YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 6

6
PENNOD VI.
Christ yn porthi pum mil o bobl â phum torth, a dau bysgodyn. A’r bobl yn ceisio ei wneuthur ef yn frenin. Ag yntau yn cilio o’r neilldu, ac yn rhodio ar y llyn, ac yn ceryddu y bobl oeddynt gnawdol wrandaw-wŷr ei air: ac yn dangos mai efe yw bara y bywyd i’r ffyddloniaid. Llawer o ddisgyblion yn ymadael ag ef. Pedr yn ei gyffesu ef. Iudas yn gythraul.
1WEDI y pethau hyn yr aeth yr Iesu dros lyn Galilaia, hwnnw yw llyn Tiberias. 2A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. 3A’r Iesu a aeth i fynu i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyd â’i ddisgyblion. 4A’r pasg, gwledd yr Iudaion, oedd yn agos. 5Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod atto; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta? 6(A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd ar fedr ei wneuthur.) 7Philip a’i hattebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un o honynt gymmeryd ychydig. 8Un o’i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, a ddywedodd wrtho, 9Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer? 10A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghŷlch pum mil o nifer. 11A’r Iesu a gymmerth y torthau, ac wedi iddo ddïolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymmaint ag a fynnasent. 12Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briw-fwyd gweddill, fel na choller dim. 13Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briw-fwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwyttasent. 14Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai yr Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y prophwyd oedd ar ddyfod i’r byd. 15Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, wrth ei hunan. 16A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i wared at y llyn. 17Ac wedi iddynt fyned i fâd, hwy a aethant dros y llyn i Kapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai attynt. 18A’r llyn a gododd, gan wŷnt mawr yn chwythu. 19Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y llyn, ac yn nesâu at y bâd; ac a ofnasant. 20Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. 21Yna y derbyniasant ef yn llawen i’r bâd: ac yn ebrwydd yr oedd y bâd wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo. 22Ar y foru pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r llyn, nad oedd un bâd arall yno ond yr un hwnnw i’r hwn yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai yr Iesu gyd â’i ddisgyblion i’r bâd, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain: 23(Eithr bâdau eraill a ddaethent o Tiberias yn gyfagos i’r fan lle y bwyttasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi dïolch) 24Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i fâdau, ac a ddaethant i Kapernaum, dan geisio yr Iesu. 25Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r llyn, hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, pa bryd y daethost ti yma? 26Yr Iesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid o herwydd i chwi weled y gwŷrthiau, eithr o herwydd i chwi fwytta o’r torthau, a’ch digoni. 27Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd y Tad, ïe, Duw. 28Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithom weithredoedd Duw? 29Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd ef. 30Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? 31Ein tadau ni a fwyttasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwytta. 32Yna y Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni roddodd Moses i chwi y bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi y gwir fara o’r nef. 33Canys bara Duw ydyw yr hwn sydd yn dyfod i wared o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni y bara hwn yn wastadol. 35A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara y bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod attaf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda byth. 36Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. 37Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi, a ddaw attaf fi: a’r hwn a ddêl attaf fi, ni’s bwriaf ef allan. 38Canys myfi a ddisgynais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. 39A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf. 40A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragywyddol: a myfi a’i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf. 41Yna yr Iudaion a rwgnachasant yn ei erbyn ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw y bara a ddaeth i wared o’r nef. 42A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Ioseph, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, Mi ddisgynais o’r nef. 43Yna yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, na wrwgnachwch wrth eich gilydd. 44Ni ddichon neb ddyfod attaf fi, oddi eithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf. 45Y mae yn ysgrifenedig yn y prophwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod attaf fi. 46Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. 47Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragywyddol. 48Myfi yw bara y bywyd. 49Eich tadau chwi a fwyttasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. 50Hwn yw y bara sydd yn dyfod i wared o’r nef, fel y bwyttao pob un o hono, ac na byddo marw. 51Myfi yw y bara bywiol, yr hwn a ddaeth i wared o’r nef. Pwy bynnag a fytto o’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf dros fywyd y byd. 52Yna yr Iudaion a ymrysonasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwytta? 53Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwyttêwch gnawd Mab y dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch. 54Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragywyddol: ac myfi a’i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf. 55Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddïod yn wir. 56Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy y Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwytta i, yntau a fydd byw trwof fi. 58Dyma’r bara a ddaeth i wared o’r nef: nid megis y bwyttaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwytta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. 59Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yn Kapernaum. 60Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw yr ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrandaw arno? 61Pan wybu yr Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi? 62Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen? 63Yr yspryd yw yr hyn sydd yn bywhâu; y cnawd nid yw yn llesâu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt. 64Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef. 65Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod attaf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad. 66O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hol, ac ni rodiasant mwyach gyd ag ef. 67Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? 68Yna Simon Pedr a’i hattebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragywyddol. 69Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw y Christ, Mab y Duw byw. 70Iesu a’u hattebodd, Oni ddewisais i chwi y deuddeg, ac o honoch y mae un yn gamgyhyddwr? 71Eithr efe a ddywedasai am Iudas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.

Currently Selected:

Ioan 6: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in