YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 12

12
1 Duw yn galw Abram, ac yn ei fendithio ef trwy addewid o Grist. 4 Yntau yn myned gyda Lot o Haran. 6 Yn tramwy trwy wlad Canaan, 7 yr hon a addewir iddo ef mewn gweledigaeth. 10 Newyn yn ei yrru ef i’r Aifft. 11 Ofn yn peri iddo ef ddywedyd mai ei chwaer oedd ei wraig. 14 Pharo, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan blâu i’w rhoddi hi yn ei hôl.
1A’r #Act 7:3; Heb 11:8Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. 2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith. 3#Pen 27:29; Exod 23:22; Num 24:9Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: #Pen 18:18; 22:18; 26:4; Salm 72:17; Act 3:25; Gal 3:8a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti. 4Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran. 5Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd #Deut 11:30wastadedd More: a’r #Pen 10:18, 19; 13:7Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw. 7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, #Pen 13:15I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno #Pen 13:4allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo. 8Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua’r gorllewin, a Hai tua’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd. 9Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua’r deau.
10Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram #Salm 105:13a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad. 11A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti: 12A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw. 13#Pen 20:13; Edrych Pen 26:7Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.
14A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi. 15A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo. 16Ac efe #Pen 20:14a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, #12:16 ac ychain.a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod. 17A’r Arglwydd #Pen 20:18; 1 Cron 16:21; Salm 105:14a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram. 18A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi? 19Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith. 20A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.

Currently Selected:

Genesis 12: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in