YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 23

23
PENNOD XXIII.
Crist yn rhybuddio’r bobl i ddilyn athrawiaeth dda. Mae ef yn cyhoeddi yn erbyn rhagrith a dallineb; ac yn prophwydo dinystr Ierusalem.
1YNA y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion. 2Gan ddywedyd, Fe eistedd yr ysgrifenyddion a’r Pharisai ynghadair Moses. 3Am hynny yr hyn oll a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ol eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac ni’s gwnant. 4Oblegyd y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anhawdd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. 5Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn agored ar lêd eu llyfrau cyfraith, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; 6A charu y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif-gadeiriau yn y synagogau; 7A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Athraw, Athraw. 8Eithr na’ch galwer chwi Athraw; canys un yw eich Athraw chwi, sef Crist; a chwithau oll ydych frodyr. 9Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10Ac na’ch galwer yn dywysyddion; canys un yw eich tywysydd chwi, sef Crist. 11A’r mwyaf o honoch a fydd yn weinidog i chwi. 12A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir. 13Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: am eich bod yn cau y lywodraeth nefoedd o flaen dynion: canys nid ydych chwi yn myned i mewn, a’r rhai sydd am fyned ni’s gadêwch i fyned i mewn. 14Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: canys yr ydych yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, yn rhith hir-weddïo: am hynny y derbyniwch fwy o farn. 15Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: canys yr ydych yn amgylchu y môr a’r tir, i wneuthur un disgybl; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn ddau ddyblyg fwy o fâb yffern nâ chwi eich hunain. 16Gwae chwi, dywysyddion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng wrth y deml, nid yw ddim: ond pwy bynnag a dwng wrth aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio yr aur? 18A phwy bynnag a dwng wrth yr allor, nid yw ddim: ond pwy bynnag a dyngo wrth y rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled. 19Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai yr allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20Pwy bynnag gan hynny a dwng wrth yr allor, sydd yn tyngu wrthi, ac wrth yr hyn oll sydd arni. 21A phwy bynnag a dwng wrth y deml, sydd yn tyngu wrthi, ac wrth yr hwn sydd yn preswylio ynddi. 22A’r hwn a dwng wrth y nef, sydd yn tyngu wrth orsedd-faingc Duw, ac wrth yr hwn sydd yn eistedd arni. 23Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: canys yr ydych yn degymmu y mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac yn gadael heibio y pethau trymmach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhain ddylysech chwi eu gwneuthur, ac nid gadael y lleill heb eu gwneuthur. 24Tywysyddion deillion, y rhai ydych yn tagu wrth wybedyn, ac yn llyngcu y camel. 25Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: canys yr ydych yn glanhâu y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymmedroldeb, 26Ti Pharisai dall, glanhâ yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwppan a’r ddysgl, ac wedi hynny gwna yn lân yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwŷnnu, y rhai sydd yn ymddangos yn dêg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn ragrith ac anwiredd. 29Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwŷr: canys yr ydych yn adeiladu beddau y prophwydi, ac yn addurno beddau y rhai cyfiawn: 30Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfrannogion â hwynt y’ngwâed y prophwydi. 31Felly yr ydych yn tystiolaethu yn erbyn eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y prophwydi. 32A chwithau hefyd ydych yn cyflawni fesur eich tadau. 33Oh seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddiangc rhag y floeddgar dyffryn? 34Am hynny wele, yr ydwyf yn anfon attoch brophwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai o honynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas. 35Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Zacharïas fab Barachïas, yr hwn a laddasoch yn y deml ger bron yr allor. 36Yn wir meddaf i chwi, Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. 37Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasglu dy blant ynghŷd, megis y casgl iar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni’s mynnech! 38Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ol hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

Currently Selected:

Matthaw 23: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in