Matthew 20
20
Dammeg y llafurwyr a'u tâl.
1Canys Teyrnas Nefoedd sydd debyg i Feistr tŷ, yr hwn a aeth allan gyda'r wawr i gyflogi gweithwyr i'w winllan. 2Ac wedi cytuno â'r gweithwyr am ddenarion#20:2 Gweler Mat 18:28. y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan. 3Ac efe a aeth allan yn nghylch y drydedd awr#20:3 Naw yn y boreu., ac a welodd ereill yn sefyll yn y farchnadle yn segur. 4Ac wrthynt hwy y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i'r winllan, a pha beth bynag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith. 5Ac efe a aeth allan drachefn yn nghylch y chweched#20:5 Canol dydd. a'r nawfed#20:5 Tri yn y prydnawn. awr, ac a wnaeth yr un modd. 6Ac yn nghylch yr unfed awr ar ddeg#20:6 Awr cyn machludiad haul., efe a aeth allan ac a gafodd ereill yn sefyll#20:6 yn segur C; gad. א B D Brnd., ac a ddywed wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? 7Dywedant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywed yntau wrthynt, Ewch chwithau hefyd i'r winllan#20:7 A pha beth bynag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch C N X 33; gad. א B D Z L Brnd.. 8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywed wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf. 9A phan ddaeth y rhai a gyflogasid yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, derbyniasant bob un ddenarion. 10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, a hwy hefyd a gawsant bob un y ddenarion. 11Ac wedi iddynt gael, hwy a rwgnachasant yn erbyn Meistr y tŷ, 12gan ddywedyd, Y rhai diweddaf hyn, un awr y gweithiasant#20:12 Llyth., un awr a wnaethant, hyny yw, a dreuliasant yn hytrach nag a weithiasant. Awgryma y grwgnachwyr na ddarfu i'r rhai hyn weithio ond yn unig aros am neu dreulio awr yn y winllan. Yr un ferf (poieô) a gyfieithir aros yn Act 15:33, treulio Act 18:23. Gwel hefyd Act 20:3; 2 Cor 11:25; Iago 4:13., a thi a'u gwnaethost hwy yn gydradd a ninau, y rhai ydym wedi dwyn pwys y dydd, a'r gwres tanllyd#20:12 O'r ferf kaiô, llosgi, dynoda wres y poethwynt dwyreiniol.. 13Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Gyfaill#20:13 Llyth. gydymaith. Dengys foesgarwch yn nglyn â cherydd. Defnyddir ef bedair o weithiau yn y T.N.; yn Mat 22:12 [am yr hwn nad oedd ganddo y wisg briodas]; yn 26:50 [am Judas, pan y bradychodd Grist]; ac yn 11:16., nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi; onid am ddenarion y cytunaist â mi? 14Cymmer i fyny yr eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn yr un modd ag i tithau. 15Ai nid rhydd i mi wneuthur yr hyn a fynwyf â'm heiddo#20:15 Llyth. yn fy mhethau fy hun. Felly, gallwn ddarllen, yn fy materion fy hun. fy hun? Neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg#20:15 Anhael, cybyddlyd [gweler 16:4] am fy mod I yn dda? 16Felly, y rhai olaf fyddant flaenaf, a'r blaenaf olaf#20:16 Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis C D N La. [Tr.] [Al.]; gad. א B L Z Ti. WH. Diw. [Efallai o Mat 20:14].
Crist yn rhagddywedyd ei farwolaeth y drydedd waith.
[Marc 10:32–34; Luc 18:31–34]
17Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerusalem, efe a gymmerth y Deuddeg#20:17 Dysgybl B C N Al. [WH.] Diw.; gad. א D L Z Ti. Tr. o'r neilldu, ac ar y ffordd efe a ddywedodd wrthynt, 18Wele yr ydym ni yn myned i fyny i Jerusalem, a Mab y Dyn a draddodir i'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, 19ac a'i traddodant ef i'r cenedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio, a'r trydydd dydd y#20:19 y cyfodir ef [y dihunir ef] א C L Z Brnd.; yr adgyfyd B D La. cyfodir ef.
Uchelgeisiaeth fydol yn mhlant y Deyrnas.
[Marc 10:35–45; Luc 22:24–27]
20Yna y daeth ato ef fam meibion Zebedeus gyda'i meibion, gan addoli, a deisyf rhywbeth ganddo. 21Ac Efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeheu, a'r llall ar dy law aswy, yn dy Deyrnas. 22A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y cwpan yr ydwyf fi ar ei yfed#20:22 a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir I ag ef? C X Δ; gad. א B D L Z Brnd. [o Marc 10:38].? Dywedant wrtho, Gallwn. 23Efe a ddywed wrthynt, Y cwpan yn wir chwi a yfwch#20:23 a bedyddir chwi â'r bedydd y'm bedyddir I ag ef C X Δ; gad. א B D L Z Brnd., eithr eistedd ar fy llaw ddeheu ac ar yr aswy nid eiddo fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu gan fy Nhad. 24A phan glybu y deg hwy a sorasant#20:24 Llyth. a deimlasant boen, a friwiwyd yn eu teimlad, a ffromasant. yn nghylch y ddau frawd. 25A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt. 26Eithr nid felly y#20:26 y mae B D Z Tr. La. WH.; y bydd א C L Al. Ti. mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith chwi, a#20:26 a fydd א B C D Z X Δ Brnd.; bydded L H. fydd yn weinidog#20:26 Diakonos, gweinydd, gwas, yn enwedig i freninoedd, llywiawdwyr, neu rai mewn awdurdod. Cyflea y gair y meddylddrych o weithgarwch, ac felly, dynoda waith y gwas yn hytrach na'i sefyllfa israddol. Hyn a ddynodir gan doulos, caethwas, yr hwn a gyfieithir yn was yn yr adnod. i chwi; 27a phwy bynag a ewyllysio fod yn flaenaf, efe a#20:27 a fydd א C D Z L Δ Brnd.; bydded B X. fydd yn was i chwi. 28Megys na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth#20:28 Lutron, pris gollyngdod, prynwerth, iawn. dros#20:28 Llyth., yn lle. lawer.
Y ddau ddeillion a Mab Dafydd.
[Marc 10:46–52; Luc 18:35–43]
29Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef. 30Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd. 31A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent; hwythau a lefasant fwy‐fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd. 32A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, gan ddywedyd, Pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi? 33Dywedant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. 34A'r Iesu a dosturiodd ac a gyffyrddodd â'u llygaid hwynt, ac yn ebrwydd hwy a gawsant eu golwg, a hwy a'i canlynasant ef.
Επιλέχθηκαν προς το παρόν:
Matthew 20: CTE
Επισημάνσεις
Κοινοποίηση
Αντιγραφή
Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.