YouVersion Logo
Search Icon

Luc 7

7
PEN. VII.
Crist yn iachau gwâs y canwriad. 11 Yn codi o farw i fyw fab gwraig weddw. 20 Yn atteb ac yn canmol Ioan. 37 Ffydd, edifeirwch, a maddeuant Mair Magdalen.
1Wedi #Math.8.5.iddo orphen ei holl ymadroddion lle y clywe y bobl, efe a aeth i mewn i Capernaum.
2A gwâs rhyw Ganwriad oedd yn glaf ym mron marw, yr hwn oedd annwyl ganddo.
3Pan glybu efe am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iddewon gan attolwg iddo ddyfod, ac iachau ei wâs.
4Y rhai pan ddaethant at yr Iesu a attolygâsant arno yn daer, gan ddywedyd, o blegit y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hynn iddo.
5Canys (eb hwynt) y mae yn hoff ganddo ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni Synagog.
6A’r Iesu a aeth gyd â hwynt, ac efe heb fod yn bell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion atto gan ddywedyd wrtho, ô Arglwydd na phoena, canys nid wyfi deilwng i ddyfod o honot tann fyng-hronglwyd.
7Am hynny ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod attat, eithr dywet ti’r gair, ac iach fydd fyng-was.
8O blegit dyn wyf finne wedi ei osod tann awdurdod, a chennif filwŷr tanaf, ac meddaf wrth hwn, dos, ac efe a aiff, ac wrth arall, tyret, ac efe a ddaw, ac wrth fyng-wâs, gwna hynn, ac efe a’i gwna.
9Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, rhyfeddu a wnaeth o’i blegit ef, a throi, a dywedyd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn: yr ydwyf yn dywedyd i chwi, na chefais gymmaint o ffydd yn yr Israel.
10A’r rhai a anfonasid wedi iddynt ddychwelyd adref a gawsant y gwâs a fuase yn glaf, yn holl-iach.
11 # 7.11-17 ☞ Yr Efengyl yr unfed Sul ar bymtheg wedi ’r Drindod A bu drannoeth iddo fyned i ddinas a elwid Nain: a llawer o’i ddiscybliō a aethant gydag ef, a thyrfa fawr.
12Pan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas: wele vn marw a ddygid allan, yr hwn oedd vnic fab ei fam, a honno yn weddw, a llawer o bobl y ddinas oedd gyd â hi.
13A phan welodd yr Arglwydd hi, efe a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, nac ŵyla.
14A phan ddaeth yn nes, efe a gyffyrddodd â’r elor, (a’r rhai oedd yn ei dwyn a safasant) ac efe a ddywedodd, y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthit cyfot.
15Yna y cyfodes y marw yn ei eistedd, ac efe a ddechreuodd lefaru: ac efe a’i rhoddes iw fam.
16Ac ofn a ddaeth arnynt oll, ac hwy a ogoneddasant Dduw gan ddywedyd: yn ddiau prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith, ac ymwelodd Duw â’i bobl.
17A’r gair hwn a aeth allan am danaw tros holl Iudæa, a thros gwbl o’r wlâd oddi amgylch.
18A #Math.11.2.mynegodd ei ddiscyblion i Ioan am hyn oll.
19Ac wedi i Ioan alw dau o’i ddiscyblion atto, efe a’u gyrrodd hwynt at yr Iesu, gan ddywedyd: ai tydi yw’r hwn sydd ar ddyfod, ai arall a ddysgwiliwn?
20A phan ddaeth y gŵyr atto, hwynt hwy a ddywedasant: Ioan Fedyddiwr a’n anfonodd ni attat ti, gan ddywedyd: ai ti yw’r hwn sydd ar ddyfod, ai arall a ddisgwiliwn?
21A’r awr honno efe a iachâodd lawer oddi wrth glefydau, a phlauau, ac ysprydion drwg: ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.
22A’r Iesu a attebodd gan ddywedodd wrthynt: ewch ymmaith a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch, ac a glywsoch: fod y #Esa.35.5. & 61.1. Math.11.5.deillion yn cael eu golwg, y cloffion yn rhodio: y gwahan-gleifion yn eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn derbyn yr Efengyl.
23A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir o’m plegit i.
24Ac #Math.11.7.wedi i gennadau Ioan fyned ymmaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y dyrfa am Ioan: beth yr aethoch allan i’r diffaethwch iw weled? ai corsen yn siglo gan wynt?
25Ond pa beth yr aethoch allan iw weled? Ai dŷn wedi ei ddilladu â gwiscoedd esmwyth? wele, y rhai sy yn arferu dillad anrhydeddus a maswedd ydynt mewn palasoedd brenhinoedd.
26Eithr beth yr aethoch allan iw weled? ai prophwyd? yn ddiau meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.
27Hwn yw efe o’r vn yr scrifennwyd: #Mal.3.1. wele yr wyf yn anfon fyng-hennad o flaen dy wyneb, yr hwn a drefna dy ffordd o’th flaen.
28Canys meddaf i chwi ym mhlith y rhai a aned o wragedd nid oes brophwyd mwy nag Ioan fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.
29Yna yr holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r Publicanod a foliasant Dduw, y rhai a fedyddiasid â bedydd Ioan.
30Eithr y Pharisæaid a’r cyfreithwŷr yn eu herbyn eu hunain a wrthodasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31Yna yr Arglwydd a ddywedodd, i #Math.11.16.bwy y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon, ac i ba beth y maent tebyg?
32Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, gan ddywedyd: canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch, cwynfanasom i chwi, ac nid ŵylasoch.
33Daeth Ioan Fedyddiwr heb fwytta bara, nac yfed gwîn, a meddwch chwi, y mae cythrael ganddo.
34Daeth Mab y dŷn yn bwytta ac yn yfed, ac yr ydych yn dywedyd, wele vn glwth, ac yfwr gwîn, cyfaill Publicanod a phechaduriaid.
35A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant.
36Ac vn o’r Pharisæaid a’i gwahoddodd ef i fwytta gyd ag ef, ac yntef a aeth i dŷ’r Pharisæad, ac a eisteddodd.
37Ac wele wraig, yr hon a fuase bechadures yn y ddinas, pan ŵybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd, yn nhŷ’r Pharisæaid, hi a ddug flwch o ennaint:
38A #Marc.14.3. Ioan.20.(sic.)chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac ŵylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, a’u sychu â gwallt ei phenn, a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint.
39Pan welodd y Pharisæad, yr hwn a’i gwahoddase, efe a ddywedodd wrtho ei hun: pe bydde hwn brophwyd, efe a ŵydde pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.
40Yna’r attebodd yr Iesu gan ddywedyd wrtho, Simon, y mae gennif beth iw ddywedyd wrthit: yntef a ddywedodd, Athro, dywet.
41Dau ddyledwr oedd i’r vn echwynwr, y naill oedd arno bum cant ceiniog o ddylêd, a’r llall ddêc a deugain.
42A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau: dywet gan hynny pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf?
43Simon a attebodd, ac a ddywedodd: yr wyf yn tybied mae’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf: yntef a ddywedodd wrtho, iniawn y bernaist.
44Yna wedi troi at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon: a weli di’r wraig hon? daethym i’th dŷ, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: a hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phenn.
45Ni roddaist i mi gusan, a hon er pan ddaethym i mewn, ni orphwysodd yn cusanu fy nhraed.
46Nid iraist fy mhenn ag olew, a hia irodd fy nhraed ag ennaint.
47Am hynny meddaf i ti, maddeuwyd llawer o bechodau iddi: canys carodd yn fawr, o achos i’r neb y maddeuer ychydig, ychydig a gâr efe.
48Ac efe a ddywedodd wrthi: maddeuwyd i ti dy bechodau.
49Yna y rhai oeddynt yn cyd-eistedd a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain: pwy yw hwn sydd yn maddeu pechodau hefyd?
50Ac efe a ddywedodd wrth y wraig: dy ffydd a’th gadwodd, dos mewn tangneddyf.

Currently Selected:

Luc 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in