YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 22

22
PEN. XXII.
1 Dammeg y briodas yn arwyddocau galwedigaeth y cenhedloedd, 11 a dialedd rhagrith-wyr, 16 ymresymmiad am deyrn-ged, Crist yn cau safnau y Saducæaid ynghylch yr adgyfodiad, 31 am yr adgyfodiad 36 y gorchymyn mwyaf, â’r ail, 41 Iesu yn ymresymmu â’r Pharisæaid am y Messias.
1A’r Iesu #Luc.14.16. Gwele.19.9.gan atteb a lefarodd wrthynt trachefn mewn damhegion, gan ddywedyd,
2 # 22.2-14 ☞ Yr Efengyl y yr ugeinfed Sul wedi ’r Drindod. Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn a oedd frenin, yr hwn a wnaethe briodas iw fâb.
3Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas, ac ni fynnent hwy ddyfod.
4Trachefn efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, wele, paratoais fyng-hinio, fy ŷchen a’m pascedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod, deuwch i’r briodas.
5A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, vn iw faes, ac arall iw fasnach.
6A’r llaill, a ddaliasant ei weision ef, a chan wneuthur yn drahaus â hwynt a’u lladasant.
7A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd allan eu luedd-wŷr, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt.
8Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasit, nid oeddynt deilwng.
9Ewch gan hynny allan i’r priffyrdd, a chynnifer ag a gaffoch gwahoddwch i’r briodas.
10A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasclasant yng-hŷd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da, a llanwyd y briodas o wahaddedigion.
11A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahaddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisc priodas am dano.
12Ac efe a ddywedodd wrtho, y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma heb fod gennit wisc priodas? ac yntef a aeth yn fûd.
13Yna #Math.8.12y dywedodd y brenin wrth y gweision, rhwymwch ei draed a’i ddwylo: a cymmerwch ef ymmaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf, yno y bydd ŵylofain a rhingcian dannedd.
14 # Math.20.16. Mar.12.13. Canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15 # 22.15-22 ☞ Yr Efengyl y trydydd Sul a’r hugain wedi ’r Drindod. Yna#Luc.20.20’r aeth y Pharisæaid, ac a gymmerasant gyngor pa fodd y dalient ef yn [ei] ymmadrodd.
16A hwy a ddanfonasant atto eu discyblion yng-hŷd a’r Herodianiaid gan ddywedyd, Athro, gŵyddom dy fôd ti’n air-wîr, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag nêb: o blegit nid wyt yn edrych ar ŵyneb dynion.
17Dywet i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied, ai cyfreithlawn talu teyrn-ged i Cæsar, ai nid yw?
18A’r Iesu yn gŵybod eu drygioni hwy, a ddywedodd, pa ham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrith-wŷr?
19Dangoswch i mi arian y deyrn-ged, ac hwy a roesant atto geiniog.
20Ac efe a ddywedodd wrthynt, eiddo pwy yw y ddelw hon a’r orgraph?
21Dywedasant wrtho, eiddo Cæsar, yna y dywedodd yntef wrthynt: #Mar.12.17.|MRK 12:17. Luc 20.25.|LUK 20:25. Rhuf.13.7telwch chwithau yr hyn sydd eiddo Cæsar i Cæsar, a’r hyn sydd eiddo Duw i Dduw.
22A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adel, a myned ymmaith.
23Y #Mar.13.18.|MRK 13:18. Luc.20.27. Act.23.8.dydd hwnnw y daeth y Saducæaid atto, y rhai sy yn dywedyd, nad oes adgyfodiad, ac hwy a ofynnasant iddo,
24Gan ddywedyd, ô Athro, fe a ddywedodd #Deut.25.5.Moses, os bydd marw nêb, heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a choded hâd iw frawd.
25Ar yr oedd gyd â ni saith o frodyr, a’r cyntaf, a briododd wraig, ac a fu farw, ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig iw frawd.
26Yn yr un modd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed.
27Ac yn ddiweddaf oll y bu farw y wraig hefyd.
28Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a’i cawsant hi.
29A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, yr ydych mewn amryfusedd am na ŵyddoch, yr scrythyrau, na nerth Duw.
30O blegit yn yr adgyfodiad nid ydynt yn gwreica, nac yn gŵra, eithr y maent fel angelion Duw yn y nefoedd.
31Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllennasoch yr hyn a ddywetpwyd wrthych gan Dduw, yr hwn a ddywedodd,
32 # Exod.3.6. Myfi yw Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Iacob: nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.
33A #Marc.12.28. phan glybu y bobl hynny rhyfeddu a wnaethant am ei athrawiaeth ef.
34 # 22.34-46 ☞ Yr Efengyl y deunawfed Sul wedi ’r Drindod Ac wedi clywed o’r Pharisæaid ddarfod [i’r Iesu] ostegu y Saducæaid, hwythau a ymgynnullasant ynghyd i’r vn lle.
35Ac vn o honynt, yr hwn oedd gyfraithiwr a ofynnodd iddo gan ei demtio, a dywedyd,
36Athro, pa vn yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith?
37Yr Iesu y ddywedodd wrtho, #Deut.6.5. Luc.10.27.ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.
38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr.
39A’r #Leuit.19.18.|LEV 19:18. Mar.12.31.|MRK 12:31. Rufe.13.9.|ROM 13:9. Gala.5.14. Iac.2.8.ail sydd gyffelyb i hwn, ceri dy gymydog fel tydi dy hun.
40Yn y ddau orchymyn hyn, y mae’r holl gyfraith a’r prophwydi yn sefyll.
41Ac #Mar.12.35.|MRK 12:35. Luc.20.41.wedi ymgasclu o’r Pharisæaid yng-hyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,
42Gan ddywedyd, beth a dybygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedasant wrtho: Mâb Dafydd.
43Yntef a ddywedodd wrthynt, pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44 # Psa.110.1 Dywedodd yr Arglwydd, wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th traed.
45Am hynny os galwodd Dafydd ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo?
46Ac ni fedre nêb atteb gair iddo, ac ni feiddiodd nêb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ac ef mwy.

Currently Selected:

Mathew 22: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in