YouVersion Logo
Search Icon

Luk 9

9
PENNOD IX.
Christ yn anfon ei apostolion; yn porthi pum mil; yn rhag-fynegi ei ddioddefaint; yn iachâu y lloerig: yn canmol gostyngeiddrwydd; ac yn gorchymyn iddynt ddangos llarieidd-dra tu ag at bawb, heb chwennych dïal.
1AC efe a alwodd ynghŷd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt nerth ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachâu clefydau. 2Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu breniniaeth Duw, ac i iachâu y rhai cleifion. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymmerwch i’r daith, na ffyn, nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy wisg. 4Ac i ba bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadêwch â’r lle hwnnw. 5A pha rhai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. 6Ac wedi iddynt ymadael, hwy a aethant trwy’r trefi; gan bregethu yr efengyl, a iachâu ym mhob lle. 7A Herod y llywydd a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a gythryblwyd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw; 8A rhai eraill, ymddangos o Elïas; ac eraill, mai prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfodasai. 9A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef. 10A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo y cwbl a wnaethent. Ac efe a’u cymmerth hwynt, ac a aeth o’r neilldu, i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida. 11Ar bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am freniniaeth Duw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiachau. 12A’r dydd a ddechreuodd hwyrhâu: a’r deuddeg a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i lettya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd. 13Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwythau ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll. 14Canys yr oeddynt ynghŷlch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt estedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain. 15Ac felly y gwnaethant; a hwy oll a eisteddasant. 16Ac efe a gymmerodd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fynu i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod ger bron y bobl. 17A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon; a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid. 18Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo, fod ei ddisgyblion gyd ag ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i? 19Hwythau gan atteb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Elïas; ac eraill, mai rhyw brophwyd o’r rhai gynt a adgyfododd. 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr gan atteb a ddywedodd, Christ o Dduw. 21Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb. 22Gan ddywedyd, Mae yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd adgyfodi. 23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi. 24Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi, 25Canys pa lesâd i ddyn, er ynnill yr holl fyd, a’i golli ei hun? 26Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd. 27Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma, a’r ni archwaethant angau, hyd oni welont freniniaeth Duw. 28A bu, ynghylch ŵyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, iddo gymmeryd Pedr, ac Ioan, ac Iakob, a myned i fynu i’r mynydd i weddïo. 29Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynebpryd ef a arallwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. 30Ac wele, dau wr a gydymddiddanent ag ef, y rhai oeddynt Moses ac Elïas. 31Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Ierusalem. 32A Phedr, a’r rhai oedd gyd ag ef, oeddynt wedi trymhâu gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau wr, yn sefyll gyd ag ef. 33A bu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, Arlwydd, da yw i ni fod yma: gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elïas: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmmwl ac a’u cysgododd hwynt: a hwy a ofnasant wrth fyned i’r cwmmwl. 35A daeth lef allan o’r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab anwyl: gwrandêwch ef. 36Ac wedi y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent. 37A darfu ar y foru, pan ddaethant i wared o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38Ac wele, gwr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athraw, yr wyf yn attolwg i ti, edrych ar fy mab; canys efe yw fy unig-anedig. 39Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntau yn ddisymmwth yn gwaeddi; ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni falo ewŷn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei yssigo ef. 40Ac mi a ddeisyfiais ar dy ddisgyblion di ei fwrw allan; ac ni’s gallent. 41A’r Iesu gan atteb a ddywedodd, O genhedlaeth angrediniawl a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42Ac fel yr oedd efe etto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad. 43A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai yr Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 44Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion. 45Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel na’s deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn. 46A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy o honynt a fyddai fwyaf. 47A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, 48Ac a ddywedai wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr. 49Ac Ioan a attebodd ac a ddywedodd, Arlwydd, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac ni a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni. 50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, sydd trosom ni. 51A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymmerid ef i fynu, iddo roddi ei fryd ar fyned i Ierusalem. 52Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i barattôi iddo ef. 53Ac ni’s derbyniasant hwy ef, oblegyd fod ei wyneb ef yn tueddu tu a Ierusalem. 54A’i ddisgyblion ef, Iakob, ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di i ni geisio tân i ddyfod i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Elïas? 55Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba yspryd yr ydych. 56Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w gwared. A hwy a aethant i dref arall. 57A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 58A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffauau, a chan adar yr awyr nythod; ond nid oes lle gan Fab y dyn i rhoddi ei ben i lawr. 59Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 60Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw; ond dos di a phregetha freniniaeth Duw. 61Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf ganu yn iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. 62A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ol, yn addas i freniniaeth Duw.

Currently Selected:

Luk 9: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in