YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1

1
PENNOD. I.
Swydd Ioan. 9 Bedydd. 13 Temtasiwn. 14 A phregethiaid Crist.
1Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fâb Duw.
2Fel yr scrifennir yn y Prophwydi, #Mala.3.1.wele, yr ydwyf yn anfon fyng-hennad o flaen dy wyneb, yr hwn a drefna dy ffordd o’th flaen.
3 # Esai.40.3.|ISA 40:3. Luc.3.4. Ioan.1.15. Llef vn yn llefain yn y diffaethwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn iniawn ei lwybrau ef.
4 # Math.3.4. Ioan ydoedd yn bedyddio yn y diffaethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau.
5Ac #Math.3.5.holl wlâd Iudæa a aeth allan atto ef, ac hwy o Ierusalem, ac a’u bedyddiwyd ôll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffessu eu pechodau.
6Ac Ioan oedd wedi ei wisco â blew Camel, a gwregis croen yng-hylch ei lwynau, a’i #Lefit.11.22.fwyd oedd locust a mêl gwyllt.
7Ac efe a bregethodd gan ddywedyd, y #Math.3.11. Luc.3.16. Ioan.1.27.mae yn dyfod ar fy ôl i vn cadarnach nâ myfi, yr hwn nid wyf deilwng i ostwng i ddattod carrae ei escidiau.
8Myfi a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd glân.
9A #Act.1.5.|ACT 1:5 & 2.4.|ACT 2:4 & 11.16|ACT 11:16 & 19.4.|ACT 19:4. Math.3.13. Luc.3.22. Ioan. 1.33bu yn y dyddiau hynny i’r Iesu ddyfod o Nazareth yn Galilæa, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
10Ac yn ebrwydd yn codi i fynu o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agoryd, a’r Yspryd glân yn descyn arno megis colomen.
11A llef a ddaeth o’r nefoedd: ty-di yw fy annwyl Fâb yn yr hwn i’m bodlonwyd.
12Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr yspryd ef i’r diffaethwch.#Math.4.1. Luc.4.1
13Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddaugain nhiwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyd â’r gwyllt-filod, a’r angelion a weinasant iddo.
14Yn #Math.4.12. Luc.4.14. Ioan.4.43.ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilæa, gan bregethu Efengyl teyrnas Dduw: a dywedyd:
15Yr amser a gyflawnwyd, ac y mae teyrnas Dduw yn agos, edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.
16Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr #Math.4.18. Luc.5.2.Galilæa, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr, (canys pyscodwŷr oeddynt)
17A’r Iesu a ddywedodd wrthynt: canlynwch fi, a mi a’ch gwnaf yn byscodwŷr dynnion.
18Ac yn ebrwydd gan adel eu rhwydau y canlynasant ef.
19Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iaco fâb Zebedeus, ac Ioan ei frawd, a hwy yn y llong yn cyweirio y rhwydau.
20Ac #Math.4.22.yn y man efe a’u galwodd hwynt, ac hwy a adawsant eu tâd Zebedeus yn y llong, a’r cyflog-ddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.
21 # Math.4.13. Luc.4.31. Yna’r aethant i Capernaum, ac yn ebrwydd ar y dydd Sabboth wedi iddo fyned i mewn i’r Synagog, efe a dyscodd [hwynt.]
22A rhyfeddu a wnaethant wrth ei athrawiaeth ef, canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt megis trwy #Luc.4.32.awdurdod, ac nid fel yr Scrifennyddion.
23Ac yr oedd gŵr yn eu Synagog hwynt, ac ynddo yspryd aflan, yr hwn a lefodd gan ddywedyd:
24Och, beth sydd i ni [a wnelom] â thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a wn pwy ydwyt ti ô Sanct Duw.
25A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, taw, a dôs allan o honaw.
26Yna wedi i’r yspryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef vchel, efe a ddaeth allan o honaw.
27Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynnasant yn eu mysc eu hun: beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? pa wedd trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn vfyddhau iddo?
28Ac yn gyflym yr aeth y gair am dano ef tros yr holl wlâd o amgylch Galilæa.
29Yna wedi iddynt fyned allan o’r Synagog, yr aethant i dŷ #Math.8.14. Luc.4.38.Simon ac Andreas, gyd ag Iaco, ac Ioan.
30Ac yr ydoedd chwegr Simon yn glaf o’r crŷd, ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am dani hi.
31Yna y daeth efe atti hi, ac a’i cododd i fynu gan * ymafaelyd yn ei llaw, a’r crŷd a’i gadawodd hi yn y man, ac hi a wasanaethodd arnynt hwy.
32Ac wedi iddi hwyrhau, ac i’r haul fachludo, y dugasant atto bawb oll a’r oeddynt gleifion, a’r rhai cythreulig.
33A’r holl ddinas a ymgasclodd wrth y drŵs.
34Ac efe a iachâodd lawer o gleifion o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.
35Ac yn foreuol ar y cynddydd wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd.
36A Simon a’r rhai oeddynt gŷd ag ef a’i dilynasant ef.
37Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, y mae pawb yn dy geisio.
38Yna y dywedodd efe wrthynt, awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno: canys i hynny y daethym allan.
39Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu Synagogau hwynt trwy holl Galilæa, ac efe a fwriodd allan gythreuliaid.
40A #Math.8.2. Luc 5.12daeth atto ef [vn] gwahan-glwyfus, gan ymbil ag ef, a nesau wrth ei liniau, a dywedyd wrtho: o’s mynni, ti a elli fyng-lanhau.
41A’r Iesu a dosturiodd, a chan estyn ei law a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, yr wyf yn mynnu, bydd yn lân.
42Ac wedi iddo ddywedyd hynny, yr ymadawodd y gwahan-glwyf ag ef yn ebrwydd, ac y glanhauwyd ef.
43Yna wedi iddo ei orchymyn ef yn gaeth, ef a’i danfonodd ef ymmaith yn y man,
44Ac efe a ddywedodd wrtho, gwêl na ddywedech ddim i nêb, eithr dôs ymmaith a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd y pethau a orchymynnodd #Leuit.14.4.Moses, er testiolaeth iddynt.
45Eithr efe wedi myned ymmaith a ddechreuodd fynegi llawer, a #Luc.5.15.chyhoeddi’r chwedl, fel na alle’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas, eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd, ac o bôb parth y daethant atto ef.

Currently Selected:

Marc 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in