Sechareia 7
7
1 Y caethion yn ymofyn am ympryd. 4 Sechareia yn argyhoeddi eu hympryd hwy. 8 Pechod yw yr achos o’u caethiwed hwy.
1Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis, sef Cisleu; 2Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a’u gwŷr, i dŷ Dduw, i #7:2 Heb. ymbil ag wyneb yr Arglwydd.weddïo gerbron yr Arglwydd, 3Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi #Jer 52:12; Pen 8:19y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?
4Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 5Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan #Esa 58:5oeddech yn ymprydio ac yn galaru #Pen 8:19y pumed a’r seithfed mis, #Pen 1:12y deng mlynedd a thrigain hynny, ai #Edrych Rhuf 14:6i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi? 6A phan fwytasoch, a phan yfasoch, #7:6 Neu, onid chwi yw y rhai oedd yn bwyta, &conid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain? 7#7:7 Neu, Onid dyma y geiriau, &cOni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a’i dinasoedd o’i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir?
8A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, gan ddywedyd, 9Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, #Micha 6:8; Mat 23:23Bernwch farn #7:9 Heb. gwirionedd.gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd: 10Ac #Exod 22:21, 22; Deut 24:17; Esa 1:17; Jer 5:28na orthrymwch y weddw a’r amddifad, y dieithr a’r anghenog; ac #Pen 8:17na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau. 11Er hyn gwrthodasant wrando, a #Neh 9:29; Hos 4:16rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed. 12Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd. 13A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly #Diar 1:24–28; Esa 1:15; Jer 11:11; 14:12; Micha 3:4y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd. 14Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant #Dan 8:9y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.
Currently Selected:
Sechareia 7: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society