YouVersion Logo
Search Icon

Mark 3

3
PENNOD III.
Christ yn iachâu y llaw wedi gwywo; yn ceryddu yr ysprydion aflan; yn dewis ei ddeuddeg apostol: yn atteb cabledd y rhai a ddywedent ei fod ef yn bwrw allan gythreuliaid trwy Beelzebub: ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a'i chwaer, a’i fam.
1AC efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. 2A hwy a’i gwyliasant ef, a iachaai efe ef ar y dydd sabbath; fel y cyhuddent ef. 3Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod, i’r canol. 4A dywedodd wrthynt, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd sabbath, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â son. 5Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllon, gan dristâu am galedrwydd eu calon, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynodd: a’i law a wnaed yn iach fel y llall. 6A’r Pharisai a aethant allan, ac a ymgynghorasant yn ebrwydd gyd â’r Herodianiaid, yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 7A’r Iesu gyd â’i ddisgyblion a giliodd tu a’r llyn: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilaia ac o Iudaia. 8Ac o Ierusalem, ac o Idumaia, ac o’r tu hwnt i’r Iordan; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethai efe, a ddaethant atto. 9Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod bâd yn barod iddo, oblegyd y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. 10Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynnifer ag oedd â phlaau arnynt. 11A’r ysprydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 12Yntau a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef. 13Ac efe a aeth i fynnu i’r mynydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnai efe: a hwy a ddaethant atto. 14Ac efe a enwodd deuddeg, fel y byddent gyd ag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15Ac i fod ganddynt awdurdod i iachâu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. 16Simon i’r hwn y rhoddes efe enw Pedr, 17Ac Iakob fab Zebedëus, ac Ioan brawd Iakob (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges, yr hyn yw, Meibion y daran) 18Ac Andreas, a Philip, a Bartholomëus, a Matthew, a Thomas, ac Iakob, fab Alphëus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, 19A Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a’i traddododd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20A’r dyrfa a ymgynhullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara. 21A phan glybu yr eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef; canys dywedasant, Y mae efe allan o’i bwyll. 22A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant i wared o Ierusalem, a ddywedasant fod Beelzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. 23Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24Ac o bydd breniniaeth wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y freniniaeth honno sefyll. 25Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. 26Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 27Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr yspeilia ei dŷ ef. 28Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: 29Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn oesoedd, ond y mae yn euog o farn oesoedd. 30Am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo. 31Daeth gan hynny, ei frodyr ef a’i fam; a chan sefyll allan hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef. 32A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. 33Ac efe a’u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? 34Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. 35Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i.

Currently Selected:

Mark 3: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in