YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 20

20
PEN. XX.
Dammeg o gyflogi gwaith-wyr i’r winllan, 17 Crist yn eu rhybuddio hwynt i ddioddef. 20 Deisyfiad mam meibion Zebedeus, ac atteb Crist. 30 Dau ddeillion yn cael eu golwg.
1 # 20.1-16 ☞ Yr Efengyl ar y sul Septuagesima Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i berchen tŷ yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau i gyflogi gweith-wŷr iw win-llan.
2Ac wedi cyduno â’r gweith-wŷr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy iw win-llan.
3Ac efe a aeth allan yng-hylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa,
4Ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch chwithau hefyd i’r win-llan, a pha beth bynnac a fydd cyfiawn mi a’i rhoddaf i chwi, ac hwy a aethant ymmaith.
5A thrachefn efe a aeth allan yng-hylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr vn modd.
6Ac efe a aeth allan yng-hylch yr vnfed awr ar ddêc, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych chwi yn sefyll ymma ar hŷd y dydd yn segur?
7Dywedasant wrtho, am na chyflogodd neb nyni: yntef a ddywedodd wrthynt, ewch chwithau hefyd i’r win-llan, a pha beth bynnac fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.
8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliwr, galw’r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf, hyd y rhai cyntaf.
9A phan ddaeth y rhai [a gyflogasid] ynghylch yr vnfed awr ar ddêc, cafodd pob vn geiniog.
10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, eithr hwythau a gawsant bob vn geiniog.
11Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,
12Gan ddywedyd, mai vn awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal a ninnau, y rhai a ddugasom bwys y dydd a’r gwrês.
13Yntef a attebodd i vn o honynt, ac a ddywedodd, y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur dim cam â thi: ond er ceiniog y cydunaist â mi?
14Cymmer yr hyn sydd eiddot ti, a dos ymmaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithe.
15Neu, onid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf am yr eiddo fi? a ydyw dy lygad ti yn ddrwg am fy môd i yn dda?
16 # Math.19.30. Mar.10.31.|MRK 10:31. Luc.13.30. Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer a alwyd, ac ychydig a ddewiswyd.
17A’r #Mar.10.32.|MRK 10:32. Luc.18.31.Iesu a aeth i fynu i Ierusalem, ac a gymmerth y deuddec discybl o’r nailltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,
18Wele, nyni yn myned i fynu i Ierusalem, a Mâb y dŷn a draddodir i’r arch-offeiriaid. ac i’r scrifennyddion, a hwy ai condemniant ef i farwolaeth,
19Ac #Ioan.18.32.a’i traddodant ef i’r cenhedloedd iw watwar, ac iw fflangellu, ac iw groes-hoelio: a’r trydydd dydd yr adgyfŷd efe.
20 # 20.20-28 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Iaco. Yna y daeth mam meibion Zebedeus atto yng-hŷd a’i meibion, gan addoli a deisyf peth ganddo ef.
21Ac efe a ddywedodd wrthi, pa beth a fynni? y hi a ddywedodd wrtho, dywet am gael o’m dau fâb hyn eistedd y naill ar dy law ddehau, a’r llall ar dy law asswy yn dy frenhiniaeth.
22A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, ni ŵyddoch beth yr ydych yn ei geisio, a ellwch chwi yfed o’r cwppan yr ydwyfi ar yfed o honaw? a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? dywedasant wrtho, gallwn.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, diogel yr yfwch o’m cwppan, ac i’ch bedyddir â’r bedydd i’m bedyddir ag ef, eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid i mi y mae rhoi, eithr i’r sawl y darparwyd gan fy Nhâd [y rhoddir.].
24A #Mar.10.41|MRK 10:41 Luc.22.25.phan glybu y dêc hyn, hwy a lidiasant wrth y ddau frodyr.
25A’r Iesu a’u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, gŵyddoch fôd pennaethiaid y cenhedloedd yn tra arglwyddiaethu arnynt hwy, a’r gwŷr mawrion yn arfer awdurdod arnynt hwy.
26Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi, ond pwy bynnac a fynno fôd yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn wenidog i chwi,
27A phwy bynnac a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded eich gwâs i chwi,
28Megis #Phil.2.7ni ddaeth Mab y dŷn iw wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth tros lawer.
29Ac a #Mar.10.46.|MRK 10:46. Luc.18.35.hwynt hwy yn myned o Iericho y dilynodd tyrfa fawr ef.
30Ac wele ddau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd fâb Dafydd trugarhâ wrthym.
31A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt fel y tawent: hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd fâb Dafydd trugarhâ wrthym.
32Yna y safodd yr Iesu, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi?
33Dywedasant wrtho, ô Arglwydd agoryd ein llygaid.
34A’r Iesu gan dosturio, a gyffyrddodd â’u llygaid, ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, ac hwy a’i dilynasant ef.

Currently Selected:

Mathew 20: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in