YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 36

36
PEN. XXXVI.
2 Gwragedd Esau. 7 Cyfoeth Iacob, ac Esau. 9 Hiliogaeth Esau. 24 Caffaeliad mûlod.
1Ac dymma genedlaethau Esau: efe yw Edom.
2Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan: Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad.
3Basemath hefyd merch Ismael, chwaer Nebaioth.
4Ac #1.Cron.1.35.Ada a ymddug Eliphas i Esau, a Basemath a escorodd ar Rehuel.
5Aholibama hefyd a escorodd ar Iehus, ac Ialam, a Chorah: dymma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng-wlad Canaan.
6Ond Esau a gymmerase ei wragedd, ai feibion, ai ferched, a holl ddynion ei dŷ, ai anifeiliaid, ai holl yscrubliaid, ai holl gyfoeth ef yr hyn a gasglase efe yng-wlad Canaan, ac a aeth ymmaith i wlad [Seir] cynn dyfod ei frawd Iacob.
7O blegit eu cyfoeth hwynt oedd fwy, nac y gellynt gyd trigo: ac nis galle gwlâd eu hymdaith eu cynnwys hwynt gan eu hanifeiliaid.
8Felly y #Iosua. 24.4.trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau [yw] Edom.
9Ac dymma genedlaethau Esau tâd yr Edomiaid ym mynydd Seir.
10Dymma henwau meibion Esau: #1.Cron.1.35.Eliphas mâb Ada gwraig Esau: Rehuel mâb Basemath gwraig Esau.
11A meibion Eliphas oeddynt Theman, Omar, Sepho, a Gatham, a Chenaz.
12A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphas mab Esau, ac a escorodd Amalec i Eliphas, dymma feibion Ada gwraig Esau.
13Ac dymma feibion Rehuel: Nahath, a Serah, Samma, a Mizza, y rhai hyn oeddynt feibion Basemath gwraig Esau.
14Hefyd y rhai hyn oeddynt feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddug i Esau, Iehus, ac Ialam, a Chorah.
15Dymma ddûgiaid meibion Esau: meibion Eliphas cyntafanedic Esau, duwc Theman, duwc Omar, duwc Sepho, duwc Cenaz.
16Duwc Corah, duwc Gatham, duwc Amalec: dymma ddûgiaid Eliphas yng-wlad Edom: dymma feibion Ada.
17Ac dymma feibion Rehuel mab Esau, duwc Nahath, duwc Serah, duwc Samma, duwc Mizza: dymma ddugiaid Rehuel, yng-wlad Edom: dymma feibion Basemath gwraig Esau.
18Dymma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau, duwc Iehus, duwc Ialam, duwc Corah: dymma ddugiaid Aholibama merch Ana gwraig Esau.
19Dymma feibion Esau, a dymma eu dûgiaid hwynt: efe [yw] Edom.
20Dymma feibion Seir yr Horiad, cyfanneddwyr y wlad [honno:] Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.
21A Dison, ac Eser, a Disan: dymma ddûgiaid yr Horiaid meibion Seir yng-wlad Edom.
22A meibion Lotan oeddynt Hori, a Hemam: a chwaer Lotan [oedd] Thimna.
23A dymma feibion Sobal: Alfan, a Manahath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.
24Ac dymma feibion Sibeon: sef, Aia, ac Ana: hwn yw Ana’r hwn a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi o honaw asŷnnod Sibeon ei dâd.
25Ac dymma feibion Ana: Dison ac Aholibama merch Ana.
26Dymma hefyd feibion Dison: Hemdan, ac Esban, ac Iethran, a Cheran.
27Dymma feibion Eser, Bilhan, a Saafan, ac Acan.
28Dymma feibion Disan: Us, ac Aran.
29Dymma ddugiaid yr Horiaid: Duwc Lotan, duwc Sobal, duwc Sibeon, duwc Ana,
30Duwc Dison, duwc Eser, duwc Disan: dymma ddugiaid yr Horiaid, wrth eu dugiaethau yng-wlâd Seir.
31Dymma hefyd y brenhinoedd y rhai a deyrnasasant yng-wlad Edom cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.
32Yn gyntaf y teyrnasodd yn Edom Bela mab Beor: a henw ei ddinas ef [oedd] Dinhebah.
33Yna Bela a fu farw: a Iobab mab Serah o Bosra a deyrnasodd yn ei le ef.
34Iobab hefyd a fu farw: a Husam o wlâd Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.
35A bu Husan farw: yna Hadad mab Bedad yr hwn a darawodd y Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: a henw ei ddinas ef [ydoedd] Afith.
36Marw hefyd a wnaeth Hadad, a Samlah o Masrecah a deyrnasodd yn ei le ef.
37A bu Sumla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.
38A phan fu Saul farw, a Baalhanan mab Achbor a deyrnasodd yn ei le ef.
39A phan fu Baalhanan mab Achbor farw: Hadar a deyrnasodd yn ei le ef, a henw ei ddinas ef [oedd] Pau: A henw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.
40Dymma gan hynny henwau y dûgiaid Esau ynol eu teuluoedd hwynt, yn eu trig-leoedd hwynt, erbyn eu henwau hwynt: duwc Timna, duwc Alfah, duwc Ietheth.
41Duwc Aholibama, duwc Ela, duwc Pinon.
42Duwc Cenaz, duwc Theman, duwc Mibsar,
43Duwc Magdiel, duwc Iran: dymma ddugiaid Edom, yn ol eu presswylfeudd yng-wlad eu perchennogaeth hwynt: dymma Esau tâd yr Edomiaid.

Currently Selected:

Genesis 36: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in