YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 7

7
A.D. 31. —
1 Crist yn gorffen ei bregeth ar y mynydd; yn gwahardd barn ehud, 6 a bwrw pethau sanctaidd i gwn: 7 yn annog i weddïo, 13 i fyned i mewn trwy y porth cyfyng, 15 i ymgadw rhag gau‐broffwydi; 21 na byddom wrandawyr yn unig, ond gwneuthurwyr y gair, 24 a chyffelyb i dai wedi eu hadeiladu ar y graig, 26 ac nid ar y tywod.
1Na #Luc 6:37; Rhuf 2:1; 1 Cor 4:3, 5; Iago 4:11, 12fernwch, fel na’ch barner: 2Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; #Marc 4:24; Luc 6:38ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. 3#Luc 6:41A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun? 5O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli’n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6 # Diar 9:8; 23:9 Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7 # Pen 21:22 ; Marc 11:24; Luc 11:9; Ioan 14:13; 15:7; 16:23, 24; Iago 1:5, 6; 1 Ioan 3:22; 5:14Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8Canys #Diar 8:17; Jer 29:12pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11Os chwychwi gan hynny, #Gen 6:5; 8:21a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo? 12Am hynny #Luc 6:31pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys #Pen 22:40; Rhuf 13:8, 9, 10; Gal 5:14; 1 Tim 1:5hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
13 # Luc 13:24 Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 14#7:14 Mor gyfyng.Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.
15 # Deut 13:3; Jer 23:16; Pen 24:4 ; Rhuf 16:17; Eff 5:6; Col 2:8; 1 Ioan 4:1Ymogelwch rhag gau broffwydi, #Micha 3:5; 2 Tim 3:5y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. 16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. #Luc 6:43A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17Felly #Pen 12:33pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19#Pen 3:10; Ioan 15:2, 6Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21 # Hos 8:2; Pen 25:11; Luc 6:46; 13:25; Act 19:13; Rhuf 2:13; Iago 1:22Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni #Num 24:4; Ioan 11:51; 1 Cor 13:2phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 23Ac #Luc 13:25, 27; 2 Tim 2:19yna yr addefaf wrthynt, #Pen 25:12Nid adnabûm chwi erioed: #Salm 6:8; Pen 25:41ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.
24Gan hynny #Luc 6:47pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: 25A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. 26A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr. 28A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, #Marc 1:22; 6:2; Luc 4:32y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef: 29#Ioan 7:46Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

Currently Selected:

Mathew 7: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in