YouVersion Logo
Search Icon

Habacuc 1

1
1 Habacuc yn achwyn rhag anwiredd y wlad, 5 ac yn cael dangos iddo y dialedd erchyll a ddeuai trwy y Caldeaid: 12 ac yn cwyno bod y dial ar y bobl trwy rai oedd lawer gwaeth na hwynt‐hwy eu hunain.
1Y baich a welodd y proffwyd Habacuc. 2Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! 3Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. 4Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod #Job 21:7; Jer 12:1y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.
5 # Esa 29:14; Act 13:41 Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi. 6Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt. 7Y maent i’w hofni ac i’w harswydo: #1:7 Neu, ohonynt hwy y daw allan farn y rhai hyn, a chaethglud y rhai hyn.ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth. 8A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid, a llymach ydynt na #Jer 5:6; Seff 3:3bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a’u marchogion a ddeuant o bell; #Jer 4:13ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd. 9Hwy a ddeuant oll i dreisio; #1:9 Neu, eu hwynebau a lymeidia fel gwynt, &c Heb. cyfeiriad eu hwynebau tua gwynt, &c neu, eu hwynebau a edrych tua’r dwyrain.ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod. 10A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a’i goresgynnant. 11Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun.
12 # Galar 5:19 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, #2 Bren 19:25; Esa 10:5, 6, 7ti a’u gosodaist hwy i farn, ac a’u #1:12 Heb. sylfaenaist.sicrheaist, O #1:12 Heb. Graig. Deut 32:4 Dduw, i gosbedigaeth. 13#Salm 5:5 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar #1:13 Neu, ofid.anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? 14Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr #1:14 Neu, ymsymudiaid.ymlusgiaid heb lywydd arnynt? 15#Amos 4:2Cyfodant hwynt oll â’r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. 16Am hynny yr #Esa 10:13aberthant i’w rhwyd, ac y llosgant arogl‐darth i’w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a’u bwyd yn fras. 17A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?

Currently Selected:

Habacuc 1: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in