YouVersion Logo
Search Icon

Luc 11

11
PEN. XI.
Crist yn dyscu iw ddiscyblion weddio. 14 Yn bwrw cythrael allan, ac yn atteb cabledd y Pharisæaid. 29 Yn atteb y rhai a geisiant arwyddion. 39 Ac yn argyoeddi rhagrith y Pharisæaid a’r scrifēnyddion.
1A bu, fel yr oedd efe mewn man yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o vn o’i ddiscyblion wrtho: dysc i ni weddio megis y dyscodd Ioan iw ddiscyblion.
2Ac efe a ddywedodd wrthynt: pan weddioch, dywedwch, #Math.6.4.ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw: deued dy deyrnas, gwneler dy ewyllys ar y ddaiar fel yn y nef.
3Ein bara beunyddiol dyro i ni heddyw?
4A maddeu i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sy yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwaret ni rhag drwg.
5Ac efe a ddywedodd wrthynt: pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac a aiff atto hanner nos, ac a ddywed wrtho: ô gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn?
6Canys cyfaill i mi a ddaeth (wrth ymdaith) attaf, ac nid oes gennif ddim iw ddodi ger ei fron ef.
7Ac yntef oddi mewn, a ettyb gan ddywedyd: na flina fi, yn awr y mae’r drŵs yn gaead, a’m plant gyd â mi yn y gwely: ni allaf godi iw rhoddi i ti.
8Yr wyf yn dywedyd i chwi, er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill: etto yn ddiau rhag ei deirni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gymmaint ag y fyddo arno eu heisieu.
9Ac yr #Math.7.7. marc.11.14.|MRK 11:14. ioan.14.13|JHN 14:13 & 16.22.|JHN 16:22. iac.1.5ydwyf yn dywedyd i chwi: gofynnwch, ac fe a roir i chwi, ceisiwch, a chwi a gewch, curwch, ac fe a agorir i chwi.
10Canys pwy bynnag a ofynno a dderbyn: a’r neb a geisio a gaiff, ac i’r neb a guro yr agorir.
11Pa dad o honoch, os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? neu [os gofyn] byscodyn, a rydd iddo sarph yn lle pyscodyn?
12Neu os gofyn efe wy, a rydd yntef iddo scorpion?
13Os chwy-chwi gan hynny y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi pethau da i’ch plan: pa faint mwy y rhydd eich Tad nefol eich Yspryd glân i’r rhai a ofynno ganddo?
14 # 11.14-28 ☞ Yr Efengyl y trydydd Sul o’r garawys. Ac yr #Math.9.34.|MAT 9:3412.22.oedd efe yn bwrw allan gythrael, yr hwn oedd fud: a bu wedi i’r cythrael fyned allan, i’r mud lefaru, a rhyfeddu a wnaeth y bobl.
15A rhai o honynt a ddywedasant: #mar.3.20.trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16Ac eraill er ei brofi ef a geissiasant ganddo arwydd o’r nef.
17Yntef yn gŵybod eu meddyliau hwynt a ddywedodd wrthynt, #Math.12.15. mar.3.24. pob teyrnas wedi rhannu ynddi ei hun a anrheithr: a thŷ [rhannedic] yn ei erbyn ei hun, a syrthia.
18Os Satan hefyd sy wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyf i yn bwrw allan gythreuliaid.
19Os trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy hwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farn-wŷr arnoch chwi.
20Eithr os myfi trwy fŷs Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.
21Pan fyddo vn cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn oll sydd ganddo mewn heddwch.
22Ond pan ddel vn cryfach nag ef arno, a’i orchfygu, efe a ddwg ymmaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddyried, ac a ran ei anrhaith ef.
23Y neb nid yw gyd â mi sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casclu gyd â mi, sydd yn gwascaru.
24Pan #Math.12.43.êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia mewn lleoedd sychion gan geisio esmwythdra, a phryd na chaffo, efe a ddywed: mi a ddychwelaf i’m tŷ, o’r lle y daethum:
25A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei yscubo a’i drefnu:
26Yna yr aiff efe, ac y cymmer [gyd ag ef] saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun: a phan elont i mewn yno yr arhossant, a #Heb.6.4. 2.pet.2.20. diwedd y dŷn hwnnw fydd gwaeth nâ’i ddechreuad.
27A bu fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn godi o ryw wraig o’r dyrfa ei llef gan ddywedyd wrtho: gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist.
28Yntef a ddywedodd, yn hytrach gwynfyd y rhai ydynt yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.
29A phan #Math.12.38.ymgasclodd y bobl atto, efe a ddechreuodd ddywedyd: y genedl sydd ddrwg y mae hi yn ceisio arwydd, ac arwydd ni roddir iddi #Ionas.2.1. ond arwydd Ionas y prophwyd.
30Canys fel y bu Ionas yn arwydd i’r Ninifeaid, felly y bydd Mab y dŷn hefyd i’r genedl hon.
31 # 1.Bren.10.1. 2.cron.9.1. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â gwŷr y genhedlaeth hon, ac au condemna hwynt, am iddi ddyfod o eithafoedd y ddaiar i wrando doethineb Salomon, ac wele, [vn] mwy nâ Salomon ymma.
32 # Ionas.3.5. Gwŷr Ninife a godant yn y farn gyd â’r genhedlaeth hon, ac a’i condemna hi, am iddynt edisarhau wrth bregeth Ionas: ac wele, [vn] mwy nag Ionas ymma.
33Ni #Math 5.15.|MAT 5:5. marc.4.21.|MRK 4:21. luc.8.16.ddyru neb gannhwyll wedi iddo ei goleu, ynghudd, na thān lestr: eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo y rhai a ddel i mewn weled y goleuni.
34 # Luc.6.22. Cannhwyll y corph yw’r llygad: am hynny pan [fyddo] dy lygad yn syml, yna y mae dy holl gorph yn oleu: eithr pā fyddo dy lygad yn ddrwg, yna y bydd dy gorph yn dywyll.
35Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot, fôd yn dywyllwch.
36Am hynny os dy holl gorph gan hynny sydd oleu, ac heb vn rhan dywyll, yna bydd y cwbl yn oleu, fel pe bydde gannwyll yn dy oleuo â’i llewyrch.
37Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisæad a’i gwahoddodd ef i giniâwa gyd ag ef, ac efe a aeth, ac a eisteddodd.
38Ar Pharisæad pan welodd a ryfeddodd, nad ymolchase efe yn gyntaf, o flaen ciniaw.
39A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho: yn #Math.23.25.ddiau chwy-chwi’r Pharisæaid ydych yn glânhau y tu allan i’r cwppan a’r ddyscl, a’ch tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni:
40O ynfydion, ond yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi mewn hefyd?
41Yn hytrach, rhoddwch elusen o’r pethau sy: ac wele, pôb peth sydd lân i chwi.
42Eithr gwae chwi’r Pharisæaid: canys yr ydych chwi yn degymmu y mintys, a’r ruw, a phob llyssieun, ac yn gadel ymmaith farn a chariad Duw: y rhai hyn sy raid eu gwneuthur, ac na adewer y lleill heb eu gwneuthur.
43Gwae #Math.23.6. marc.12.38.|MRK 12:38. luc.20.46chwi Pharisæaid, canys yr ydych yn caru yr eisteddleoedd cyntaf yn y Synagogau, a [chael] cyfarch yn y marchnadoedd.
44 # Math.23.27. Gwae chwi’r scrifennyddion a’r Pharisæaid y rhai ydych rhagrithwŷr: am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion y rhai a rodiant arnynt heb eu hadnabod.
45Yna yr attebodd vn o’r cyfreithwŷr, ac y dywedodd wrtho: Athro wrth ddywedyd hyn, yr wyt yn ein gwradwyddo ninnau hefyd.
46Yntef a ddywedodd, #Math.23.4. act.15.10. gwae chwithau hefyd y cyfreith-wŷr, canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anhawdd eu dwyn: ac nid ydych chwi yn cyffwrdd â’r beichiau ag vn o’ch bysedd.
47Gwae chwy-chwi, canys yr ydych yn adeiladu beddau’r prophwydi, a’ch tadeu chwi a’u lladdodd hwynt.
48Felly yr ydych yn testiolaethu eich bod yn fodlon i weithredoedd eich tadau, canys hwynt hwy a’u lladdâsāt hwynt, a chwitheu ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.
49Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, anfonaf attynt brophwydi, ac Apostoliō, ac o honynt rhai a lladdant, a rhai, a erlidiant.
50Fel y gofynnir i’r genhedlaeth hon waed yr holl brophwydi yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y bŷd:
51O #Gen.4.1. waed Abel hyd waed #1.cron.24.21. Zacharias yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r Deml: diau meddaf i chwi y gofynnir ef i’r gēhedlaeth hon.
52Gwae chwy-chwi y cyfreithwŷr, canys chwi a ddugasoch ymmaith agoriad y gŵybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oeddynt yn myned a waharddasoch chwi.
53Fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt: y dechreuodd yr scrifennyddion a’r Pharisæaid fod yn daer arno, a’i annog i siarad am lawer o bethau:
54Gan ei gynllwyn ef, ac yn ceisio hela rhyw beth o’i ben ef, i gael achwyn arno.

Currently Selected:

Luc 11: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in