YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 1

1
Elcana a’i deulu
1Roedd yna ddyn o’r enw Elcana yn byw yn Rama#1:1 Rama Hebraeg, “Ramathaîm-tsoffîm”, sy’n ffurf hirach ar yr enw (gw. adn. 19). ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim. (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw’n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.) 2Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna. 3Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo#1:3 Seilo Roedd Seilo bron 20 milltir i’r gogledd o Jerwsalem, a dyna lle roedd y tabernacl ar y pryd (gw. Josua 18:1). i addoli a chyflwyno aberthau i’r ARGLWYDD hollbwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli. 4Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai’n arfer rhoi cyfran o’r cig bob un i Penina a’i meibion a’i merched i gyd. 5Ond byddai’n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am mai hi oedd e’n ei charu fwyaf, er fod Duw wedi’i rhwystro hi rhag cael plant.
6Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a’i phryfocio am ei bod yn methu cael plant. 7Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw’n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta. 8A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti’n crio a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?”
Hanna yn gweddïo am fab
9Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna’n codi a mynd i weddïo. Roedd Eli’r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd. 10Roedd Hanna’n torri ei chalon ac yn beichio crio wrth weddïo ar yr ARGLWYDD. 11A dyma hi’n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”#Numeri 6:5
12Buodd Hanna’n gweddïo’n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni. 13Am ei bod hi’n gweddïo’n dawel, roedd e’n gweld ei gwefusau’n symud ond heb glywed dim, felly roedd e’n meddwl ei bod hi wedi meddwi. 14A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti’n meddwi fel yma? Rho’r gorau iddi! Sobra!” 15Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol#1:15 bwrw fy mol Hebraeg, “tywallt fy nghalon” – gw. Salm 62:8. o flaen yr ARGLWYDD. 16Paid meddwl amdana i fel rhyw wraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i’n teimlo.” 17“Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” 18A dyma hi’n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach. 19Yna bore drannoeth, dyma nhw’n codi ac addoli’r ARGLWYDD cyn mynd adre’n ôl i Rama.
Dyma Elcana’n cysgu gyda’i wraig, a chofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi. 20Dyma Hanna’n beichiogi, a chyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e’n Samuel,#1:20 Samuel sef “Enw Duw”. Ond mae’n swnio fel y gair Hebraeg am “gofyn”. am ei bod wedi gofyn i’r ARGLWYDD amdano.
Cysegru Samuel i’r ARGLWYDD
21Daeth yn amser i Elcana a’i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a chyflawni addewid wnaeth e i Dduw. 22Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a’i gyflwyno i’r ARGLWYDD, a bydd e’n aros yno o hynny ymlaen.” 23Meddai Elcana, “Gwna di beth ti’n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu’r plentyn nes ei fod ddim angen y fron.
24Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â’r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tharw teirblwydd oed, llond sach#1:24 llond sach tua deg cilogram. o flawd, a photel groen o win#Numeri 15:8-10 gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e. 25Yna ar ôl iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw’n mynd â’r bachgen at Eli. 26Dyma Hanna’n cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy’r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw. 27Dyma’r bachgen rôn i’n gweddïo amdano, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi! 28Felly dw i’n ei roi e i’r ARGLWYDD. Dw i’n ei roi e i’r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.” Yna dyma nhw’n addoli’r ARGLWYDD yno.

Currently Selected:

1 Samuel 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy