YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 2

2
PEN. II.
Y gwyr doethion y rhai ydynt flaenffrwyth y cenhedloedd yn addoli Crist. 13 Ioseph yn cilio i’r Aipht, a’r Iesu ai fam. 16 Herod yn lladd y rhai bychain. 22 Ioseph yn troi i Galilæa.
1 # 2.1-12 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl ystwyll. # Luc.2.6. Yna pan anwyd yr Iesu yn Bethlehem dinas o Iudæa yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o’r dwyrain i Ierusalem,
2Gan ddywedyd, pa le y mae brenin yr Iddewon yr hwn a anwyd? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom iw addoli ef?
3Pan glywodd Herod frenin [hyn,] efe a gyffroes, ac Ierusalem oll gyd ag ef.
4Wedi casclu o honaw ef yr holl archoffeiriaid ac scrifēnyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt, pa le y genid Crist.
5Ac hwy a ddywedasant wrtho ef, yn Bethlehem Iudæa: canys felly yr scrifennwyd trwy’r prophwyd,
6Tithe #Mic.5.2. Ioan.7.42.Bethlehem gwlad Iuda, nid lleiaf wyt ym mhlith tywysogion Iuda: canys o honot ti y daw tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.
7Yna Herod wedi galw y doethion yn ddirgel a’i holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosase y seren,
8Ac efe ai danfones hwynt i Bethlehem, gan ddywedyd, ewch ac ymofynwch yn fanwl am y bachgen, ac wedi i chwi ei gaffaerl ef, mynegwch i mi trachefn, fel y gallwyf finne ddyfod, ai addoli ef.
9Hwythau wedi clywed y brenin a aethāt, ac wele y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o’i blaen hwynt, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y bachgen.
10A phan welsant y seren, llawenhau â wnaethant â llawenydd mawr dros benn.
11A phan ddaethant i’r tŷ, hwy a gawsant y bachgen gyd â Mair ei fam, a chan syrthio i’r llawr hwy ai haddolasant ef, ac a agorasant eu tryssorau, a offrymmasant iddo anrhegion, sef aur, thus, a myrr.
12Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn iw gwlad ar hŷd ffordd arall.
13Ac wedi iddynt ymado, wele Angel yr Arglwydd a ymddangosodd i Ioseph trwy eu hun, gan ddywedyd, cyfot, a chymmer y bachgen a’i fam, a ffo i’r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys ceisio a wna Herod y bachgen, iw ddifetha.#2.13-18 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl y gwirioniaid.
14Ac yntef pan gyfododd a gymmerth y bachgē a’i fam o hŷd nos, ac a giliodd i’r Aipht.
15Ac yno y bu hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd, trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, o’r Aipht y gelwais fy Mab.#Osea.11.1
16Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion a ffrōmodd yn aruthr, ac efe a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgin y rhai oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau o ddwyflwydd oed, a thann hynny, wrth yr amser am yr hwn y gofynnase efe yn fanwl i’r doethion.
17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid trwy Ieremias y prophwyd gan ddywedyd, #Ier.31.15.
18Llef a glywyd yn Rama, galar ac ŵylofain, ac ochain mawr: Rachel yn ŵylo am ei phlant ac ni fynne hi ei chyssuro am nad oeddynt.
19Yna wedi marw Herod, wele, Angel yr Arglwydd a ymddangoses i Ioseph trwy ei hun yn yr Aipht,
20Gan ddywedyd, cyfot a chymmer y bachgen a’i fam a dôs i dir Israel: canys y rhai oeddynt yn ceisio enioes y bachgen a fuant feirw.
21Ac wedi ei gyfodi efe a gymmerth y bachgen a’i fam, ac a ddaeth i dîr Israel.
22Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu yn Iudæa yn lle ei dâd Herod, efe a ofnodd fyned yno, ac wedi ei rybuddio gan Dduw trwy ei hun, efe a giliodd i dueddau Galilæa.
23A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, mai Nazaread, y gelwid ef.

Currently Selected:

Mathew 2: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in