YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 16

16
PENNOD XVI.
Y Pharisai a’r Sadwkai yn gofyn arwydd. Tyb y bobl, a chyffes Pedr am Grist. Iesu yn rhagfynegu eu farwolaeth, ac yn rhybuddio y sawl a’i canlynant ef i ddwyn y groes.
1AC wedi i’r Pharisai a’r Sadwkai ddyfod atto, a’i brofi hwy a geisiasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. 2Ac efe attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo’r hwyr, dywedwch, “Tywydd teg: canys y mae’r wybr yn goch.” 3A’r bore, “Heddyw drygio: canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd.” O ragrithwŷr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? 4Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd ni’s rhoddir iddi, ond arwydd y prophwyd Ionas. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith. 5Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a anghofsant gymmeryd bara genthynt. 6A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Pharisai a’r Sadwkai. 7A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara gennym. 8A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, O chwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymmu yn eich plith eich hunain, am na chymmerasoch fara gennych? 9Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum torth y pum-mil, a pha sawl bâsgedaid a gymmerasoch i fynu? 10Na saith dorth y pedeir-mil, a pha sawl cawellaid a gymmerasoch i fynu? 11Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Pharisai a’r Sadwkai. 12Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Pharisai a’r Sadwkai. 13Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Kaisarea Philippi, efe a ofynodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn? 14A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Elias, ac eraill, mai Ieremi, neu un o’r prophwydi. 15Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? 16A Simon Pedr a attebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw. 17A’r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwŷn dy fyd di, Simon mad Iona; canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 18Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mae ti yw y Graig, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth angau ni’s gorchfygant hi. 19A rhoddaf i ti agoriadau i’r lywodraeth nefoedd; a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhâu yn y nefoedd. 20Yna y gorchymynodd efe i’w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist. 21O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Ierusalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a’r arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd. 22A Pedr a’i cymmerodd i’r naill tu, ac a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Trugaredd arnat, Arglwydd; ni’s bydd hyn i ti. 23Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ol i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion. 24Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. 25Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegyd i, a’i caiff. 26Canys pa lesâd i ddyn, os ynnill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 27Canys Mab y dyn a ddaw y’ngogoniant ei Dad gyd â’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ol ei weithred. 28Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma, a’r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei lywodraeth.

Currently Selected:

Matthaw 16: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in