YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 26

26
1 Isaac o achos newyn yn myned i Gerar. 2 Duw yn ei addysgu ac yn ei fendithio ef. 7 Abimelech yn ei geryddu ef am wadu ei wraig. 12 Efe yn myned yn gyfoethog: 18 Yn cloddio ffynnon Esec, Sitna, a Rehoboth. 26 Abimelech yn gwneuthur cynghrair ag ef yn Beer‐seba. 34 Gwragedd Esau.
1A bu newyn yn y tir, heblaw #Pen 12:10y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at #Pen 20:2Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar. 2A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt. 3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf: oherwydd i ti ac i’th had #Pen 13:15; 15:18y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf #Pen 22:16fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di. 4A #Pen 15:5mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir #Pen 12:3; 22:18yn dy had di: 5Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.
6Ac Isaac a drigodd yn Gerar. 7A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac #Pen 12:13; 20:2, 13efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg. 8A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig. 9Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o’i phlegid hi. 10A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyda’th wraig di; #Pen 20:9felly y dygasit arnom ni bechod. 11A gorchmynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw. 12Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef. 13A’r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn. 14Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a #26:14 Neu, hwsmonaeth.gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef. 15A’r holl bydewau #Pen 21:30y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u caeasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd. 16Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys #Exod 1:9ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno. 18Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gaeasai’r Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy. 19Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr #26:19 Heb. byw.rhedegog. 20A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, #26:20 Sef, Cynnen.Esec; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef. 21Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef #26:21 Sef, Câs.Sitna. 22Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef #26:22 Sef, Ehangder.Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir. 23Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba. 24A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad di: nac ofna; canys byddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas. 25Ac efe #Pen 12:7; 13:18a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26Yna y daeth #Pen 21:22Abimelech ato ef o Gerar, ac Ahussath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu. 27Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi ataf fi; gan i chwi fy nghasáu, a’m gyrru oddi wrthych? 28Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyda thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfamod â thi; 29#26:29 Heb. os gwnei.Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd. 30Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwytasant ac a yfasant. 31Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch. 32A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr. 33Ac efe a’i galwodd ef #26:33 Sef, Llw.Seba: am hynny enw y ddinas yw #26:33 Sef, Ffynnon y llw.Beer‐seba hyd y dydd hwn.
34Ac yr oedd #Pen 36:2Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad. 35A #Pen 27:46hwy oeddynt #26:35 flinder meddwl.chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.

Currently Selected:

Genesis 26: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in