Λογότυπο YouVersion
Εικονίδιο αναζήτησης

Matthew 18

18
Gwir fawredd yn y Deyrnas.
[Marc 9:33–37; Luc 9:46–48]
1Yn yr awr hono y daeth y Dysgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy ynte sydd fwyaf#18:1 Groeg, fwy. yn Nheyrnas Nefoedd? 2Ac efe a alwodd ato blentyn bychan, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt, 3ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr i chwi droi a dyfod fel plant bychain, nid ewch chwi o gwbl#18:3 Ou me, nid mewn un modd, nid (ewch) ddim. i fewn i Deyrnas Nefoedd. 4Pwy bynag, gan hyny, a ostyngo ei hun fel y plentyn bychan hwn, hwnw yw y mwyaf#18:4 Groeg, fwy. yn Nheyrnas Nefoedd. 5A phwy bynag a dderbynio un cyfryw blentyn bychan yn#18:5 Llyth., ar fy enw I, er mwyn, ar sail, fy enw I. fy enw I, a'm derbyn I. 6Eithr pwy bynag a rwystro#18:6 Gweler v. 29, “a achosa iddynt dramgwyddo, syrthio, trwy osod magl neu unrhyw rwystr o'u blaen.” un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, buddiol ydyw iddo i faen#18:6 Llyth., y maen a droir gan asyn. Yr oedd dau fath o felinau — un a droid â llaw, a'r llall, a'r fwyaf, gan asyn; yr oedd y maen isaf yn sefydlog. mawr melin gael ei grogi am ei wddf a'i suddo yn eigion y môr.
Annogaeth i ochelyd rhwystrau.
[Marc 9:42–50; Luc 17:1–3]
7Gwae y byd o herwydd rhwystrau#18:7 Maglau, achosion neu achlysuron rhwystrau., canys angenrhaid yw i'r rhwystrau#18:7 Maglau, achosion neu achlysuron rhwystrau. ddyfod; er hyny, gwae y dyn drwy yr hwn y mae y rhwystr#18:7 Maglau, achosion neu achlysuron rhwystrau. yn dyfod. 8Ac os dy law neu dy droed a'th rwystra#18:8 Maglau, achosion neu achlysuron rhwystrau., tòr hi#18:8 Hi א B D L Brnd.; hwynt X. ymaith, a thafl oddiwrthyt: da i ti fyned i fewn i'r bywyd yn gloff neu yn anafus nag â chenyt ddwy law neu ddwy droed, dy daflu i'r tân tragwyddol. 9Ac os dy lygad a'th rwystra#18:9 Maglau, achosion neu achlysuron rhwystrau., tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt: gwell i ti yn un‐llygeidiog fyned i fewn i'r bywyd nag â dau lygad genyt dy daflu i'r Gehenna#18:9 Gweler pennod 5:22. o dân.
Am beidio dirmygu rhai bychain y Deyrnas
[Luc 15:1–7]
10-11Edrychwch na ddirmygoch un o'r rhai bychain hyn, canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod eu hangylion hwy yn y Nefoedd bob amser yn syllu#18:10–11 Blepô, sylwi ar, edrych ar, craffu ar. ar wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.#18:10–11 Adn 11, “Canys daeth Mab y Dyn i gadw yr hyn a gollasid” D Δ; gad. א B L Brnd. [o Luc 19:10]. 12Beth dybiwch chwi? O bydd i unrhyw ddyn gant o ddefaid, a chrwydro o un o honynt, oni âd efe y naw deg a naw ar y mynyddoedd#18:12 Neu, “Oni âd efe y naw deg a naw a myned i'r [llyth., ar y] mynyddoedd,” &c., a myned a cheisio yr hon a grwydrasai? 13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am hono yn fwy nag am y naw deg a naw y rhai ni chrwydrasant. 14Felly, nid yw ewyllys eich#18:14 Eich Tad א D L Ti. Al. Diw.; fy Nhad B F Tr. La. WH. Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd, golli un o'r rhai bychain hyn.
Iawn Ddysgyblaeth
[Luc 17:3, 4]
15Ac os pecha dy frawd#18:15 I’th erbyn D Tr. Diw.; gad. א B Al. La. Ti. WH., dos, a dwg ef i gyfrif#18:15 Elegchô, argyhoeddi, ceryddu, dwyn i gyfrif. rhyngot ti ac ef ei hun; os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd. 16Eithr os efe ni wrendy#18:16 Parakouô, gwrthod gwrando, diystyru, anufuddhau., cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel wrth enau dau neu dri o dystion y byddo safadwy bob gair#Deut 19:15 17Ac os efe ni wrendy#18:17 Parakouô, gwrthod gwrando, diystyru, anufuddhau. arnynt hwy, dywed i'r eglwys#18:17 Neu gynnulleidfa.; ac os efe ni wrendy#18:17 Parakouô, gwrthod gwrando, diystyru, anufuddhau. ar yr eglwys#18:17 Neu gynnulleidfa. chwaith, bydded i ti fel y Cenedlddyn#18:17 Neu bagan, annghredadyn, un dyeithr i addoliad y gwir Dduw. neu y Trethgasglwr. 18Yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynag a rwymoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhwymo yn y Nef, a pha bethau bynag a ryddhaoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhyddhau yn y Nef. 19A thrachefn meddaf i chwi, Os cytuna dau o honoch ar y ddaear yn nghylch unrhyw fater am yr hwn y gofynant, efe a roddir iddynt oddiwrth fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd. 20Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn#18:20 Llyth., i fy enw I; hyny yw. Crist neu ei enw yw y canolbwynt at yr hwn y cyrchant. Am dano Ef y meddyliant, Efe a addolant, ynddo Ef yr ymsymmudant ac y byddant byw; deuant ato, ac arosant ynddo. fy enw I, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Am faddeuant.
21Yna y daeth Petr ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? hyd seithwaith? 22Yr Iesu a ddywed wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd, Hyd seithwaith, ond, Hyd ddeg‐a‐thri‐ugain seithwaith#18:22 Hyny yw, Pedwar cant a naw deg o weithiau, sef nifer anmhennodol neu annherfynol. Ereill a gyfieithant, Saith deg a saith (nifer mesur cospedigaeth Lamech, Gen 4:24; nifer y cenedlaethau o Adda i Grist; hyny yw, y nifer angenrheidiol i ddwyn i fewn faddeuant perffaith.). 23Am hyny y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a fynai wneuthur cyfrif â'i weision. 24A phan ddechreuodd gyfrif, fe ddygwyd ato un oedd ddyledwr am ddeg mil o dalentau#18:24 Talent, gwerth tua dau cant a deugain o bunnau, os y dalent Roegaidd a olygir. Felly, yr oedd y deg mil yn werth y swm enfawr o yn agos i ddwy filiwn a hanner o bunnau. Os y dalent Syriaidd a olygir, yr oedd o werth tua hanner cant o bunnau, ac felly, yr oedd yr oll yn cyrhaedd y swm o £500,000!; 25a chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a'r hyn oll a feddai, a chael ei dalu. 26Y gwas, gan hyny, a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd#18:26 Arglwydd א Diw.: gad. B D Brnd., Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. 27Ac Arglwydd y gwas hwnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd ymaith, ac a faddeuodd iddo y ddyled#18:27 Llyth. benthyg, echwyn.. 28Eithr y gwas hwnw a aeth allan, ac a ddaeth o hyd i un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn denarion#18:28 Dênarion, dernyn arian, gwerth tuag wyth ceiniog a dimai o'n harian ni. Cyfieithir y gair hwn “ceiniog” yn ein Testament, ond y mae y cyfieithiad hwn yn gamarweiniol. Buasai “swllt” yn agosach; ond gwell trosglwyddo y gair gwreiddiol i'n testyn, fel y gwnawd â “synagog,” “phylacterau,” &c. Nid oedd y can' denarion ond gwerth pum' punt — ychydig mewn cymhariaeth i'r deg mil o dalentau., ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd#18:28 Neu, a'i cymmerodd gerfydd ei wddf., gan ddywedyd, Tâl#18:28 i mi C; gad. א B D L Brnd. yr hyn sydd ddyledus arnat. 29A syrthiodd ei gydwas i lawr#18:29 wrth ei draed ef Δ; gad. א B C D L Brnd., ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti#18:29 y cwbl oll L; gad. א B C D &c., Brnd.. 30Eithr nis mynai efe; eithr gan fyned ymaith, efe a'i bwriodd ef i garchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. 31Gan hyny, pan welodd ei gydweision y pethau a wnaethpwyd, bu ddrwg#18:31 Neu, Aethant yn ofidus iawn. dros ben ganddynt; a hwy a ddaethant ac a eglurasant i'w harglwydd#18:31 i'w harglwydd D L; i'w harglwydd eu hunain א B C Δ Brnd. eu hunain yr hyn oll a ddygwyddasai. 32Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywed, O was drwg#18:32 Gweler 16:4.! mi a faddeuais i ti yr holl ddyled hono, am i ti ymbil â mi; 33ac oni ddylesit tithau hefyd drugarhau wrth dy gydwas, megys y trugarheais inau wrthyt tithau? 34A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i traddododd ef i'r poenydwyr#18:34 Neu, profwyr — ceidwaid carcharau ac ereill, y rhai a ddefnyddient y ddirdynglwyd, &c., er mwyn dyfod o hyd i'r gwirionedd., hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus. 35Ac felly y gwna fy Nhad Nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i'w frawd o'ch calonau.

Επιλέχθηκαν προς το παρόν:

Matthew 18: CTE

Επισημάνσεις

Κοινοποίηση

Αντιγραφή

None

Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε