YouVersion Logo
Search Icon

Mark 8

8
PENNOD VIII.
Christ yn porthi y bobl: yn rhyhuddio ei ddisgyhlion i ochelyd surdoes y Pharisai, a surdoes Herod: yn rhoddi ei olwg i ddyn dall: yn cydnabod mai efe yw Christ, ac yn annog i fod yn ddioddefgar mewn erlid o achos proffesu yr efengyl.
1YN y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt i’w fwytta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt. 2Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegyd y maent hwy dridiau weithian yn aros gyd â mi, ac nid oes ganddynt i’w fwytta: 3Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaethant o bell. 4A’i ddisgyblion a’i hattebasant, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â bara, yma yn yr anialwch? 5Ac efe a ofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith. 6Ac efe a orchymynodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymmerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a’u torrodd ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau; a gosodasant hwynt ger bron y bobl. 7Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. 8A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid. 9A’r rhai a fwyttasent oedd ynghŷlch pedair mil: ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith. 10Ac yn y man, wedi iddo fyned i fâd gyd â’i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha. 11A’r Pharisai a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, gan ei brofi. 12Yntau, gan ddwys ocheneidio yn ei yspryd, a ddywedodd, Beth a wna’r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma. 13Ac efe a’u gadawodd, ac a aeth i’r bâd drachefn, ac a dynnodd ymaith i’r lan arall. 14A’r disgyblion a adawsent yn anghof gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt gyd â hwynt ond un dorth yn y bâd. 15Yna y gorchymynodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Pharisai, a surdoes Herod. 16Ac ymresymmu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegyd nad oes gennym fara. 17A phan wybu yr Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymmu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon etto gennych wedi caledu? 18A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? 19Pan dorrais y pum torth hynny ym mysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friw-fwyd a godasoch i fynu? Dywedasant wrtho, Deuddeg. 20A phan dorrais y saith ym mhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friw-fwyd a godasoch i fynu? A hwy a ddywedasant, Saith. 21Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall? 22Ac efe a ddaeth i Bethsaida; a hwy a ddygasant atto un dall, ac a ddeisyfiasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef. 23Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a’i tywysodd ef allan o’r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylaw arno, efe a ofynodd iddo, a oedd efe yn gweled dim. 24Ac wedi edrych i fynu, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis preniau yn rhodio. 25Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylaw drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fynu: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur. 26Ac efe a’i hanfonodd ef adref i’w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i’r dref, ac na ddywed i neb yn y dref. 27A’r Iesu a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, i drefi Kaisarea Philippi; ac ar y ffordd efe a ofynodd i’w ddisgyblíon, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? 28A hwy a attebasant, Ioan Fedyddiwr: a rhai, Elïas; ac eraill, Un o’r prophwydi. 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw y Christ. 30Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb am dano. 31Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi. 32A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a’i cymmer, ac a ddechreuodd ei geryddu ef. 33Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, dos ymaith yn fy ol i, Satan; am nad wyt yn synnied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. 34Ac wedi iddo alw atto y dyrfa, gyd â’i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ol i, ymwaded ef a’i hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi. 35Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw. 36Canys pa lesâd i ddyn, os ynnill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? 37Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 38Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl y’ngogoniant ei Dad, gyd â’r angylion sanctaidd.

Currently Selected:

Mark 8: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in