YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 8

8
PEN. VIII.
6 Plâ o lyffaint ar Pharao. 8 Yntef yn ceisio gwared o honynt. 13 Ac er cael heb fod yn well. 16 Y blâ o lau. 20 A’r blâ o amryw ormessiaid. 25 Pharao yn ceisio eu gwared. 31 Ac er cael heb wellhau.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos at Pharao: a dywet wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, gollwng ymmaith fy mhobl, fel i’m gwasanaethant.
2Ac os gwrthodi di [eu] gollwng: wele mi a darawaf dy holl frô di a llyffaint.
3A [phob] afon a heigia o lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i stafell dy orweddle, ac ar dy wely: ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.
4A’r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.
5Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, dywet wrth Aaron, estyn dy law gyd a’th wialen ar y ffrydoedd, ar yr afonydd, ac ar y camlesydd: a gwna i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tîr yr Aipht.
6Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aipht: a’r llyffaint a ddaethant i fynu ac a orchguddiasant dir yr Aipht.
7A’r swyn-wyr a wnaethant yr vn modd, trwy eu swynion: ac a ddugasant i fynu lyffaint ar wlad yr Aipht.
8Yna Pharao a alwodd am Moses, ac Aaron ac a ddywedodd, gweddiwch ar yr Arglwydd ar iddo ef dynnu y llyffaint oddi wrthifi ac oddi wrth fy mhobl: a mi a ollyngaf ymmaith y bobl fel yr aberthant i’r Arglwydd.
9A Moses a ddywedodd wrth Pharao, cymmer ogoniant gennifi, pa amser y gweddiaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa y llyffaint oddi wrthit, ac o’th dai: ai gadel yn vnic yn yr afon?
10Ac efe a ddywedodd yforu: a dywedodd yntef yn ol dy air [y bydd,] fel y gwypech nad [oes neb] fel yr Arglwydd ein Duw ni.
11A’r llyffaint a ymadawant a thi, ac a’th dai, ac a’th weision, ac a’th bobl: yn vnic yn yr afon y gadewir hwynt.
12Yna Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharao: a Moses a lefodd ar yr Arglwydd o achos y llyffaint y rhai a osodase efe ar Pharao.
13A’r Arglwydd a wnaeth yn ol gair Moses: a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai, o’r cynteddau, ac o’r meusydd.
14A chasclasant hwynt yn bentyrau: fel y drewodd y wlad.
15Pan welodd Pharao fod seibiant [iddo,] yna y caledodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt: megis y llefarase’r Arglwydd.
16A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dywet wrth Aaron, estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaiar: fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.
17Ac felly y gwnaethant, canys Aaron a estynnodd ei law gyd ai wialen, ac a darawodd lwch y ddaiar, a bu lau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tîr oedd yn llau drwy holl wlad’r Aipht.
18A’r swynwyr a geisiasant wneuthur yr vn modd drwy eu swynion [sef] dwyn llau allan, ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddŷn ac ar anifail.
19Yna y swyn-wyr a ddywedasant wrth Pharao, bŷs Duw [yw] hyn: etto caledase calon Pharao fel na wrandawe arnynt, megis y llefarase’r Arglwydd.
20Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses cyfot yn foreu, a saf ger bron Pharao, wele efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywet wrtho, fel hynn y dywedodd yr Arglwydd, gollwng ymmaith fy mhobl, fel i’m gwasanaethant.
21O herwydd os ti ni ollyngi fy mhobl wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai gymmysc-bla: a thai’r Aiphtiaid a lawnir o’r gymmysc-bla, a’r ddaiar hefyd yr hon [y delont] hwynt arni.
22A’r dydd hwnnw y neillduafi wlad Gosen yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo y gymmysc-bla yno: mai myfi’r Arglwydd [ydwyf] yng-hanol y wlad.
23A mi a osodaf [arwydd] ymwared rhwng fy mhobl maufi a’th bobl di: y foru y bydd yr arwydd hwn.
24A’r Arglwydd a wnaeth felly, #Doeth.16.9.canys daeth cymmysc-bla drom i dŷ Pharao, ac i dai ei weision: ac i holl wlad yr Aipht [fel] y llygrwyd y ddaiar gan y gymmysc-bla.
25Yna Pharao a alwodd am Moses, ac Aaron: ac a ddywedodd, ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad [hon].
26A dywedodd Moses nid cymmwys gwneuthur felly, o blegit nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw beth ffiaidd gan yr Aiphtiaid: wele, os aberthwn ffieidd-beth yr Aiphtiaid yng-wydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?
27Taith tri diau’r awn i’r anialwch: ac nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw, megis y dywedodd efe wrthym ni.
28A dywedodd Pharao, mi a’ch gollyngaf chwi fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch, ond nac ewch ymmhell: gweddiwch trosof.
29A dywedodd Moses, wele, myfi a âf allan oddi wrthit, ac a weddiaf ar yr Arglwydd ar gilio’r gymmysc-bla oddi wrth Pharao ac oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl y foru: ond na thwylled Pharao mwyach heb ollwng ymmaith y bobl i aberthu i’r Arglwydd.
30Felly Moses aeth allan oddi wrth Pharao: ac a weddiodd ar yr Arglwydd.
31A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses; a’r gymmysc-bla a giliodd oddi wrth Pharao, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl: ni adawyd vn.
32Er hynny Pharao a galedodd ei galon y waith honno hefyd: ac ni ollyngodd ymmaith y bobl.

Currently Selected:

Exodus 8: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in