YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 2

2
Gweddi Hanna
1Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn:
“Dw i mor falch o’r ARGLWYDD.
Gallaf godi fy mhen a chwerthin ar fy ngelynion,
am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub.
2Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD.
Does neb tebyg i ti; neb sy’n graig fel ein Duw ni.
3Peidiwch brolio’ch hunain a siarad mor snobyddlyd,
oherwydd mae’r ARGLWYDD yn Dduw sy’n gwybod popeth,
ac mae’n barnu popeth sy’n cael ei wneud.
4Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri,
ond bydd y rhai sy’n baglu yn cael nerth.
5Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta,
ond bydd y rhai sy’n llwgu’n cael eu llenwi.
Bydd y wraig sy’n methu cael plant yn cael saith,
ond yr un sydd â llawer yn llewygu.
6Yr ARGLWYDD sy’n lladd a rhoi bywyd.#Deuteronomium 32:39
Fe sy’n gyrru rhai i’r bedd ac yn achub eraill oddi yno.
7Yr ARGLWYDD sy’n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog;
fe sy’n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny.
8Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw,
a’r rhai sydd mewn angen o’r domen sbwriel
i eistedd gyda’r bobl bwysig ar y sedd anrhydedd.
Duw sy’n dal colofnau’r ddaear,
a fe osododd y byd yn ei le arnyn nhw.
9Mae’n gofalu am y rhai sy’n ffyddlon iddo,
ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch,
achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
10Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio,
bydd e’n taranu o’r nefoedd yn eu herbyn.
Yr ARGLWYDD sy’n barnu’r byd i gyd.
Mae’n rhoi grym i’w frenin, a buddugoliaeth i’r un mae wedi’i ddewis.”
11Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu’r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad.
Meibion Eli
12Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD. 13Dyma beth roedd yr offeiriaid i fod i’w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth: Wrth iddyn nhw ferwi’r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â thair pig iddi yn ei law. 14Byddai’n gwthio’r fforch i’r badell, y fasged neu’r crochan, a beth bynnag fyddai’r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad. Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn: 15Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi’r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o’r cig i’r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi’i ferwi, dim ond cig ffres.” 16Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i’r braster gael ei losgi gynta; cei di gymryd beth bynnag wyt ti’n ei ffansïo wedyn,” byddai’r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i’n defnyddio grym.”
17Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma’n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i’r ARGLWYDD.
Samuel yn Seilo
18Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu’r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main. 19Roedd ei fam yn arfer gwneud côt fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a’i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno’u haberth. 20Byddai Eli yn bendithio Elcana a’i wraig, a dweud, “Boed i’r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi’i fenthyg iddo.” Yna bydden nhw’n mynd yn ôl adre. 21A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch.
Yn y cyfamser, roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.
Eli yn ceryddu ei feibion
22Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai’n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e’n gwybod hefyd eu bod nhw’n cael rhyw gyda’r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw).#Exodus 38:8 23Byddai’n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi’n bihafio fel yma? Dw i’n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi’n eu gwneud. 24Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy’r straeon sy’n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda. 25Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy’n mynd i’w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw.
26Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio’r ARGLWYDD a phobl.
Rhybudd i deulu Eli
27Daeth dyn oedd yn proffwydo#2:27 dyn oedd yn proffwydo Hebraeg, “dyn Duw”. at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw’n gaethweision i’r Pharo. 28Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario’r effod o mlaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i’w llosgi i mi. 29Felly, pam dych chi’n amharchu’r aberthau a’r offrymau dw i wedi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti’n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi’n stwffio’ch hunain gyda’r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’
30“Felly, dyma neges yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o’r fath beth!’ Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dw i’n rhoi parch i’r rhai sy’n fy mharchu i, ond yn dangos dirmyg at y rhai sy’n fy nghymryd i’n ysgafn. 31Gwylia di, mae’r amser yn dod pan fydda i’n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen! 32Byddi’n gweld helynt yn fy nghysegr i! Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb o dy deulu di yn byw i fod yn hen. 33Bydda i’n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw’n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc.
34“‘A dyma’r arwydd i brofi i ti fod hyn i gyd yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod! 35Wedyn bydda i’n dewis offeiriad sy’n ffyddlon i mi. Bydd e’n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i’n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e’n gwasanaethu’r un fydda i’n ei eneinio’n frenin am byth. 36Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o’i flaen i ofyn am arian neu damaid i’w fwyta. Byddan nhw’n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i’w fwyta.’”

Currently Selected:

1 Samuel 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy