YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 26

26
PEN. XXVI.
Bwriad yr offeiriaid yn erbyn Crist, tywalltiad yr enaint ar ei ben ef. Swper yr Arglwydd. Petr yn gwadu Crist. Brâd Iudas. Arwain Crist at Caiphas.
1 # 26.1—27.56 ☞ Yr Efengyl y Sul nesaf o flaen y Pasc. Ac fe a ddarfu #Marc.14.1. Luc.22.1.wedi i’r Iesu orphen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion,
2Chwi a ŵyddoch mai ym mhen y ddau ddŷdd y mae ’r Pasc: a Mâb y dŷn a roddir iw groes-hoelio.
3Yna #Ioan.11.47.y casclwyd yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion, a henuriaid y bobl i neuadd yr arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiphas.
4Ac hwy a ymgynghorâsant, pa fodd y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent [ef.]
5Eithr hwy a ddywedâsant, nid ar yr ŵyl, rhag bôd cynnwrf ym mhlith y bobl.
6Ac #Marc.14.3. Ioan.11.2.fel yr oedd yr Iesu yn Bethania yn nhŷ Simon wahan-glwyfus,
7Fe ddaeth atto wraig, a chŷd â hi flwch o enaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei bēn, ac efe yn eistedd wrth y ford.
8A phan welodd ei ddiscyblion, hwy a lidiasant gan ddywedyd, pa raid yr afrad hynn?
9Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a’i roddi ef i’r tlodion.
10A’r Iesu a ŵybu, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig: canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.
11 # Deut.15.11. O blegit y tlodion a gewch bôb amser gŷd â chwi, a mi ni’s cewch bôb amser.
12Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fyng-horph, a wnaeth hyn i’m claddu i.
13Yn wir meddaf i chwi, pe le bynnac y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fŷd, hyn ymma hefyd a wnaeth hi a fynegir, er coffa am dani hi.
14Yna yr aeth vn o’r deuddec yr hwn a elwyd Iudas Iscariot at yr arch-offeiriaid,
15Ac a ddywedodd wrthynt, pa beth a roddwch i mi, a mi a’i rhoddaf ef i chwi? a hwy a dalasant iddo ddêc ar hugain o arian.
16Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas iw fradychu ef.
17Ac #Mar.14.12.|MRK 14:12. Luc.22.7.ar [y dydd] cyntaf o ŵyl y bara croiw, ei ddiscyblion a ddaethant at yr Iesu gan ddywedyd wrtho, pa le y mynni i ni baratoi i ti fwytta’r Pasc?
18Ac yntef a ddywedodd, ewch i’r ddinas at y cyfryw vn, a dywedwch wrtho, y mae’r Athro yn dywedyd, fy amser sydd agos, gŷd â thi y cynhaliaf y Pasc, mi a’m discyblion.
19A’r discyblion a wnaethant y modd y gorchymynnase ’r Iesu iddynt, ac a baratoasant y Pasc.
20Ac #Luc.22.14.wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gŷd â’r deuddec.
21Ac #Marc.14.18. Ioan.13.21.fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedodd, yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, y bradycha vn o honoch fi.
22Yna yr aethant yn drist dros ben, ac a ddechreuasant bôb vn ddywedyd wrtho: ai myfi Arglwydd yw [hwnnw?]
23Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, yr hwn sydd yn trochi ei law gŷd â mi yn y ddyscl, #Psal.41.10.hwnnw a’m bradycha i.
24Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned fel y mae yn scrifennedic am dano, eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da a fuase i’r dŷn hwnnw pe na’s genesid efe er ioed.
25Ac Iudas yr hwn a’i bradychodd ef, a attebodd ac a ddywedodd, ai myfi yw [efe] Athro? yntef a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist.
26Ac #1.Cor.11.14.fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendigo efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes i’r discyblion, ac a ddywedodd, cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fyng-horph.
27Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, yfwch bawb o hwn:
28Canys hwn yw fyng-waed o’r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer er maddeuant pechodau.
29Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd gŷd â chwi yn nheyrnas fy Nhâd.
30Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Oliwŷdd.
31Yna #Marc.14.27. Ioan.16.31. & 18.8. Zachar.13.7.y dywedodd yr Iesu wrthynt, chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegit i: canys scrifennedic yw, tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wascerir.
32Eithr #Marc.14.28|MRK 14:28 & 16.7.wedi fy adgyfodi, mi a âf o’ch blaen chwi i Galilæa.
33Ac Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, pe rhwystrid pawb o’th plegit ti, etto ni’m rhwystrir fi byth.
34 # Ioan.13.30. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, yn wîr yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon cyn canu yr ceiliog i’m gwedi dair-gwaith.
35Petr a ddywedodd wrtho, pe gorfydde i mi farw gŷd â thi, etto ni’th wadaf: a’r vn modd hefyd y dywedodd yr holl ddiscyblion.
36Yna y daeth yr Iesu gŷd ag hwynt i fān a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, eisteddwch ymma tra ’r elwyf, a gweddio accw.
37Ac efe a gymmerth Petr a dau fâb Zebedeus, ac a ddechreuodd dristau ac ymofidio.
38Yna efe a ddywedodd wrthynt, trîst yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch gŷd â mi.
39Ac efe a aeth ychydig pellach, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a weddiodd gan ddywedyd, fy Nhâd, os gellir aed y cwppan hwn oddi wrthif, er hynny nid fel yr ewyllysiwyfi, ond fel yr [ewyllysiech] di.
40Ac efe a ddaeth at ei ddiscyblion, ac a’u cafas hwy yn cyscu, ac efe a ddywedodd wrth Petr, pa ham? oni allech chwi wilied vn awr gŷd â mi?
41Gwiliwch a gweddiwch rhac ei’ch myned mewn profedigaeth, yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wann.
42Efe a aeth trachefn yr ailwaith, ac a weddiodd, gan ddywedyd, fy Nhâd, oni’s gall y cwppan hwn fyned oddi wrthif heb orfod i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys.
43Ac efe a ddaeth, ac a’u cafas hwy yn cyscu trachefn: canys eu llygaid hwy oeddynt drymmion.
44Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymmaith trachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr vn geiriau.
45Yna y daeth efe at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt, cyscwch bellach a gorphywyswch: wele y mae’r awr wedi nessau, a Mâb y dŷn a roddir yn nwylo pechaduriaid.
46Codwch, awn, wele, y mae ger llaw yr hwn a’m bradycha.
47Ac #Mar.14.43.|MRK 14:43. Luc.22.47. Ioan.18.3.efe etto yn dywedyd hyn, wele Iudas, vn o’r deuddec, a thyrfa fawr gŷd ag ef â chleddyfau, a ffynn oddi wrth yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl.
48A’r hwn ai bradychodd ef a roese arwydd iddynt, gan ddywedyd, pa vn bynnac â gusanwyf, hwnnw yw, deliwch ef.
49Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, henffych well Athro, ac a’i cusanodd ef.
50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, y cyfaill, i ba beth y daethost? yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliâsant.
51Ac wele vn o’r rhai oeddynt gŷd â’r Iesu a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, dôd ti dy gleddyf yn ei wain, #Gene.9.6. Gwel. 13.10canys pawb ar a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.
53A ydwyt ti yn tybied na’s gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhâd fel y rhodde efe fwy nâ ddeuddec lleng o angelion i mi?
54Pa fodd yntef, y cyflawnir yr scrythyrau y rhai a ddywedant, #Isa.53.10.mai felly y gorfydd bôd?
55Yn yr awr honno, y dywedodd yr Iesu wrth y dyrfa, chwi a ddaethoch allan megis at leidr â chleddyfau, ac â ffynn i’m dala i: yr oeddwn beunydd yn eistedd, ac yn dyscu yn y Deml, ac ni’m daliasoch.
56A hyn oll a wnaethpwyd er cyflawni’r scrythyrau, a’r prophwydi: yna’r holl ddiscyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoasant.
57 # Mar.14.53.|MRK 14:53. Luc.22.54. Ioan.18.14. Hwythau a ddaliasāt yr Iesu, ac a aethant ag ef at Caiphas yr arch-offeiriad, lle’r oedd yr scrifennyddion a’r henuriaid wedi ymgasclu yng-hŷd.
58Ac Petr a’i canlynodd ef o hir-bell hyd yn llŷs yr arch-offeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gŷd â’r gweision i weled y diwedd.
59 # Marc.14.55. A’r arch-offeiriad a’r henuriaid, a’r holl gyngor a geisiasant gau destiolaeth yn erbyn yr Iesu, iw roddi ef i farwolaeth.
60Ac ni’s cawsant, îe er dyfod yno gau-dystion lawer ni chawsant: eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst:
61Ac hwy a ddywedâsant, hwn a ddywedodd, mi a #Ioan.2.19.allaf ddestruwio Teml Dduw, a’i hadailadu mewn tri diwrnod.
62Yna y cyfododd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, a attebi di ddim? pa beth sydd pan fyddo y rhai hyn yn testiolaethu yn dy erbyn?
63A’r Iesu a dawodd, yna yr attebodd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, yr ydwyf yn dy dynghêdu di trwy’r Duw byw, ddywedyd o honot i ni, os ty di yw Crist Mâb Duw.
64Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist: #Math.16.27. Rhufein.14.10.|ROM 14:10. 1.Thes.4.14.eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fâb y dyn yn eistedd ar ddeheu-law gallu [Duw,] ac yn dyfod yn wybrennau’r nef.
65Yna y rhwygodd ’r arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, efe a gablodd: pa raid i ni wrth mwy o dystion: wele clywsoch ei gabledd ef.
66Beth dybygwch chwi? hwy a attebâsant, gan ddywedyd, y mae efe yn euog i farwolaeth.
67 # Esa.50.6. Yna y poerâsāt yn ei wyneb, ac a’i bonclustiasant, eraill a’i cernodiasant ef,
68Gan ddywedyd, prophwyda i ni, ô Crist, pwy yw’r hwn a’th darawodd?
69Petr #Mar.14.66.|MRK 14:66. Luc.22.55.|LUK 22:55 Ioan.18.25oedd yn eistedd allan yn y neuadd, ac fe a ddaeth morwyn atto, ac a ddywedodd, yr oeddit tithe gŷd â’r Iesu o Galilæa:
70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, ni’s gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71A phan aeth efe allan i’r porth y gwelodd [morwyn] arall ef, ac hi a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yno, yr oedd hwn hefyd gŷd â’r Iesu o Nazareth.
72A thrachefn efe a wadodd, gan dyngu, nid adwen i y dŷn.
73Ac ychydig wedi hynny y daeth atto rai a oeddynt yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, yn wîr yr wyt ti yn vn o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
74Yna y dechreuodd efe ymregu, a thyngu, gan ddywedyd, nid adwen i y dŷn, ac yn y man y cânodd y ceiliog.
75Yna y cofiodd Petr eiriau’r Iesu yr hwn a ddywedase wrtho, cyn canu’r ceiliog ti a’m gwedi fi dair gwaith, yna yr aeth efe allan, ac yr ŵylodd yn dost.

Currently Selected:

Mathew 26: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in