YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 14

14
1 Pedwar brenin yn rhyfela yn erbyn pump. 12 Dala Lot yn garcharor. 14 Abram yn ei achub ef. 18 Melchisedec yn bendithio Abram. 20 Abram yn talu degwm iddo ef. 22 Wedi i’w gyfranwyr gael eu rhannau, mae efe yn rhoddi y rhan arall o’r ysglyfaeth i frenin Sodom.
1A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd; 2Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw #Pen 19:22Soar. 3Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw’r môr heli. 4Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant. 5A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y #Pen 15:20Reffaimiaid yn Asteroth‐carnaim, #Deut 2:20a’r Susiaid yn Ham, #Deut 2:10, 11a’r Emiaid yn #14:5 gwastadedd.Safe‐ciriathaim, 6#Deut 2:12A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd #14:6 El, Num 12:16; 13:3wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch. 7Yna y dychwelsant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn #2 Cron 20:2Haseson‐tamar. 8Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt; 9A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump. 10A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoesant i’r mynydd. 11A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith. 12Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo. 13A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac #Pen 13:18efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram. 14A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a #14:14 Neu, ddygodd allan.arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan. 15As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac #Esa 41:2, 3a’u trawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus. 16Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.
17A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw #2 Sam 18:18dyffryn y brenin. 18#Heb 7:1Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf: 19Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear: 20A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo #Heb 7:4ddegwm o’r cwbl. 21A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi #14:21 Heb. yr eneidiau.y dynion, a chymer i ti y cyfoeth. 22Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear, 23#Felly Est 9:15, 16Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram: 24Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.

Currently Selected:

Genesis 14: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in