Λογότυπο YouVersion
Εικονίδιο αναζήτησης

Matthew 25

25
Dammeg y Deg Morwyn.
1Yna y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddeg morwyn, y cyfryw a gymmerasant eu lampau#25:1 Lampas; golyga y gair yn benaf ffagl, yna lamp. (Gweler Dad 4:5; 8:10). Yma, efallai, lamp yw y mwyaf priodol fel yn cael ei dwyn gan forwynion., ac a aethant allan i gyfarfod y priodfab. 2A phump o honynt oedd ffol#25:2 Felly א B C D Z L Brnd.; ddoeth, ffol X., a phump oedd ddoeth#25:2 Phronimoi, call, synwyrol, pwyllog, &c.#25:2 Felly א B C D Z L Brnd.; ddoeth, ffol X.. 3Canys#25:3 Canys א B C Brnd. y rhai ffol a gymmerasant eu lampau, ond ni chymmerasant olew gyda hwynt; 4ond y doeth a gymmerasant olew yn y llestri#25:4 [dim nodyn] gyda'u lampau. 5A chan fod y priodfab yn oedi, hwy oll a hepiasant ac a gysgasant. 6Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y priodfab#25:6 Yn dyfod X; Gad. א B C Brnd., ewch allan i'w gyfarfod ef. 7Yna y cyfododd yr holl forwynion hyny, ac a drwsiasant eu lampau eu#25:7 Eu hunain א A B Z L Brnd.; eu [lampau] C D. hunain. 8A'r rhai ffol a ddywedasant wrth y rhai doeth, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi, canys y mae ein lampau ni yn diffoddi. 9A'r rhai doeth a atebasant, gan ddywedyd, Rhag na fyddo digon i ni ac i chwithau, ewch#25:9 Ond [de] C Z L K; Gad. א A B D &c., Brnd. yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10A thra yr oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod a aethant i fewn gydag ef i'r briodas‐wledd; a chauwyd y drws. 11Wedi hyny y daeth y morwynion ereill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid wyf yn eich adwaen. 13Gwyliwch gan hyny, canys nid adwaenoch y dydd na'r awr#25:13 Y daw Mab y Dyn Gad. א A B C D Brnd..
Y ddyledswydd o ffyddlondeb.
[Luc 19:11–28]
14Canys bydd fel dyn yn myned ymaith#25:14 Hyny yw, i wlad ddyeithr. Y gwrthddrych yma yw Mab y Dyn, neu ei Ddyfodiad, ac nid Teyrnas Nefoedd, fel yn yr Hen Gyfieithiad.: galwodd ei weision ato, ac a roddodd ei feddiannau iddynt. 15Ac i un y rhoddodd efe bum' talent#25:15 Talent, gwerth 3,000 o siclau Iuddewig, a thros £200., ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac#25:15 Ac efe a aeth ymaith yn ebrwydd A C D X Tr. Al. efe a aeth ymaith. 16Ac#25:16 Yn ebrwydd yr hwn a dderbyniodd, &c., א B Ti. WH. Diw. yn ebrwydd#25:16 Gwell cyssylltu y gair hwn, yn ol yr awdurdodau, ag adnod 16 na diwedd y 15. Dengys yni a pharodrwydd y gwas. yr hwn a dderbyniodd y pum' talent a aeth ac a'u defnyddiodd#25:16 Llyth., a weithiodd â hwynt, a wnaeth ddefnydd o honynt, yna a farchnataodd. hwynt, ac#25:16 Ac a ennillodd bump ereill B L La. Tr. WH.; ac a wnaeth bum’ talent ereill א A Δ Ti. Diw. a ennillodd bump ereill. 17A'r un modd yr hwn a dderbyniasai y ddwy a ennillodd ddwy ereill. 18Ond yr hwn a dderbyniasai yr un a aeth ymaith ac a gloddiodd#25:18 Y ddaear א B C L Brnd.; yn y ddaear A D X. y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hyny yn dyfod, ac y mae yn gwneyd cyfrif a hwynt. 20A daeth yr hwn a dderbyniodd bum' talent, ac a ddug bum' talent ereill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum' talent a roddaist#25:20 Llyth., a draddodaist. i mi: wele, pum' talent ereill mi a ennillais#25:20 Atynt A C X.; Gad. א B D L Brnd. ond Al.. 21Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd. 22A daeth hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, gan ddywedyd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist i mi: wele, dwy dalent ereill mi a ennillais. 23Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd. 24A'r hwn hefyd a dderbyniasai yr un dalent a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai dyn caled#25:24 Sklêros, caled, garw, grymus (gwynt cryf, garw, &c.), creulon. Daw o wreiddair a olyga sychu i fyny. ydwyt, yn medi lle nis hauaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: 25ac mi a ofnais, ac a aethum ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, a wyddaist#25:26 Neu, ti wyddost, &c. fy mod yn medi lle nis hauais, ac yn casglu lle ni wasgerais? 27Am hyny y dylesit roddi#25:27 Llyth., daflu [gan ddangos mor hawdd y gallai wneuthur hyn.] fy arian i'r bancwyr#25:27 Neu, arianwyr, gan gymmeryd eu henw oddiwrth y bwrdd wrth yr hwn yr eisteddent., a mi pan ddaethwn a gawswn dderbyn fy eiddo fy hun gyda llog. 28Cymmerwch gan hyny y dalent oddiwrtho, a rhoddwch i'r hwn sydd ganddo y deg talent. 29Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff yn helaeth: eithr yr hwn nid oes ganddo — ïe, dygir oddiarno yr hyn sydd ganddo. 30A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
Y Farn ddiweddaf.
31A phan ddelo Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl Angelion gydag#25:31 Sanctaidd A; Gad. א B D L Brnd. ef, yna yr eistedda ar orsedd ei ogoniant; 32a chydgesglir ger ei fron ef yr holl genedloedd; ac efe a'u didola hwynt#25:32 Hwynt, nid y cenedloedd fel y cyfryw, ond personau. Y mae rhyw y ddau air yn gwahaniaethu. oddiwrth eu gilydd, megys y didola bugail y defaid oddiwrth y geifr; 33ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw; ond y geifr ar yr aswy. 34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi Fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y Deyrnas a barotowyd i chwi er seiliad y byd. 35Canys bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a chwi a'm diodasoch; bum yn ddyeithr, a chwi a'm dygasoch#25:35 Rhoddasoch loches neu letty i mi “Nis gadawsoch fi i aros wrth y drws, ond dygasoch fi i fewn gyda chwi.” i fewn gyda chwi; 36noeth, a chwi a'm dilladasoch; bum yn glaf, a chwi a ymwelsoch a mi; bum yn ngharchar, a daethoch ataf. 37Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, Pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y'th ddiodasom? 38A pha bryd y'th welsom yn ddyeithr, ac y'th ddygasom i fewn gyda ni? neu yn noeth, ac y'th ddilladasom? 39A pha bryd y'th welsom yn glaf, neu yn ngharchar, ac y daethom atat ti? 40A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, mor bell ag y gwnaethoch#25:40 Neu, Yn gymmaint â'i wneuthur o honoch hyn i un o'm brodyr, ïe, y rhai lleiaf, i mi y gwnaethoch.
41Yna y dywed efe wrth y rhai ar y llaw aswy, Ewch oddiwrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol#25:41 Aionios, deilliedig o aion, oes, byd; yna oes anfesurol, a dynoda yr ansoddair yr un peth a'r cyfuniad, “yn oes oesoedd.” Darllenwn, “y tragwyddol Dduw,” Rhuf 16:26, “yr yspryd tragwyddol,” Heb 9:14. Golyga yr hyn sydd heb ddechreu, Rhuf 16:25; 2 Tim 1:9; Titus 1:2; yr hyn sydd heb ddiwedd, 2 Cor 4:18; 2 Tim 2:10; Heb 9:12, &c., yr hwn sydd wedi ei barotoi i'r Diafol, ac i'w Angelion. 42Canys bum newynog, ac ni roisoch i mi ddim i fwyta; bu arnaf syched, ac ni roisoch i mi ddim i yfed; 43bum ddyeithr, ac ni'm dygasoch i fewn gyda chwi; noeth, ac ni'm dilladasoch; yn glaf, ac yn ngharchar, ac ni ymwelsoch a mi. 44Yna yr atebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddyeithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yn ngharchar, ac ni weiniasom i ti? 45Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir, meddaf i chwi, mor bell ag nis gwnaethoch i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minau. 46A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol#25:46 Aionios, deilliedig o aion, oes, byd; yna oes anfesurol, a dynoda yr ansoddair yr un peth a'r cyfuniad, “yn oes oesoedd.” Darllenwn, “y tragwyddol Dduw,” Rhuf 16:26, “yr yspryd tragwyddol,” Heb 9:14. Golyga yr hyn sydd heb ddechreu, Rhuf 16:25; 2 Tim 1:9; Titus 1:2; yr hyn sydd heb ddiwedd, 2 Cor 4:18; 2 Tim 2:10; Heb 9:12, &c..

Επιλέχθηκαν προς το παρόν:

Matthew 25: CTE

Επισημάνσεις

Κοινοποίηση

Αντιγραφή

None

Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε