YouVersion Logo
Search Icon

Luk 7

7
PENNOD VII.
Christ yn caffael mwy o ffydd yn y canwriad, un o’r Cenhedloedd, nag yn yr un o’r Iudaion: yn iachau ei was: yn cyfodi o farw fab y wraig weddw o Nain: yn atteb cenhadon Ioan: ei feddwl am Ioan: ac yn dangos, trwy achlysur Maria Magdalen, pa fodd y mae efe yn gyfaill i bechaduriaid.
1AC wedi iddo orphen ei holl ymadroddion i osteg y bobl, efe a aeth i mewn i Kapernaum. 2Ac yr oedd gan ganwriad rhyw was, yr hwn oedd anwyl ganddo, yn ddrwg ei hwyl, ac ym mron marw. 3A phan glybu efe son am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iudaion, gan attolwg iddo ddyfod a iachâu ei was ef. 4Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a attolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegyd y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo. 5Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog. 6A’r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod neppell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion atto, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: 7O herwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod attat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. 8Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwŷr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Dyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 9Pan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel. 10A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach. 11A bu ar y foru, iddo ef fyned i ddinas a elwid Naïn; a chyd ag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr. 12A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw; a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi. 13A’r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. 14A phan ddaeth attynt, efe a gyffyrddodd â’r elor (a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant) Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod. 15A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam. 16Ac ofn a ddaeth ar bawb a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; a Duw a ymwelodd â’i bobl. 17A’r gair hwn a aeth allan am dano trwy holl Iudaia, a thrwy yr holl wlad oddi amgylch. 18A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll. 19Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion atto, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 20A’r gwŷr pan ddaethant atto, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni attat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 21A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlaau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. 22A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhâu, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, a’r gostynedig yn derbyn yr efengyl. 23A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi. 24Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Beth yr aethoch allan i’r lle anghyfanedd i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wŷnt? 25Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad hardd? Wele, y rhai sy’n arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd ydynt. 26Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a mwy rhagorol nâ phrophwyd. 27Hwn yw efe am yr un yr ysgrifenwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barattoa dy ffordd o’th flaen. 28Canys meddaf i chwi, Ym mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes brophwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr; eithr yr hwn sydd leiaf yn freniniaeth Duw, sydd fwy nag ef. 29A’r holl bobl a’r oedd yn gwrandaw, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan. 30Eithr y Pharisai a’r cyfreithwŷr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gynghor Duw, heb eu bedyddio ganddo. 31A ddywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg? 32Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad leoedd, ac yn galw ar eu gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch. 33Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwytta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. 34Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. 35A doethineb a gyfiawnhawyd gan pawb o’i phlant. 36Ac un o’r Pharisai a ddymunodd arno fwytta gyd ag ef: ac yntau a aeth i dŷ y Pharisai, ac a eisteddodd i fwŷtta. 37Ac wele gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd at y bwrdd yn nhŷ y Pharisai, a ddug flwch o ennaint: 38A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ol, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint. 39A phan welodd y Pharisai, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, Pe bai hwn brophwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw yr hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi. 40A’r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athraw, dywed. 41Dau ddyledwr oedd i’r un echwynwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. 42A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf? 43A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist. 44Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? mi a ddaethum i’th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen. 45Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddaethum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. 46Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint, 47O herwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegyd hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig. 48Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. 49A’r rhai oedd yn cyd eistedd i fwytta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pa fath yw hwn sydd hefyd yn maddeu pechodau? 50Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.

Currently Selected:

Luk 7: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in