YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 42

42
SALM XLII A XLIII
CÂN YR ALLTUD
O Lyfr Canu’r Pencerdd. Salm y Corachiaid.
A ddarlleno, ystyried!
XLII:
1Fel ewig a hiraetha am nentydd dwfr,
Felly yr hiraetha f’enaid am danat Ti, O Dduw.
2Sychedig yw f’enaid am Dduw, am Dduw fy mywyd:
Pa bryd y caf ddyfod i edrych ar wyneb Duw?
3Dagrau oedd fy mwyd ddydd a nos,
A hwythau’n gofyn imi beunydd, “Ple mae dy Dduw?”
4Llethid fi’n llwyr gan fy nheimladau dwys
Pan gofiwn fel y cerddwn gynt
I’r babell hardd, i Dŷ Dduw, â llawen floedd a moliant,
Yng nghanol murmur y pererinion.
5 Paham, f’enaid yr anobeithi?
A phaham y griddfeni o’m mewn?
Gobeithia yn Nuw;
Canys caf eto ei foliannu Ef, iechyd fy wyneb a’m Duw.
6Y mae f’enaid yn anobeithio:
Am hynny Dy gofio Di a fynnwn
O fro Iorddonen a Hermon, o fryn Misar.
7Yn nwndwr Dy raeadrau Di clywaf ddyfnder
Yn galw ar ddyfnder:
Dy holl donnau a’th lifeiriaint a aeth dros fy mhen.
8Gorchmynned Iehofa ei drugaredd i mi liw dydd,
A bydded cân gyda mi liw nos, a honno yn gân
O foliant i Dduw fy mywyd.
9Dywedaf wrth Dduw fy Nghraig, “Paham yr anghofi fi?
Paham y mae’n rhaid i mi rodio’n alarus
Ynghanol gorthrymder gelynion?”
10Pan ddywedant “Ple mae dy Dduw?”,
Y mae eu gwaradwydd i mi fel malurio f’esgyrn.
11 Paham, f’enaid, yr anobeithi?
A phaham y griddfeni o’m mewn?
Gobeithia yn Nuw;
Canys caf eto ei foliannu Ef, iechyd fy wyneb a’m Duw.

Currently Selected:

Salmau 42: SLV

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in