YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 29

29
1 Jacob yn dyfod at ffynnon Haran. 9 Yn ymgyfeillachu â Rahel. 13 Laban yn ei groesawu ef i’w dŷ. 18 Jacob yn gwneuthur amod am Rahel. 23 Ei siomi ef â Lea. 28 Yntau yn priodi Rahel, ac yn gwasanaethu am dani hi saith mlynedd arall. 32 Lea yn dwyn Reuben, 33 Simeon, 34 Lefi, 35 a Jwda.
1A Jacob a gymerth ei #29:1 Heb. draed.daith, ac a aeth i wlad #29:1 pobl.meibion y dwyrain. 2Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau’r pydew. 3Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle. 4A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni. 5Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom. 6Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes #29:6 Heb. heddwch.llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid. 7Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn #29:7 Heb. fawr.gynnar, nid yw bryd casglu’r anifeiliaid: dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch. 8A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.
9Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio. 10A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac #Exod 2:17a dreiglodd y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam. 11A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 12A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad. 13A phan glybu Laban #29:13 Heb. sôn am.hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn. 14A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.
15A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog? 16Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel. 17A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg. 18A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf. 19A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i ŵr arall: aros gyda mi. 20Felly Jacob #Hos 12:12a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
21A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf ati hi. 22A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd. 23Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a’i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi. 24A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch. 25A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist? 26A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein #29:26 Heb. lle.gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf. 27Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill. 28A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo. 29Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi. 30Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.
31A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy. 32A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef #29:32 Sef Gwelwch fab.Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i. 33A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef #29:33 Sef, Clywed.Simeon. 34A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef #29:34 Sef, Glynu.Lefi. 35A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef #Mat 1:2#29:35 Sef, Moliant.Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.

Currently Selected:

Genesis 29: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in