YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 29

29
PEN. XXIX.
Iacob yn dyfod at Laban, yn cyfarfod a Rahel, ac yn ymgaredigo a hi. 13 Laban yn myned i gyfarfod Iacob ac yn ei ddwyn ef iw dy. 18 Iacob yn gwasanaethu Laban saith mlynedd er cael Rahel. 22. Laban trwy dwyll yn rhoddi Lea at Iacob yn lle Rahel. 27 Iacob yn gwasanaethu saith mlynedd eraill ac yn caffel Rahel. 31 ffrwythlondeb Lea.
1Ac Iacob a gymmerth ei draed, ac a aeth i wlâd meibion y dwyrein.
2Ac efe a edrychodd ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho: o herwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd, a charrec fawr [oedd] ar eneu y pydew.
3Ac yno y cesclyd yr holl ddiadelloedd, a hwynt a dreiglent y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaent y praidd: yna y rhoddent y garrec trachefn ar eneu y pydew yn ei lle.
4Yna y dywedodd Iacob wrthynt, fy mrodyr o ba le’r [ydych] chwi? a hwynt a ddywedasant yr ydym ni o Haran.
5Ac efe a ddywedodd wrthynt, a adwaenoch chwi Laban fab Nachor? a hwynt a ddywedasant, adwaenom.
6Yntef a ddywedodd wrthynt hwy a [oes] llwyddiant iddo ef? a hwynt a ddywedasant [oes] lwyddiant. Ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd a’r praidd.
7Yna y dywedodd efe wele etto y dydd yn gynnar, nid [yw] bryd casclu yr anifeiliaid, dyfrhewch y praidd, ac ewch, [a] bugeiliwch.
8A hwynt a ddywedasant ni allwn, hyd oni chascler yr holl ddiadelloedd, a threiglo o honynt y garrec oddi ar wyneb y pydew, yna y dyfrhaŵn y praidd.
9Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, y daeth Rahel hefyd gyd a’r praidd yr hwn [oedd] eiddo ei thâd hi, oblegit hi oedd yn bugeilio.
10A phan welodd Iacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam yna y nessaodd Iacob, ac a dreiglodd y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
11Yna y cusanodd Iacob Rahel, ac a dderchafodd ei lef, ac a wylodd,
12A mynegodd Iacob i Rahel, mai carwr ei thad oedd efe: ac mai mab Rebecca oedd efe: hithe a redodd, ac a fynegodd iw thâd.
13A phan glybu Laban hanes Iacob mab ei chwaer, yna efe a redodd iw gyfarfod ef, ac ai cofleidiodd ef, ac ai cussanodd, ac ai dug ef iw dŷ: yna y mynegodd efe i Laban yr holl eiriau hyn.
14A dywedodd Laban wrtho ef, yn ddiau fy asgwrn, a’m cnawd ydwyt ti, ac efe a drigodd gyd ag ef fîs llawn.
15Yna y dywedodd Laban wrth Iacob, ai o herwydd mai fyng-harwr wyt ti i’m gwasanaethi yn rhad? mynega di i mi beth [fydd] dy gyflog?
16Ac i Laban [yr oedd] dwy ferched, a henw yr hynaf [oedd] Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17A llygaid Lea [oeddynt] weiniaid ond Rahel oedd dêg [ei] phrŷd, a glan-deg yr olwg.
18Ac Iacob a hoffodd Rahel ac a ddywedodd, mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
19Yna y dywedodd Laban, gwell yw ei rhoddi hi i ti, nai rhoddi hi i ŵr arall: aros gyd a mi.
20Felly Iacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd, ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydic ddyddiau: am fod yn hoff ganddo efe y hi.
21Yna y dywedodd Iacob wrth Laban moes fyng-wraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau) fel yr elwyf atti hi.
22A Laban a gasclodd holl ddynion y fann honno, ac a wnaeth wledd.
23Ond bu yn yr hwyr iddo gymmeryd Lea ei ferch, ai dwyn hi atto ef, ac yntef a aeth atti hi.
24A Laban a rodd iddi Zilphah ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.
25A bu, y boreu, wele mai Lea [oedd] hi, yna y dywedodd efe wrth Laban, pa ham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel i’th wasanaethais? a pha ham i’m twyllaist?
26A dywedodd Laban ni wneir felly yn y lle hwn: gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
27Cyflawna di wythnos honn, yna y rhoddwn i ti honn hefyd, am dy wasanaeth yr hwna a wasanaethi gyd a mi etto saith mlynedd eraill.
28Ac Iacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd yr wyth nos honno, yna efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
29Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
30Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gyd ag ef etto saith mlynedd eraill.
31Pan welodd yr Arglwydd, mai câs oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi, a Rahel [oedd] amhlantadwy.
32A Lea a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac a alwodd ei enw ef Ruben, o herwydd hi a ddywedodd, diau edrych o’r Arglwydd ar fyng-hystudd, canys yn awr fyng-wr a’m hoffa fi.
33A hi a feichiogodd eilwaith, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: am glywed o’r Arglwydd mai câs [ydwyf] fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
34A hi a feichiogodd trachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: fyng-wr weithian a lŷn yn awr wrthifi, canys plentais iddo drî mâb. Am hynny galwyd ei enw ef Lefi.
35A hi a feichiogodd trachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei #Marh.1.2.enw ef Iuda, ac hi a beidiodd a phlanta.

Currently Selected:

Genesis 29: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in