YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 19

19
PENNOD XIX.
Crist yn iachâu y cleifion; yn atteb y Pharisai am ysgariaeth: yn derbyn plant bychain: yn dysgu i’r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol: yn dywedyd i’w ddisgyblion mor anhawdd ydyw i’r goludog fyned i mewn i freniniaeth Duw; ac yn addaw gwobr i’r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.
1A BU, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilaia, ac a ddaeth i derfynau Iudaia, tu hwnt i’r Iordan: 2A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno. 3A daeth y Pharisai atto, gan ei brofu a gofyn, A’i cyfreithlawn i ŵr ollwng ymaith ei wraig am bob achos? 4Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Oni ddarllenasoch i’r hwn a’i gwnaeth o’r dechreu, e’u gwueuthur hwy yn wrryw ac yn fenyw? 5Ac efe a ddywedodd, Oblegyd hyn y gâd dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd. 6O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn. 7Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? 8Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ollwng ymaith eich gwragedd; eithr o’r dechreu nid oedd felly. 9Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, onid o achos ei phutteindra, ac a briodo un arall, sydd yn gweneuthur godineb; a yr hwn a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith sydd yn gwneuthur godineb. 10A’i ddisgyblion a ddywedasant, Os felly yw cyflwr gwr a’i wraig, nid yw’n dda i briodi. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb sydd yn cadw y gair, on y sawl y rhoddwyd iddynt. 12Canys y mae enuchiaid a aned felly; ac y mae enuchiaid a wnaed gan ddynion; ac y mae enuchiaid a wnaethant eu hunain felly er mwyn y lywodraeth nefoedd. Y neb a ddichon dilyn y geirau yma, dilynied. 13Yna y dygasant atto blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. 14A’r Iesu ddywedodd, Gadêwch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod attaf fi: canys eiddo y cyfryw rai yw’r lywodraeth nefoedd. 15Ac wedi iddo roddi ei ddwylaw arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno. 16Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athraw da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol? 17Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw y gorchymynion. 18Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth, 19Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymmydog fel ti dy hun. 20Y gwr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuengctid: beth sydd yn eisiau i mi etto? 21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyd sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a dyred, canlyn fi. 22A phan glybu y gwr ieuangc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen dâ lawer. 23Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i’r lywodraeth nefoedd. 24Ac etto meddaf i chwi, Haws yw i rhaff angor fyned trwy grau y nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i lywodraeth Duw. 25A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? 26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyd â dynion ammhosibl yw hyn, ond gyd â Duw pob peth sydd bosibl. 27Yna Pedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? 28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i yn yr ad-enedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 29A phob un a’r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y cau cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe. 30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

Currently Selected:

Matthaw 19: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in