YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 25

25
PENNOD XXV.
Dammeg y deg morwyn; ar talentau; a dull y farn ddiweddaf.
1YNA tebyg fydd y lywodraeth nefoedd i ddeg o forwynion, y rhai a gymmerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r prïod-fab. 2A phump o honynt oedd gall, a phump yn ffôl. 3Y rhai oedd ffol a gymmerasant eu lampau, ac ni chymmerasant olew gyd â hwynt: 4A’r rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri gyd a’u lampau. 5A thra yr oedd y prïod-fab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. 6Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae y prïod-fab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. 7Yna y cyfododd yr holl forwynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. 8A’r rhai ffol a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. 9A’r rhai call attebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10A thra yr oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y prïod-fab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gyd ag ef i’r brïodas: a chauwyd y drws. 11Wedi hynny y daeth y morwynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12Ac efe a attebai ac a ddywedai, Yn wir meddaf i chwi, Ni’m adwaen chwi. 13Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn. 14Canys y mae’r lywodraeth nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei ddâ iddint. 15Ac i un y rhoddodd efe bûm talent, ac i arall ddwy, ac i arall un; i bob un yn ol ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 16A’r hwn a dderbyniasai y pum talent a aeth, ac a farchnattaodd â hwynt, ac a wnaeth bûm talent eraill. 17Ar un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, yntau a wnaeth ddwy eraill. 18Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. 20A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist i mi: wele mi a ynnillais bum talent eraill. 21A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da iawn! was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 22A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist i mi: wele, dwy eraill a ynnillais. 23Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da iawn! was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychychig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 24A’r hwn a dderbyniasai yr un talent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gwr caled ydwyt, yn medi lle ni’s hauaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist; 25Ac mi a ofnais, ac a aethum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26A’i arglwydd a attebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle ni’s hauais, ac yn casglu lle ni’s gwasgerais: 27Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwŷr, a mi pan ddaethwn a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyd â llog. 28Cymmerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a roddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. 29Canys i bob un y mae ganddo lawer y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo ond ychydig y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 30A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch allanawl: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. 31A Mab y dyn pan ddel yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gyd ag ef, a eistedd ar orsedd-faingc ei ogoniant. 32A chyd-gesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth eu gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr; 33Ac a esyd y defaid ar ei ddeheu-law, ond y geifr ar yr aswy. 34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y freniniaeth a barottowyd i chwi er seiliad y byd. 35Canys bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd: bu arnaf syched, a rhoisoch i mi i yfed: bum ddïethr, a dygasoch fi gyd â chwi: 36Noeth, a dilladasoch fi: bum glaf, ac ymwelsoch â mi: bum y’ngharchar, a daethoch attaf. 37Yna yr ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoisom i ti i yfed? 38A pha bryd y’th welsom yn ddïethr, ac y’th ddygasom gyd â ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu y’ngharchar, ac y daethom attat? 40A’r Brenin a ettyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymmaint a’i wneuthur o honoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melldigedig, i’r tân oesoedd, yr hwn a barottowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42Canys bum newynog, ac ni roisoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roisoch i mi i yfed. 43Bum ddïeithr, ac ni’m dygasoch gyd â chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf, ac y’ngharchar, ac ni ymwelsoch â mi. 44Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddïeithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu y’ngharchar, ac ni weiniasom i ti? 45Yna yr ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymmaint ag na’s gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, ni’s gwnaethoch i minnau. 46A’r rhai hyn a ant i gospedigaeth oesoedd, ond y rhai cyfiawn i fywyd oesoedd.

Currently Selected:

Matthaw 25: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in