf.
31A’r ail [sydd] yn gyffelyb iddo yntef: #Lefit.19.18.|LEV 19:18. Math.22.39.|MAT 22:39. Rom.13.9.|ROM 13:9. Gal.5.21 ceri dy gymmydog fel ti dy hun, nid oes orchymyn arall mwy nâ’r rhai hyn.
32Yna y dywedodd yr scrifennudd wrtho, da athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai vn Duw sydd, ac nad oes arall ond efe.
33A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth: a charu [ei] gymmydog megis ei hûn, sydd fwy na holl boeth offrymmau, ac aberthau.
34Yna’r Iesu yn ei weled ef yn atteb yn synhwyrol a ddywedodd wrtho, nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw, ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
35 # Math.22.42. Luc.20.41. A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, wrth ddyscu yn y Deml: pa fodd y dywed yr scrifennyddion fod Crist yn fab Dafyd?
36Canys Dafyd ei hun a ddywedodd trwy’r Yspryd glân: yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw hyd oni roddwyf dy elynnion yn droedfaingc i ti.
37Am hynnyn, a Dafydd yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? a llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllyscar.
38Ac #Math.23.6. Luc.11.43.efe a ddywedodd wrthynt yn ei ddysceidiaeth, ymogelwch rhag yr scrifennyddion y rhai a fynnant fyned mewn gwiscoedd lleision, a chael cyfarch yn y marchnadoedd,
39A’r eisteddfeudd cyntaf yn y cymmanfaoedd, a’r eisteddleoedd cyntaf mewn swpperau.
40Y #Math.23.6. Luc.20.47.rhai sy yn llyngcu tai gwragedd gweddwon, a [hynny] yn rhith hir weddio: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41A phan eisteddodd yr Iesu, gyferbyn a’r tryssor dŷ, efe a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r tryssor dŷ: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.#Luc.21.1
42A phan ddaeth rhyw wraig weddw dlawd, [a] bwrw i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrlyng.
43yna wedi iddo alw ei ddiscyblion, efe a ddywedodd wrthynt, yn wîr yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon fwy i mewn, nâ’r rhai oll a fwriasant i’r tryssor-dŷ.
44Canys hwynt hwy oll a fwriasant o’u hamldra, hithe o’i phrinder a fwriodd i mewn yr hyn oll a fedde hi, nid amgen cwbl a’r oedd iddi i fyw.

Currently Selected:

Marc 12: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in