YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 22

22
PEN. XXII.
Cyfreithiau am ledrat. 5 Am sathaed. 7 Am beth a rodder at vn iw gadw. 13 Am echwyn, benthyg, a llôg. 15 Am halogi merch. 17 Am raib. 19 Am gau-dduwiaeth. 20 Am ddieithraid, gweddwon, ac ymddifaid. 24 Am Vsuriaeth. 25 Am wystl. 27 Am barch swyddogion. 28 Am ddegwm.
1Os lledratta vn ŷch, neu ddafad ai ladd neu ei werthu, taled bum ŷch am ŷch, a phedair dafad, am ddafad.
2Os ceir lleidr yn torri tŷ, ai daro fel y byddo farw, na [thyner] gwaed am dano.
3Os bydd haul wedi codi arno [tynner] gwaed am dano: cwbl daled [y lleidr,] oni bydd ganddo [beth i dalu] gwerther ef am ei ledrat.
4Os gan gael y ceir yn ei law ef y lledrat yn fyw o eidion neu assyn, neu ddafad, taled yn ddwbl.
5Os pawr vn faes, neu win-llan, ac anfon ei anifail i bori maes vn arall, taled o’r hyn goref yn ei faes, ac o’r hyn goref yn ei winllan.
6Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afel ar ddrain, fel y difaer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed neu faes: cwbl daled yr hwn a gynneuodd y tân.
7Os rhydd vn iw gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, ai ledratta o dŷ’r gŵr, os y lleidr a geir taled yn ddwbl.
8Os y lleidr ni cheir, duger perchennog y tŷ at y swyddogion [i dyngu,] a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog.
9Am bob math ar gamwedd, am eidion, am assyn, am ddafad, am ddilledyn, [ac] am bob peth a gollo’r hwn y dywedo [vn mai] hwnnw yw efe: deued achos y ddau ger bron y swyddogion, a’r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn taled iw gymydog yn ddwbl.
10Os rhydd vn assyn, neu eidion, neu ddafad, neu vn anifail at ei gymydog i gadw, a marw o honaw, neu ei friwo, neu ei ddwyn o anfodd heb neb yn gweled:
11Bydded llŵ’r Arglwydd rhyngddynt ill dau, a estynnodd [y ceidwad] ei law at dda ei gymydog: a chymmered ei berchennog [hynny] ac na wnaed [y llall] iawn,
12 # Genes.31.39. Os gan ledratta y lledratteuir ef oddi wrtho gwnaed iawn iw berchennog, 12b os gan ysclyfaethu yr ysclyfaethir ef, dyged ef yn destiolaeth, [ac] na thaled am yr hwn a ysclyfaethwyd.
13Ond os benthygia vn gan ei gymydog [ddim] ai friwo, neu ei farw, heb [fod] ei berchennog gyd ag ef: gan dalu taled.
14Os ei berchennoc [fydd] gyd ag ef: na wnaed iawn: os llôg [yw] efe, am ei #Deut.22.28.lôg y daeth.
15Ac os huda vn forwyn yr hon ni ddyweddiwyd, a gorwedd gyd a hi: gan gynescaeddu cynhescaedded hi’n wraig iddo ei hun.
16Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol morynion.
17Na chaffed rheibies fyw.
18Llwyr rodder i farwolaeth bob vn a orweddo gyd ag anifail.
19 # Deut.13.13. 1 Mac.2.24. Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unic.
20 # Lefit.19.33. Na orthrymma, ac na flina y dieithr, canys dieithriaid fuoch yn nhîr yr Aipht.
21Na orthrymwch vn weddw, nac ymddifad,
22 # Zac.7.10. Os gwnewch iddo ddim blinder (canys os gwaedda ddim arnaf, mi a lwyr wrandawaf ei waedd ef.
23Fy nigofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf a’r cleddyf, a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn ymddifaid.
24Os nechwyni arian i’m pobl y rhai [ydynt] gyd a thi: na fydd fel occrwr iddynt, na ddod usuriaeth arnynt.
25 # Lefit.25.37. Deut.23.19. Psal.15.5. Os cymmeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul.
26O herwydd hynny yn unic [sydd] iw roddi arno ef, hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? a bydd os gwaedda efe arnaf im wrando, canys trugarog ydwyf.
27Na #Act.23.5.chabla swyddogion, ac na felldithia bennaeth dy bobl.
28Nac oeda [dalu] dy ffrwythau sychion, a gwlybion, dod ti i mi #Exod.13.2.y cyntaf-anedic o’th feibion.
29Felly y gwnei am dy eidion [ac] am dy ddafad, saith niwrnod y bydd gyd ai fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
30A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi, ac na fwyttewch gig wedi ei ysclyfaethu yn y maes, teflwch ef i’r cî.

Currently Selected:

Exodus 22: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in