YouVersion Logo
Search Icon

Luc 6

6
PEN. VI.
Crist yn escusodi ei ddiscyblion am dynnu y tywys yd ar y Sabboth, 12 yn gweddio mewn mynydd, ac yn dewis ei ddeuddec Apostl, 20 ac yn dangos gwynfyd y duwiol. a’r gwae a ddaw i’r annuwiol.
1A Bu ar #Math.12.1. Marc.2.23.yr ail prif Sabboth, fyned o honaw trwy’r ŷd, a thynnu o’r discyblion y tywys a’i bwyta wedi eu rhwbio â’u dwylo.
2A rhai o’r Pharisæaid a ddywedasant wrthynt: pa ham yr ydych yn gwneuthur y peth nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar y Sabbothau?
3Yna’r attebodd yr Iesu iddynt gan ddywedyd: oni ddarllenasoch chwi, y #1.Sam.21.6. peth a wnaeth Dafydd pan newynodd, a’r rhai oeddynt gyd ag ef?
4Fel yr aeth efe i dŷ Dduw, ac y cymmerth y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oeddynt gyd ag ef, yr hwn #Exod.19.33.(sic.)|EXO 29:34. Lefit.8.31. nid oedd gyfreithlawn i neb ei fwytta, onid i’r offeiriaid yn vnic?
5A hefyd efe a ddywedodd wrthynt: Mab y dŷn sydd Arglwydd ar y Sabboth hefyd.
6A * bu ar Sabboth arall iddo fyned i mewn i’r Synagog, ac athrawiaethu: ac yno yr oedd dŷn a’i law ddehau wedi diffrwytho.#Math.12.9. Marc.3.1.
7A’r scrifennyddion a’r Pharisæaid a’i disgwiliâsant ef, a iachâe efe ef ar y [dydd] Sabboth, fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.
8Eithr efe a ŵybu eu meddyliau hwynt: ac a ddywedodd wrth y dŷn â’r llaw ddiffrwyth: cyfot, a saf i fynu, a saf yn y canol, ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.
9Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, mi a ofynnaf i chwi beth: a’i cyfreithlawn gwneuthur dâ ar y Sabboth, ynte gwneuthur drwg? cadw enioes, ai lladd?
10Ac efe a edrychodd arnynt oll oddi amgylch, ac efe a ddywedodd wrth y dŷn: estyn dy law, ac efe a wnaeth felly, a’i law ef a aeth eilwaith mor iach â’r llall.
11Yna yr ymlanwasant hwy o ynfydrwydd, ac yr ymddiddanasant wrth eu gilydd, pa beth a wnaent i’r Iesu.
12A bu yn y dyddiau hynny fyned o honaw i’r mynydd i weddio, a bod yno ar hŷd y nôs yn gweddio Duw.
13A phan #Luc.9.1. Math.10.1. Marc.3.13.aeth hi yn ddydd efe a alwodd ei ddiscyblion, ac o honynt efe a etholes ddeuddec, y rhai a alwodd efe yn Apostolion.
14(Simon yr hwn hefyd a alwodd efe Petr, ac Andreas ei frawd, Iaco, ac Ioan, Philip, a Bartholomew,
15Matthew a Thomas, Iaco [fab] Alpheus, a Simon a elwir Zelotes,
16Iudas brawd Iaco, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr)
17Yna yr aeth efe i wared gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastatir gyd â’r dorf o’i ddiscyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iudæa, ac Ierusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaethent iw glywed ef, ac iw hiachau o’u clefydau.
18A’r rhai a flinasid gan ysprydion aflan, ac a iachauesid.
19A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef: am fod rhinwedd yn myned o honaw allan, ac yn iachau pawb.
20Ac efe #Math.5.2.gan dderchafu ei olygon ar ei ddiscyblion a ddywedodd, gwyn eich byd y tlodion: canys chwi piau teyrnas Dduw.
21Gwyn #Esa.65.13. eich byd yr rhai sy yn dwyn newynu yr awran, canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd #Esa.61.3. y rhai a ŵylwch yr awran, canys chwi a chwerddwch.
22Gwynfydedig fyddwch pan eich casâo dynion, a’ch didoli chwi oddi wrthynt, a’ch difenwi, #Math.5.11.a bwrw allan i chwi megis drwg enw, er mwyn Mab y dŷn:
23Byddwch lawen y dydd hwnnw a llemmwch, canys wele eich gobr sydd fawr yn y nefoedd: o blegit yn yr vn ffunyd y gwnaeth eu tadau hwynt i’r prophwydi.
24Eithr #Amos.6.5.gwae chwi’r cyfoethogion, canys derbyniasoch eich diddanwch.
25Gwae #Esa.65.13.chwi y rhai llawn, canys chwi a newynwch, gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awran, canys chwi a alerwch, ac a ŵylwch.
26Gwae chwi pan ddywedo pob dŷn dda am danoch, canys felly y gwnaeth eu tadeu hwynt i’r gau brophwydi.
27 # Math.5.44. Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, cerwch eich gelynion: gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt.
28Bendithiwch y rhai a’ch melldithiant: a gweddiwch tros y rhai a’ch drygant.
29Ac #Math.5.39.i hwn a’th darawo ar y [naill] gern, tro’r llall hefyd: ac i #1.Cor.6.7.hwn a ddwg ymmaith dy gochl, na wahardd dy bais.
30Dod i bob vn a geisio gennit, a chan y neb a fyddo yn dwyn na chais yr eiddot ti eilchwel.
31Ac #Math.7.12. Tob.4.16.fel y mynnech i ddynion wneuthur i chwi: felly gwnewch chwithau iddynt hwy.
32 # Math.5.46. Canys os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? o blegit y pechaduriaid a garant y rhai a’i câr hwythau.
33Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? o blegit y pechaduriaid a wnant yr vn peth.
34Ac #Math.5.42. Deut.15.8.os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? o blegit pechaduriaid i bechaduriaid a roddant echwyn, er mwyn cael y cyffelyb.
35Eithr, cerwch eich gelynnion, gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio tâl trachefn, a’ch gobr a fydd mawr, a #Math.5.45.phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg.
36 # 6.36-42 ☞ Yr Efengyl y pedweryd Sul wedi ’r Drindod. Byddwch gan hynny drugarogion, megis y mae eich Tâd yn drugarog.
37 # Math.7.1. Na fernwch ac ni’ch bernir: na chondemnwch, ac ni’ch condemnir, maddeuwch a maddeuir i chwithau.
38Rhoddwch a rhoddir i chwi: #Math.7.2. Marc 4.24 mesur da, dwysedig, wedi ei escwyd, ac yn myned trosodd a roddant yn eich mynwes: canys â’r vn mesur y mesuroch y mesurir i chwi trachefn.
39Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt: a #Math.15.14.ddichon y dall dywyso’r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?
40Nid * yw’r dyscybl vwch law ei athro: canys perffaith a fydd pob vn a fyddo fel ei athro #Math.10.24. Ioh.13.16
41Pa ham #Math.7.3.y gweli di frycheun yn llygad dy frawd, ac heb ystyried y trawst fyddo yn dy lygad dŷ hun?
42Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheun y sydd yn dy lygad, a thydi heb weled y trawst yr hwn sydd yn dy lygad dy hun? ô ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheunyr hwn sydd yn llygad dy frawd.
43 # Math.7.17. Nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg, ac nid yw y pren drwg yn dwŷn ffrwyth da.
44Pob #Math.7.16. Math 12.13. pren a adweinir wrth ei ffrwyth ei hun, canys nid oddi o’r drain y casclant ffigus, nac o berth yr heliant rawn-win.
45Y dŷn da o ddaionus dryssor ei galon a ddwg allan ddaioni: a’r dŷn drwg o ddrygionus dryssor ei galon a ddwg allan ddrygioni: canys o gyflawnder y galon y mae y geneu yn llefaru.
46 # Math.7.21. Rhuf.13.2 Pa ham yr ydych yn fyng-alw i Arglwydd, Arglwydd, gan nad ydych yn gwneuthur yr hynn yr wyf yn ei ddywedyd?
47Pwy bynnag a ddel attafi, ac a wrendy fyng-eiriau, ac a’u gwnelo hwynt, dangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb.
48Cyffelyb yw i ddŷn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiod ac a dyllodd, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth rhyferthwy, y llifeiriant a gurodd ar y tŷ, ac ni alle ei syflyd am ei fod wedi ei sailio ar y graig.
49A’r hwn a wrendu ac ni wna, cyffelyb yw iw ddŷn a adeilade dŷ ar y ddaiar heb sail, ar yr hwn y curodd y llifeiriant, ac yn y fan y syrthiodd, a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.

Currently Selected:

Luc 6: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in