YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 41

41
PEN. XLI.
26 Dehongliad breuddwyd Pharao. 40 Ioseph yn lywyawdur ar yr holl Aipht. 50 Ganedigaeth daufab Ioseph, Manasses, ac Ephraim. 54 Y newyn yn dechreu ar hyd yr holl wledydd.
1Yna ym mhen dwy flynedd lawn y bu i Pharao freuddwydio: ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
2Ac wele yn escyn o’r afon saith [o] wartheg têg yr olwg, a thewon o gig, ac mewn gwyrglodd-dir y porasent.
3Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hol hwynt o’r afon yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gîg: a safasant yn ymmyl y gwarthec [cyntaf] ar lann yr afon.
4A’r gwarthec drwg yr olwg a chulion o gîg a fwyttasant y gwarthec têg yr olwg, a breision: yna y dihunodd Pharao.
5Efe a gyscodd hefyd, ac a freuddwydiodd eil-waith: ac wele saith o dwysennau yn tyfu ar vn gorsen, o [dwysennau] breiscion a dâ.
6Wele hefyd saith o dwysennau teneuon, ac wedi eu deifio gan wynt y dwyrein, yn tarddu allan ar eu hol hwynt.
7A’r twysennau teneuon a lyngcasant y saith dwysen fraisc, a llawn: yna y deffroawdd Pharao, ac wele breuddwyd [oedd.]
8Ac yn foreu y darfu iw yspryd gynhyrfu, yna efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht, ai holl ddoethion hi: a Pharao a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion: ond nid [oedd] ai deongle hwynt i Pharao.
9Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharao, gan ddywedyd: yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw.
10Llidio a wnaethe Pharao wrth ei wesion, ac efe a’m rhoddes mewn carchar [yn] nhŷ y distain, my fi a’r pen-pobydd.
11Yna y breuddwydiasom freuddwyd yn yr vn nos, mi ag ef: breuddwydiasom bob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun.
12Ac [yr oedd] yno gyd a nyni langc o Hebread, gwâs i’r distain, pan fynegasom [ein breuddwydion] iddo ef, yntef a ddeonglodd #Genes.40.5. Psal.105.20i ni ein breuddwydion, yn ol breuddwyd pôb vn, y deongliodd efe.
13A darfu fel y deonglodd i ni felly y bu: rhoddwyd fi eilwaith i’m swydd, ac yntef a grogwyd.
14Pharao gan hynny a anfonodd, ac a alwodd am Ioseph: hwytheu ar redec ai cyrchasant ef, o’r carchar: yntef a eilliodd [ei wallt,] ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharao.
15A Pharao a ddywedodd wrth Ioseph, breuddwydiais freuddwyd, ac nid [oes] ai deonglo ef: ond myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y gwrandewi freuddwyd iw ddeonglu.
16Yna Ioseph a attebodd Pharao gan ddywedyd: Duw nid my fi a ettyb lwyddiant i Pharao.
17Pharao gan hynny a ddywedodd wrth Ioseph: wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.
18Ac wele ’n escyn o’r afon saith o wartheg tewon o gîg, a theg yr olwg, ac mewn gwyrglodd-dir y porasent.
19Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hôl hwynt, culion, a thra drwg yr olwg, ac yn druain o gîg: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dîr yr Aipht.
20A’r gwarthec culion, a drwg a fwyttasant y saith muwch tewon cyntaf.
21Er eu myned iw boliau, ni wyddyd iddynt fyned iw boliau, canys yr olwg arnynt oedd ddrwg megis yn y dechreuad: yna mi a ddeffroais.
22Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dwysen llawn, a thêg yn cyfodi o’r vn gorsen.
23Ac wele saith dwysen teneuon, meinion, wedi eu deifio [gan] ddwyrain-wynt yn tyfu ar eu hol hwynt.
24Yna y twysennau teneuon, a lyngcasant y saith dwysen dêg: a dywedais [hyn] wrth y dewiniaid, ond nid oedd ai deongle i mi.
25Yna y dywedodd Ioseph wrth Pharao, breuddwyd Pharao sydd vn, yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharao.
26Y saith o wartheg têg saith mlynedd [ydynt] hwy: a’r saith dwysen têg, saith mlynedd [ydynt] hwy, vn breuddwyd yw hyn.
27Hefyd y saith muwch culion a drwg y rhai [oeddynt] yn escyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd [ydynt] hwy: a’r saith dwysen gwag gwedi eu deifio [gen] y dwyrain wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.
28Hwn yw y peth yr hwn a ddywedais i wrth Pharao: yr hyn a wna Duw efe ai dangossodd i Pharao.
29Wele saith mlynedd yn dyfod: o amldra mawr trwy holl wlad yr Aipht.
30Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn, fel yr anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a newyn a ddifetha y wlâd.
31Ac ni wybyddir [oddi wrth] yr amldra cyntaf trwy y wlâd, o herwydd y newyn hwnnw yr hwn [a fydd] wedi hynny: o blegit trwm iawn [fydd] ef.
32Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharao ddwywaith, [hynny a fu] o blegit siccrhau y peth gan Dduw, a bod Duw yn bryssio iw wneuthur.
33Weithian gan hynny edryched Pharao [am] wr deallgar a doeth, a gossoded ef yn swyddog ar wlâd yr Aipht.
34Gwnaed Pharao hyn, sef gossoded olygwyr ar y wlâd a chymmered bummed ran [cnwd] gwlad yr Aipht tros saith mlynedd yr amldra.
35Yna casglant holl ymborth y blynyddoedd daionus hynny y rhai ydynt ar ddyfod: sef casclant ŷd dan law Pharao, a chadwant [ymborth] mewn dinasoedd.
36A bydded yr ymborth yng-hadw i’r wlâd tros saith mlynedd y newyn, y rhai fyddant yng-wlad yr Aipht, fel na ddifether y wlâd gan y newyn.
37A’r peth oedd dda yng-olwg Pharao ac yng-olwg ei holl weision.
38Yna y dywedodd Pharao wrth ei weision, a gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn [y mae] yspryd Duw yndo.
39Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph, wedi gwneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid deallgar, na doeth neb wrthit ti.
40Ty di a #Psal.105.21.|PSA 105:21. 1.Macha.2.53.|1MA 2:53. Act.7.10.oruwchwili fy nhŷ fi, ac ar dy fîn y cusana fy mhobl oll: [yn] y deyrn-gader yn vnic y byddaf fwy na thy di.
41Yna y dywedodd Pharao wrth Ioseph, edrych, rhoddais di [yn swyddog] ar holl wlad yr Aipht.
42A thynnod Pharao ei fodrwy oddi ar ei law, ac ai rhoddes hi ar law Ioseph, ac ai gwiscodd ef mewn gwiscoedd sidan ac a ossododd gadwyn aur ’am ei wddf ef.
43Ac a wnaeth iddo ef farchogeth yn yr ail cerbyd yr hwn [oedd] iddo ef ei hun: a llefwyd oi flaen ef Abrec: felly y gossodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.
44Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph my fi [ydwyf] Pharao: ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law, nai droed trwy holl wlad yr Aipht.
45A Pharao a alwodd henw Ioseph Zaphnath Paaneah, ac a roddes iddo Asnath merch Potiperah offeiriad On yn wraig: yna yr aeth Ioseph allan dros wlad yr Aipht.
46Ac Ioseph [ydoedd] fâb deng-mlwydd ar hugain pan safodd ef ger bron Pharao brenin yr Aipht: ac Ioseph aeth allan o wydd Pharao, ac a drammwyodd drwy holl wlad ’r Aipht.
47A’r ddaiar a gnydiodd, tros saith mlyned yr amldra, yn ddyrneidiau.
48Yntef a gasclodd holl ymborth y saith mlynedd y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht, ac a roddes ymborth mewn dinasoedd: ymborth maes y ddinas yr hwn [fyddei] oi hamgylch, a roddes ef oi mewn.
49Felly Ioseph a gynnullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosoc, hyd oni pheidiodd ai rifo, o blegit [yr ydoedd] heb rifedi.
50Ond cyn dyfod [vn] flwyddyn o newyn y #Gen.46.20 & 48.5ganwyd i Ioseph ddau fâb, y rhai a ymddûg Asnath merch Potiperah offeiriad On iddo ef.
51Ac Ioseph a alwodd henw y cyntafanedic Manasses: oblegit [eb efe] Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy-nhad oll.
52Ac efe a alwodd henw ’r ail Ephraim, oblegit [eb efe] Duw ’am ffrwythlonodd i yngwlad fyng-orthrymder.
53Yna y darfu saith mlynedd yr amldra, y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht.
54A’r saith mlynedd newynoc, a ddechreuasant ddyfod fel y dywedase Ioseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd: ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.
55Felly y newynodd holl wlad yr Aipht: ’ar bobl a waeddodd ar Pharao, am fara: a Pharao a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, ewch at Ioseph: yr hyn a ddywedo efe wrthych gwnewch.
56Y newyn hefyd ydoedd, ar holl wyneb y ddaiar: Ioseph gan hynny a agorodd yr holl [leoedd] yr hai [’r ydoedd ŷd] ynddynt, ac a werthodd ’ir Aiphtiaid: o blegit gorfuase y newyn yng-wlad yr Aipht.
57A’m hynny y daeth holl wledydd yr Aipht at Ioseph i brynnu: o herwydd gorfuase y newyn yn yr holl wledydd.

Currently Selected:

Genesis 41: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in