YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 27

27
PEN. XXVII.
Isaac yn gofyn saig o helwriaeth Esau, gan addaw ei fendith iddo 5, Iacob trwy gyngor ei fam yn achub blaen Esau am y fendith 30, Esau yn dyfod, a thrwy ymbil mawr yn caffel yr ail fendith. 41 Esau yn casâu, ac yn bygwth enioes Iacob. 42 Rebecca yn anfon Iacob i Mesopotamia.
1A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na wele, alw o honaw ef Esau ei fâb hynaf, a dywedyd wrtho, fy mâb: yntef a ddywedodd wrtho ef, wele fi.
2Ac efe a ddywedodd wele mi a heneiddiais yn awr, nid adwen ddydd fy marwolaeth.
3Ac yn awr cymmer attolwg dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.
4A gwna i mi ddainteithion or fâth a garaf, a dŵg [hwynt] attafi, fel y bwytawyf, er mwyn dy fendithio o’m henaid cynn fy marw.
5A Rebecca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fâb: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa iw dwyn.
6Yna Rebecca a lefarodd wrth Iacob ei mâb, gan ddywedyd: wele clywais dy dâd yn llefaru wrth Esau dy frawd gan-ddywedyd.
7Dŵg i mi helfa, a gwna i mi ddainteithion: fel y bwyttawyf, ac i’th fendithiwyf, ger bron yr Arglwydd o flaen fy marw.
8Ond yn awr fy mâb gwrando ar fy llais i, am yr hynn a orchymynnaf i ti.
9Dos yn awr i’r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fynn gafr da, a mi ai harlwyaf hwynt yn ddainteithion i’th dâd, fel y câr efe.
10A thi ai dygi [hwynt] i’th dâd, fel y bwyttao megis i’th fendithio o flaen ei farw.
11Yna y dywedodd Iacob wrth Rebecca ei fam, wele Esau fy mrawd yn ŵr blewoc, a minne yn ŵr llyfn.
12Fy nhad ond odid a’m teimla, yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyll-wr: ac y dygaf arnaf felldith, ac nid bendith.
13A’i fam a ddywedodd wrtho ef, arnafi [y byddo] dy felldith fy mâb, yn unic gwrando ar fy llais, dôs a dŵg i mi.
14Ac efe a aeth, ac a gymmerth [y mynnod] ac ai dygodd at ei fam: ai fam a wnaeth ddainteithion fel y care ei dâd.
15Rebecca hefyd a gymmerodd hoff wiscoedd Esau ei mab hynaf, y rhai [oeddynt] gyd a hi yn tŷ, ac a wiscodd Iacob ei mab ieuangaf.
16Gwiscodd hi hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef.
17Ac a roddes y dainteithion, a’r bara y rhai a arlwyase hi yn llaw Iacob ei mab.
18Ac efe a ddaeth at ei dâd, ac a ddywedodd, fy-nhâd, yntef a ddywedodd, wele fi, pwy ydwyt ti fy mâb?
19Yna y dywedodd Iacob wrth ei dâd, myfi [ydwyf] Esau dy gyntaf-anedic, gwneuthym fel y dywedaist wrthif: cyfot yn awr, eistedd, a bwytta o’m helfa, fel i’m bendithio dy enaid.
20Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fâb, pa fodd, fy mab y cefaist morr fuan a hynn? Yntef a ddywedodd, am i’r Arglwydd dy Dduw beri [iddo] ddigwyddo o’m blaen.
21Yna y dywedodd Isaac wrth Iacob, tyret yn nes yn awr, fel i’th deimlwyf fy mâb: ai tydi [yw] fy mâb Esau, ai nad e.
22Yna y nessaodd Iacob at Isaac ei dâd, yntef ai teimlodd, ac a ddywedodd, y llais, [yw] llais Iacob, a’r dwylo, dwylo Esau [ydynt.]
23Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo, fel dwylo ei frawd Esau, yn flewoc: am hynny efe ai bendithiodd ef.
24Dywedodd hefyd, ai ti [sydd] ymma fy mâb Esau? yntef a ddywedodd myfi.
25Ac efe a ddywedodd dŵg di attafi fel y bwyttawyf o helfa fy mâb megis i’th fendithio fy enaid: yna y dûg atto ef ac efe a fwyttâodd, dûg iddo ef win hefyd ac efe a yfodd.
26Yna y dywedodd Isaac ei dâd wrtho ef tyret ti yn nês yn awr fel i’th gussanwyf fy mâb.
27Yna y daeth efe yn nês, ac yntef ai cussanodd ef, ac a sawyrodd aroglau ei wiscoedd ef, ac ai bendithiodd ef, ac a ddywedodd wele aroglau fy mâb, fel arogl maes yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.
28A #Heb.11.20.rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaiar, ac amldra o ŷd a gwin.
29Gwasanaethed pobloedd dy di, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti, bydd di feistr ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melltigedic [fyddo] a’th felldithio, a bendigedic, a’th fendithio.
30A phan ddarfu i Isaac fendithio Iacob, ac i Iacob yn brinn fyned allan o ŵydd Isaac ei dâd, yna Esau ei frawd a ddaeth oi hela.
31Ac yntef hefyd a wnaeth ddainteithion ac a ddûg at ei dâd, ac a ddywedodd wrth ei dâd: cyfoded fy nhâd, a bwyttaed o helfa ei fab, fel im bendithio dy enaid.
32Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho ef, pwy [ydwyt] ti? yntef a ddywedodd myfi [ydwyf] dy fab cyntaf-annedic di Esau.
33Yna Isaac a ddychrynnodd a dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd: pwy yn awr [ydyw] efe yr hwn a heliodd helfa, ac ai ddûc i mi? a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfodd, ac ai bendithiais ef, bendigedic hefyd fydd ef.
34Pan glybu Esau eiriau ei dâd, efe a waeddodd a gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dâd, bendithia di fynne, ie finne, fy nhâd.
35Ac efe a ddywedodd dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddûg dy fendith.
36Dywedodd yntef, ond iawn y gelwir ei enw ef Iacob, canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dûg efe fyng anedigaeth-fraint, ac wele yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, oni chedwaist gyd a thi fendith i minne?
37Ac Isaac a attebodd, ac a dywedodd wrth Esau, wele mi ai gossodais ef yn feistr i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef: ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithe fy mab weithian?
38Ac Esau a ddywedodd wrth ei dâd, ai vn fendith a oedd gennit fy nhâd? bendithia finne, finne hefyd fy nhâd: felly Esau a dderchafodd ei lef ac a ŵylodd.
39Yna’r attebodd Isaac ei dâd, ac a ddywedodd wrtho, wele ym mraster y ddaiar y bydd dy breswylfod, ac ym mysc gwlith y nefoedd oddi uchod.
40Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi, onid bydd [amser] pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
41Ac Esau a gasaodd Iacob am y fendith [a] ’r hon y bendithiase ei dâd ef, ac Esau a ddywedodd yn ei galon, #Abd.1.10.nesau y mae dyddiau galar fy nhâd, yna y lladdaf Iacob fy mrawd.
42A mynegwyd i Rebecca eiriau Esau ei mâb hynaf, hithe a anfonodd, ac a alwodd am Iacob ei mâb ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho ef: wele Esau dy frawd a ymgyssura ynot ti trwy dy ladd.
43Ond yn awr fy mab gwrando ar fy llais, cyfot ti, ffô rhagot at Laban fy mrawd i Haran.
44Ac aros gyd ag ef ychydic ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd:
45Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthit, ac anghofio o honaw ef yr hyn a wnaethost iddo, yna’r anfonaf ac i’th gymmeraf oddi yno: pa ham y byddwn yn amddifad o honoch ill dau [mewn] vn dydd?
46Dywedodd Rebecca hefyd wrth Isaac, #Genes.26.35.blinais ar fy enioes o herwydd merched Heth: os cymmer Iacob wraig o ferched Heth, i ba beth y [chwennychwn] fy enioes?

Currently Selected:

Genesis 27: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in