Sechareia 4
4
1 Trwy weledigaeth y canhwyllbren aur, dangosir y llwyddiant a gai sylfaeniad Sorobabel: 11 ac wrth y ddwy olew‐wydden, y darlunir y ddau eneiniog.
1A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a’m deffrôdd, fel y deffroir un o’i gwsg, 2Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a’i badell ar ei ben, a’i saith lusern arno, #4:2 Neu, a saith, saith meddaf, o bibellau i’r llusernau.a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef; 3A #ad. 11dwy olewydden wrtho, y naill o’r tu deau i’r badell, a’r llall o’r tu aswy iddi. 4A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? 5A’r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd. 6Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, #Hos 1:7Nid trwy #4:6 Neu, allu.lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd. 7Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, #Esra 3:11, 13gan weiddi, Rhad, rhad iddo. 8Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, 9Dwylo Sorobabel #Esra 3:10a sylfaenasant y tŷ hwn, a’i ddwylo ef #Esra 6:15a’i gorffen: a #Pen 2:9, 11; 6:15chei wybod mai #Esa 48:16; Pen 2:8 Arglwydd y lluoedd a’m hebryngodd atoch. 10Canys pwy a ddiystyrodd ddydd #Hag 2:3y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y #4:10 Neu, plwm.garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny: #2 Cron 16:9; Diar 15:3; Pen 3:9llygaid yr Arglwydd ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.
11A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw #ad. 3y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i’r canhwyllbren, ac ar ei aswy? 12A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai #4:12 Heb. trwy law y ddwg bibell.trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain #4:12 Neu, olew i’r aur. Heb. yr aur.yr olew euraid? 13Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd. 14Ac efe a ddywedodd, #Dat 11:4Dyma #4:14 Heb. ddau fab yr olew: sef, y ddau eneiniog.y ddwy gainc olewydden #Edrych Jos 3:11, 13; Pen 6:5sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.
Currently Selected:
Sechareia 4: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society